Cynllun Buddsoddi Ewrop: camau nesaf Juncker, y Llywydd

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddodd Llywydd yr UE, Jean-Claude Juncker, ei gynllun buddsoddi i roi hwb i economi Ewrop (ystyriwyd y cynlluniau cychwynnol hyn, a’r cyfleoedd posibl i Gymru mewn blog blaenorol). Ers hynny, mae rhagor o fanylion wedi dod i’r amlwg. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi dechrau’r broses ddeddfwriaethol sydd ei hangen i roi rhai o’r cynlluniau hyn ar waith ac mae gwleidyddion Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Ewrop wedi cael cyfle i drafod y cynigion gyda swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd.

I grynhoi, mae’r cynllun yn cynnwys tair prif elfen:

  • Creu Cronfa Buddsoddi Strategol Ewropeaidd (EFSI). Nod y Gronfa hon yw buddsoddi o leiaf €315 biliwn mewn prosiectau dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys €21 biliwn o arian cyhoeddus.
  • Creu casgliad o brosiectau hyfyw i fuddsoddi ynddynt, gan sicrhau bod gwybodaeth ar gael am y prosiectau hyn i fuddsoddwyr cyhoeddus a phreifat. Byddai’r cynigion yn cael cymorth technegol gan staff y Comisiwn.
  • Cynllun i ddileu biwrocratiaeth a rhwystrau eraill sy’n ei gwneud yn anodd buddsoddi yn Ewrop.

Pa fath o brosiectau yng Nghymru fyddai’n cael arian?

Llun: o Wicipedia Wikimedia gan Avij. Dan drwydded Creative Commons

Llun: o Wicipedia Wikimedia gan Avij.
Dan drwydded Creative Commons

Cyn y Nadolig, cyhoeddodd Tasglu Buddsoddi’r UE adroddiad yn nodi prosiectau buddsoddi posibl ym mhob Aelod-wladwriaeth. Er nad yw’r ffaith bod Aelod-wladwriaeth yn cael ei chynnwys ar y rhestr hon yn gwarantu y caiff arian o’r EFSI, mae’n dangos sut fath o brosiectau y gellid eu hariannu ar ôl penderfynu ar y meini prawf perthnasol. Dyma’r prosiectau posibl a fyddai wedi’u lleoli yng Nghymru, neu’n rhannol yng Nghymru:

  • Ynys Ynni Môn: cyfres o fuddsoddiadau integredig mewn ynni carbon isel yn seiliedig ar fuddsoddiad o £8 biliwn yn y diwydiant niwclear.
  • Morlyn Llanw Bae Abertawe: adeiladu morlyn llanw ym Mae Abertawe rhwng porthladdoedd Abertawe a Chastell-nedd.
  • Datblygu rhwydwaith gwres: mae nifer o brosiectau i greu rhwydwaith gwres ar raddfa eang ar y gweill, gan gynnwys yn Stoke-on-Trent, Tees Valley, Manceinion, Enfield, Exeter, Caerdydd a Gateshead.
  • Rheoli peryglon llifogydd ac erydu arfordirol: adeiladu amddiffynfeydd, systemau draenio trefol cynaliadwy a defnyddio dulliau o reoli tir i atal llifogydd, codi ymwybyddiaeth o lifogydd a chryfhau gallu ardaloedd yng Nghymru i wrthsefyll llifogydd.
  • Y Gronfa Twf Gwyrdd: cynyddu a chyflymu twf prosiectau i roi buddsoddiadau gwyrdd ar waith yng Nghymru.
  • Cynllun Gwarchod yr Amgylchedd: cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy drwy hybu cynlluniau gwarchod yr amgylchedd yng Nghymru.
  • Metro Rhanbarth Prifddinas Caerdydd: rhaglen drafnidiaeth integredig gwerth £3 biliwn yn ne-ddwyrain Cymru.
  • Mae nifer o’r prosiectau hyn yn ymddangos hefyd yn y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Pa ddeddfwriaeth y mae’r Comisiwn wedi’i chyflwyno?

