Cymunedau Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG Llywodraeth leol

‘Mae gormod o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn byw bywyd o ansawdd annerbyniol’

Dyma gasgliad Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar ôl ei hadolygiad o gartrefi gofal i bobl hŷn, Lle i'w Alw'n Gartref?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dyma gasgliad Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar ôl ei hadolygiad o gartrefi gofal i bobl hŷn, Lle i’w Alw’n Gartref?

Mae disgwyl i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wneud datganiad ar yr adolygiad yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma, a gallwch ei wylio ar Senedd TV.

Canolbwyntiodd yr adolygiad ar ansawdd bywyd a gofal i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, ac mae llawer o debygrwydd â chanfyddiadau ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofal preswyl pobl hŷn yng Nghymru (a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2012) – yn enwedig Pennod 4 o adroddiad y Pwyllgor, ‘Byw mewn gofal preswyl’.

Delwedd o Pixabay drwy geralt. Trwydded Creative Commons.
Delwedd o Pixabay drwy geralt. Trwydded Creative Commons.

Canfu adolygiad y Comisiynydd amrywiadau clir yn ansawdd y gofal a ddarperir, hyd yn oed o fewn cartrefi gofal unigol, a daeth i’r casgliad nad yw pobl hŷn yn aml yn cael y gofal y mae ganddynt yr hawl i’w ddisgwyl.

Er enghraifft, canfu’r adolygiad amrywiadau sylweddol yn y ffyrdd y mae preswylwyr yn cael eu cynorthwyo i ddefnyddio’r toiled. Mae padiau anymataliaeth yn aml yn cael eu defnyddio’n amhriodol, gyda preswylwyr yn cael eu gorchymyn i’w defnyddio, er eu bod yn gallu ymatal ac yn gallu defnyddio’r toiled, ‘gan ddwyn urddas yn llwyr oddi ar bobl mewn rhai achosion’.

Dyma rai o gasgliadau allweddol yr adolygiad:

  • Mae gormod o bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal yn cael eu sefydliadu yn gyflym. Mae eu hunaniaeth a’u hunigoliaeth yn gwanio’n gyflym;
  • Yn rhy aml, ystyrir bod cartrefi gofal yn llefydd o ddirywiad anadferadwy ac mae gormod o bobl hŷn yn methu cael mynediad i wasanaethau a chefnogaeth arbenigol fyddai’n eu helpu i gael yr ansawdd bywyd gorau;
  • Ni chydnabyddir neu ni ymatebir i rai o anghenion gofal mwyaf elfennol pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal.

Yn ôl adroddiad yr adolygiad, nid oes gan lawer o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal fynediad i’r sgrinio elfennol a’r gofal iechyd sylfaenol y byddai wedi bod ar gael iddynt pan oeddent yn byw yn eu cartrefi eu hunain, megis mynediad rheolaidd i wasanaethau meddygon teulu, profion llygaid a’r clyw, gwasanaethau podiatreg, triniaeth ddeintyddol, adolygiadau o feddyginiaethau a gofal nyrsio arbenigol.

Sylwer: Un o’r casgliadau gan Adroddiad Ymchwiliad (Rhagfyr 2012) y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol oedd bod ‘angen cymryd camau i sicrhau bod pobl hŷn mewn gofal preswyl yn gallu manteisio ar wasanaethau iechyd o’r un safon ag y gall y gymuned ehangach.’

Ddoe (Dydd Llun 9 Chwefror) cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd gyllid newydd i wella iechyd y geg i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal. Bydd bron i £320,000 yn cael ei roi i gartrefi gofal, a bydd disgwyl iddyn nhw feddu ar bolisi iechyd y geg a phennu o leiaf un hyrwyddwr i ofalu am iechyd y geg. O fewn saith diwrnod i symud i gartref gofal, bydd pob preswylydd yn cael asesiad risg ar iechyd y geg gan aelod cymwysedig o staff y cartref gofal, ac ar adegau priodol yn dilyn hynny.

Canfu adolygiad y Comisiynydd hefyd bod mynediad at ofal iechyd ataliol a gwasanaethau ail-alluogi mewn cartrefi gofal wedi ei gyfyngu’n ddifrifol. Mae adroddiad yr adolygiad hefyd yn nodi y gall diwylliannau gwrth risg arwain at ddiffyg gweithgaredd a diffyg symudedd ymysg preswylwyr.

Er bod gan 80% o bobl hŷn sy’n byw mewn gofal preswyl ryw fath o ddementia neu nam gwybyddol, mae’r adroddiad hefyd yn nodi nad yw cartrefi gofal yn aml wedi eu haddasu ar gyfer pobl â dementia. Er enghraifft, maent yn aml yn brin o nodweddion defnyddiol megis arwyddion darluniadol, ac mae anghenion emosiynol a chyfathrebu preswylwyr yn aml yn cael eu camddeall a’u hesgeuluso.

Trafodwyd yr adolygiad mewn dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig am bobl hŷn mewn Cyfarfod Llawn ym mis Tachwedd 2014, a gellir ei gweld ar senedd.tv. Fe’i trafodwyd hefyd yn sesiwn graffu’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda’r Comisiynydd Pobl Hŷn, sydd hefyd ar gael ar senedd.tv.

Argymhellion

Mae’r Comisiynydd yn gwneud llawer o argymhellion ac anghenion gweithredu yn yr adroddiad, yn cynnwys:

  • Bod Datganiad Cenedlaethol a Hawliau i ofal iechyd sylfaenol ac arbenigol i bobl hŷn mewn cartrefi gofal yn cael ei ddatblygu ac ar gael i bobl hŷn.
  • Bod Cynghorau Iechyd Cymunedol yn gweithredu rhaglen dreigl o hapwiriadau mewn cartrefi preswyl a nyrsio er mwyn adrodd am gydymffurfio â’r Datganiad Cenedlaethol o Hawliau a’r Hanfodion Gofal.
  • Datblygu a gweithredu set safonol o sgiliau gorfodol a chymwysterau sy’n seiliedig ar werthoedd, a hynny’n genedlaethol, ar gyfer recriwtio staff gofal.
  • Dylai cefnogaeth ymataliaeth arbenigol fod ar gael i bob cartref gofal, a hynny’n seiliedig ar ganllawiau cenedlaethol eglur o ran defnyddio cymhorthion ymataliaeth ac urddas.
  • Wrth gyrraedd cartref gofal, dylai pobl hŷn dderbyn adolygiadau o feddyginiaethau gan weithiwr proffesiynol clinigol cymwys, ac adolygiadau rheolaidd o feddyginiaethau’n cael eu cynnal yn unol â’r arferion gorau a gyhoeddwyd.

Gofynnodd y Comisiynydd i’r cyrff sy’n ddarostyngedig i’r anghenion gweithredu yn ei hadroddiad (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) ddarparu, yn ysgrifenedig, adroddiad am eu cynnydd erbyn 2 Chwefror, 2015.


Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.