Ail Gyllideb Atodol 2014-15

Cyhoeddwyd 11/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg 2014-15 second supplementary budget (welsh)-01Gosododd y Gweinidog Cyllid (Jane Hutt AC) yr ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2014-15 ar 10 Chwefror 2015. Yn ogystal, cyflwynwyd nodyn esboniadol a thablau yn dangos y dyraniadau i'r prif grwpiau gwariant (MEG). Mae'r gyllideb atodol hon yn diwygio'r Gyllideb Atodol gyntaf ar gyfer 2014-15, a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2014. Mae'r prif ddyraniadau refeniw ychwanegol yn y portffolio Iechyd, sef y £200 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Hydref ar gyfer y GIG, ynghyd â £40 miliwn i ariannu pwysau'r gaeaf yn y GIG. Mae'r prif ddyraniadau cyfalaf ychwanegol fel a ganlyn: £14.9 miliwn ar gyfer y GIG a gyhoeddwyd ym mis Ionawr; £10.8 miliwn o gyllid trafodion ariannol ar gyfer Tai drwy'r Grant Tai Cymdeithasol a'r Benthyciadau Gwella'r Cartref; a £5 miliwn ychwanegol ar gyfer Cronfa Twf Cyfalaf Cyllid Cymru. Caiff y buddsoddiadau hyn eu hariannu gan gyfuniad o ddyraniadau o gronfeydd, ailddyrannu arbedion o adrannau eraill a throsglwyddiadau o adrannau Llywodraeth y DU. Ceir crynodeb o sut y caiff y gwariant yn ôl disgresiwn ('Terfyn Gwariant Adrannol') ei neilltuo i adrannau gwahanol o Lywodraeth Cymru yng Nghyllideb Atodol 2014-15 isod. Mae cyfanswm y Terfyn Gwariant Ariannol wedi cynyddu £298 miliwn, neu 1.9%, o gymharu â'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2014-15, a gymeradwywyd gan y Cynulliad ym mis Gorffennaf 2014.
Erthygl gan Gareth Thomas a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.