Ar 13 Ionawr 2015 mabwysiadodd y Comisiwn Ewropeaidd y cynnig deddfwriaethol ar gyfer yr EFSI. Bydd yn rhaid i Senedd Ewrop a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd gytuno ar y cynnig cyn y gellir bwrw ymlaen â’r broses ddeddfu i’w droi’n ddeddf.

Mae’r cynnig hwn yn cynnwys manylion y drefn lywodraethu y bydd angen eu sefydlu i benderfynu sut y caiff arian o’r EFSI ei ddyrannu. Mae’r rhain yn cynnwys Bwrdd Llywio a fydd yn penderfynu ar y meini prawf i’w defnyddio wrth ddyrannu’r arian, yn unol â chanllawiau gwleidyddol y Comisiwn. Yna bydd Bwrdd Buddsoddi – a fydd yn cynnwys arbenigwyr annibynnol – yn penderfynu ar geisiadau unigol am arian o’r EFSI. Bydd y Bwrdd Buddsoddi’n gweithio’n ôl y meini prawf a bennir gan y Bwrdd Llywio, ac ni fydd unrhyw gwotâu’n seiliedig ar ddaearyddiaeth na sectorau.

Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys Canolfan Gynghori ynghylch Buddsoddiadau Ewropeaidd, sef gwasanaeth ar gyfer yr UE gyfan i helpu i nodi a datblygu prosiectau posibl i fuddsoddi ynddynt.

Mae’r Comisiwn yn gobeithio y bydd y Senedd a’r Cyngor yn cytuno ar y cynnig erbyn mis Mehefin ac y bydd yr EFSI yn weithredol erbyn canol 2015.

Pa gyfleoedd sydd yng Nghymru?

Yn hanfodol, ni fydd arian yn cael ei ddyrannu ymlaen llaw ar sail ddaearyddol. Bydd llwyddiant y ceisiadau o Gymru yn dibynnu’n llwyr ar eu gallu i fodloni’r meini prawf a bennir gan y Bwrdd Llywio.

Yn sesiwn Pwyllgor Materion Economaidd a Chyllidol Senedd Ewrop a gynhaliwyd ar 26 Ionawr, ymatebodd Jyrki Katainen, Comisiynydd Buddsoddi’r UE, i gwestiwn gan Eva Paunova, ASE sy’n perthyn i Grŵp y Democratiaid Cristnogol, a holodd sut y bydd y Comisiwn yn sicrhau na fydd yr EFSI yn dyfnhau gwahaniaethau economaidd rhanbarthol. Dywedodd y bydd y cymorth technegol sydd ar gael gan y Comisiwn i ddatblygu ceisiadau yn yr holl Aelod-wladwriaethu’n helpu i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn yr un modd. Awgrymodd hefyd y gallai prosiectau yn ardaloedd tlotach yr UE – fel Rwmania a Bwlgaria – fod yn fwy atyniadol oherwydd y posibilrwydd y gellid gweld twf enfawr yn yr ardaloedd hyn.

Fodd bynnag, nid gallu prosiect i ysgogi twf economaidd yw’r unig faen prawf a ddefnyddir i benderfynu sut y dyrennir cyllid EFSI. Mae’r Comisiwn wedi dweud y dylai cyllid EFSI hybu blaenoriaethau polisi’r UE, fel strategaeth Ewrop 2020. Mae hyn yn golygu y bydd meini prawf y Bwrdd Llywio hefyd yn hybu prosiectau a fydd, er enghraifft, yn helpu i greu swyddi, trechu tlodi a datblygu economi carbon isel.

Os hoffech ragor o fanylion am gynigion y Comisiwn ar gyfer yr EFSI, darllenwch y Daflen Cwestiynau ac Atebion a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.