Y Cynulliad i drafod y Bil Cynllunio (Cymru)

Cyhoeddwyd 09/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Bydd y Cynulliad yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru) ar 10 Chwefror. Cyflwynodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol y Bil ar 7 Hydref y llynedd. Mae hanes hir i’r Bil, gan gynnwys adroddiad gan Grŵp Cynghori Annibynnol yn 2012 ar ddiwygio'r system gynllunio yng Nghymru a'r gwaith o graffu ar y Bill Cynllunio drafft yn y Cynulliad yn 2014 – gweler y blog blaenorol. Cyhoeddodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ei adroddiad ar y Bil ar 30 Ionawr a chyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad yntau ar y Bil yr un diwrnod. Ysgrifennodd y Pwyllgor Cyllid hefyd at y Pwyllgor Amgylchedd i roi sylwadau ar yr agweddau ariannol ar y Bil. Mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn gefnogol i egwyddorion cyffredinol y Bil, ond mae wedi gwneud 42 o argymhellion sydd, yn ôl y Pwyllgor "yn ceisio gwneud darpariaethau'r Bil yn fwy democrataidd." [caption id="attachment_2309" align="alignright" width="300"]Llun: Wikimedia gan Jennifer Luther Thomas. Dan drwydded Creative Commons Llun: Wikimedia gan Jennifer Luther Thomas. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Mae’r Pwyllgor yn credu y bydd yr argymhellion hyn, o’u cymryd yn eu cyfanrwydd, yn ymdrin â’r pryderon y bydd y ddeddfwriaeth hon yn creu ‘diffyg democratiadd’ ac y byddant hefyd yn sicrhau bod y system yn fwy effeithlon ac yn fwy cyson”. Dyma rai o'r prif argymhellion:
  • Rhoi statws mwy ffurfiol yn y system gynllunio i ‘Gynlluniau Lleoedd’ ar lefel gymunedol a rhoi mwy o lais i gymunedau wrth baratoi cynlluniau datblygu eraill;
  • Gwelliannau amrywiol i gryfhau'r broses o ystyried effaith cynigion datblygu ar yr iaith Gymraeg;
  • Creu cysylltiadau statudol rhwng cynlluniau trafnidiaeth a chynlluniau defnydd tir a hefyd rhwng cynlluniau morol a chynlluniau’r tir;
  • Peidio ag uno awdurdodau cynllunio lleol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol;
  • Cryfhau'r trefniadau i’r Cynulliad graffu ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a fydd yn disodli Cynllun Gofodol Cymru;
  • Dileu hawliau pleidleisio aelodau anetholedig o Baneli Paneli Cynllunio Strategol a fydd yn gyfrifol am gynhyrchu Cynlluniau Datblygu Strategol ‘rhanbarthol’ newydd mewn rhai rhannau o Gymru;
  • Newidiadau amrywiol i'r gyfundrefn ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol newydd, lle bydd Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar geisiadau penodol – mae’r newidiadau’n cynnwys diffinio Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn y Bil yn hytrach nag mewn is-ddeddfwriaeth a chyflwyno amserlen ar gyfer penderfyniadau Gweinidogion Cymru ar y ceisiadau hyn;
  • Caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd lleol yn y Cynllun Dirprwyo Cenedlaethol a fydd yn pennu pryd y bydd swyddogion neu bwyllgorau awdurdodau cynllunio lleol yn penderfynu ar geisiadau;
  • Cadw'r gofyniad i gael Datganiadau Dylunio a Mynediad ar gyfer rhai ceisiadau cynllunio;
  • Diwygio'r cynigion yn y Bil ar gyfer cofrestru Meysydd Tref neu Bentref. Ar hyn o bryd, mae’r cynigion hyn yn ceisio cyfyngu ar gyfleoedd i gofrestru’r rhain pan ddaw tir yn rhan o’r system gynllunio.
Dyma ymateb cychwynnol rhai rhanddeiliaid i adroddiad y Pwyllgor: Mae RenewableUK Cymru wedi croesawu adroddiad y Pwyllgor ar y Bil:
Rydym yn arbennig o falch bod y Pwyllgor wedi argymell y dylid cynnwys amserlenni statudol ar gyfer archwilio’r categori newydd, Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, ar wyneb y Bil. Roedd hyn yn bwysig iawn i ni a’n haelodau, ac os derbynnir yr argymhelliad bydd yn helpu i sicrhau bod gan ddatblygwr hyder yn system gynllunio Cymru ac yn sicrhau’r buddsoddiad sydd ei angen i drawsnewid ein cyflenwad ynni.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg hefyd wedi croesawu'r adroddiad a'r argymhellion sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg:
Rydyn ni'n croesawu'r adroddiad yn fawr iawn, yn enwedig ei gefnogaeth i roi'r Gymraeg yn ganolog i'r system ac i rymuso ein cymunedau. Rydyn ni nawr yn disgwyl i'r Llywodraeth dderbyn yr argymhellion, a fyddai'n gwneud y system gynllunio'n fwy cynaliadwy. Os nad ydy'r Llywodraeth yn gwrando, mi fyddwn ni'n ystyried herio'r Bil yn y llysoedd. Mae hwn yn fater mor bwysig i'r Gymraeg ac o ran grymuso cymunedau, mae'n rhaid i ni ystyried pob opsiwn posib er mwyn cael y maen i'r wal.
Mae'r Gymdeithas Mannau Agored "wrth ei bodd bod Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am fesurau gwell i ddiogelu meysydd pentref."
Erthygl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.