Gwthio'r ffiniau: y Bil Arloesi Meddygol a'r cyfansoddiad

Cyhoeddwyd 03/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Bydd y Cynulliad yn pleidleisio heddiw ar p'un a ddylai gymeradwyo Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Arloesi Meddygol yr Arglwydd Saatchi. Y broses Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yw sut y mae'r Cynulliad yn cytuno, neu'n gwrthod cytuno, i Senedd y DU basio deddfau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru. Mae trafodaeth wedi bod yn ddiweddar ynghylch a yw'r Bil Arloesi Meddygol yn ymwneud â materion datganoledig ai peidio, ac a oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Yn ôl Llywodraeth y DU, mae'r Bil yn ymwneud â newid y gyfraith gamweddau, nad yw'n fater datganoledig, ac felly nid oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cytuno a dywed fod y Bil yn ymwneud ag iechyd, sy'n fater datganoledig. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Gan ychwanegu at y ddadl ymhellach, cred Llywodraeth Cymru fod y Bil yn ddiangen ac na ddylai fod yn gymwys i Gymru. [caption id="attachment_2276" align="alignright" width="256"]Llun: o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Beth mae'r Bil yn cynnig ei wneud?

Mae'r Bil Arloesi Meddygol yn Fil Aelod Preifat a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi gan yr Arglwydd Saatchi. Diben y Bil yw annog arloesedd cyfrifol mewn triniaethau meddygol. Yn benodol, ni fyddai'n esgeulus i feddyg symud o driniaethau meddygol derbyniol ar gyfer cyflwr os caiff y penderfyniad i wneud hynny ei wneud mewn ffordd gyfrifol. Dim ond er mwyn gwella buddiannau'r claf y gellir defnyddio'r Bil. Ni ellir defnyddio'r Bil at ddibenion eraill, fel gwaith ymchwil. Mae'r Bil yn egluro nad yw'r gyfraith gyffredin sy'n ymwneud â symud o driniaethau meddygol derbyniol wedi newid. Yn ôl safbwynt cyfraith gyffredin, ni fydd symud o driniaethau meddygol derbyniol yn cyfrif fel esgeuluster ar yr amod y caiff y penderfyniad ei gefnogi gan gorff cyfrifol o farn feddygol. Bydd y Bil yn cael ei ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin ar 27 Chwefror.

Beth sydd gan Lywodraeth y DU i'w ddweud?

Mae Llywodraeth y DU yn cefnogi'r Bil ac yn dweud ei fod yn ymwneud â mater sydd heb ei ddatganoli. Mae'r Iarll Howe, Is-ysgrifennydd Gwladol Ansawdd yr Adran Iechyd wedi dweud:
The operative provisions of the Bill relate entirely to modifying the law of tort, which is a reserved matter. The Bill can fairly and realistically be classified as relating to a non-devolved subject, and therefore not within the competence of the National Assembly for Wales.

Beth yw’r farn yng Nghymru?

Yn ddiweddar, ysgrifennodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd, at Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad i roi amlinelliad o safbwynt Llywodraeth Cymru. Yn ôl y Gweinidog, nid yw'r Bil yn gyson â'r ‘egwyddorion sylfaenol, yr ydym am eu hysgogi i wella’r GIG yng Nghymru’, ac nid oes unrhyw dystiolaeth y caiff gofal arloesol ei atal gan ofnau meddygon mewn perthynas ag esgeuluster clinigol. Dywed hefyd:
Mae'n ymddangos inni, felly, fod rheol y gyfraith gyffredin bresennol, sef nad esgeuluster yw gwyro o'r ystod presennol o driniaethau meddygol arferol ar gyfer cyflwr, os yw gwneud hynny'n cael ei gefnogi gan gorff cyfrifol o farn feddygol, yn gweithio'n dda, ac nid oes angen llwybr arall sy'n caniatáu i feddyg ymgymryd â 'gofal arloesol cyfrifol' yn ôl yr hyn sydd wedi'i amlinellu yn y Bil.
Edrychodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ym mis Ionawr. Yn ei adroddiad, dywed y Pwyllgor ei fod yn cytuno â Llywodraeth Cymru bod angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Barn y Pwyllgor yw bod y darpariaethau yn y Bil fel y maent wedi'u drafftio ar hyn o bryd yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Felly, mae'n cytuno â Llywodraeth Cymru bod angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Tynnodd y Pwyllgor sylw hefyd at y ffaith bod y mwyafrif o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad wedi mynegi pryderon, fel p'un a oes angen am y Bil, ac a allai arwain at ddryswch ac ansicrwydd diangen. Roedd eraill, er eu bod o blaid nodau'r Bil, yn cwestiynu a fyddai'r Bil fel y'i drafftiwyd yn cyflawni'r nodau hynny. Dyma gasgliad y Pwyllgor:
Mae'n bwysig bod cleifion yn gallu elwa o driniaethau arloesol priodol os mai dyna sydd orau iddynt ond, ar sail y dystiolaeth sydd ar gael hyd yma, nid yw'r Pwyllgor wedi'i ddarbwyllo eto y byddai'r Bil hwn yn cyflawni ei nod datganedig o annog arloesi o'r fath. Felly nid yw'r Pwyllgor wedi'i ddarbwyllo eto bod y Bil yn gyfrwng priodol i ddeddfu er mwyn cyflawni ei nodau datganedig.

Beth fydd yn digwydd os bydd y Cynulliad yn pleidleisio yn erbyn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol?

Er bod gan y Cynulliad y pŵer i ddeddfu mewn 20 maes datganoledig, mae Senedd y DU yn cadw'r awdurdod i ddeddfu ar unrhyw fater sy'n ymwneud â Chymru pa un ag ydyw wedi'i ddatganoli ai peidio. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a Chytundebau Atodol yn nodi proses y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, sef y confensiwn bod yn rhaid i Senedd y DU gael cytundeb y Cynulliad i basio deddfau sy'n ymwneud â maes datganoledig. Mae'r Memorandwm yn rhoi amlinelliad o'r egwyddorion cydweithredu sy'n tanategu'r gydberthynas rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig. Yn ôl y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth:
… bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu’n unol â’r confensiwn na fydd Senedd y DU, yn arferol, yn deddfu ar faterion datganoledig heb gytundeb y ddeddfwrfa ddatganoledig.
Felly, y cwestiwn pwysig yw, a yw'r Bil Arloesi Meddygol yn ymwneud â mater datganoledig ai peidio? Mae'r Cynulliad wedi gwrthod rhoi cydsyniad i ddarpariaethau yn neddfwriaeth y DU sy'n effeithio ar faterion datganoledig bedair gwaith. Gweler y blog-bost blaenorol: Memorandwm ynghylch y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol
Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.