Troi allan er mwyn dial: dechrau’r diwedd?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae Llywodraeth Cymru am geisio newid y gyfraith fel na all tenantiaid, a elwir yn fuan yn ‘ddeiliaid-contract’, gael eu troi allan ond am ofyn i’w landlord wneud gwaith atgyweirio.

Dychmygwch y sefyllfa hon. Rydych wedi bod yn denant perffaith. Rydych bob amser wedi talu eich rhent yn brydlon. Mae eich fflat yn lanach yn awr na phan wnaethoch symud i mewn. Yr unig broblem yw’r boeler. Mae wedi bod yn drafferthus ers misoedd bellach. Fe wnaeth y landlord anfon plymwr draw i’w drwsio o’r diwedd yr wythnos ddiwethaf, ond mae wedi torri eto. Rydych wedi dod adref o’r gwaith ac wedi canfod arwydd ‘ar-osod’ y tu allan i’r eiddo a llythyr gan eich landlord yn rhoi dau fis o rybudd ichi adael.

A yw’r sefyllfa hon yn gyfarwydd i chi? Byddai cynghorwyr tai yn amau bod hyn yn droi allan er mwyn dial neu dalu’r pwyth yn ôl – landlord preifat sy’n ceisio osgoi ei rwymedigaeth gyfreithiol i wneud gwaith atgyweirio trwy droi ei denant allan. Nid yw’n rhywbeth y byddai’r rhan fwyaf o landlordiaid fyth yn ystyried ei wneud. Dyna pam mae eu cynrychiolwyr fel Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid yn condemnio’r math hwn o ymddygiad.

Delwedd o Google gan Gary Reggae. Trwyddedwyd o dan Creative Commons

Delwedd o Google gan Gary Reggae. Trwyddedwyd o dan Creative Commons

Ond pa mor gyffredin yw troi allan er mwyn dial? Canfu gwaith ymchwil gan Shelter Cymru a Llais Defnyddwyr Cymru rywfaint o dystiolaeth bod hyn yn digwydd yng Nghymru, ond mae’n anodd gwybod yn union pa mor gyffredin yw’r broblem. Nid yw landlordiaid yn torri unrhyw gyfraith drwy roi rhybudd yn y sefyllfa yr wyf wedi’i hamlinellu, ond nid yw’r gyfraith yn rhoi unrhyw amddiffyniad chwaith i’r tenant sy’n wynebu cael ei droi allan o dan yr amgylchiadau hynny. Mae llawer o bobl yn credu bod hyn yn annheg i denantiaid. Mae hefyd yn golygu y bydd y meddiannydd nesaf yn symud i eiddo sydd eisoes â phroblemau.

Er na ddaeth yn gyfraith, yn hwyr y llynedd cafwyd ymgais gan AS o’r meinciau cefn i amddiffyn tenantiaid yn Lloegr rhag cael eu troi allan er mwyn dial drwy’r Tenancies (Reform) Bill. Ond nid yw’r Bil hwnnw’n gyfan gwbl farw. Dim ond yr wythnos ddiwethaf y cyflwynodd y llywodraeth welliant i’r Bil Dadreoleiddio er mwyn cyflawni’r un canlyniad, i raddau helaeth. Felly mae’n ymddangos yn debygol y bydd tenantiaid yn Lloegr cyn bo hir yn cael eu diogelu rhag y lleiafrif o landlordiaid sy’n troi allan er mwyn dial. Mae’r gwelliant hwn wedi cael ei wrthwynebu’n gryf gan gynrychiolwyr landlordiaid.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cynnwys cymal yn ei Bil Rhentu Cartrefi ei hun, a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Mae’n gobeithio y bydd hyn yn diogelu tenantiaid yng Nghymru rhag cael eu troi allan er mwyn dial. Os caiff ei gymeradwyo gan y Cynulliad, bydd y gyfraith newydd yn galluogi barnwyr i ystyried a yw’r landlord yn troi’r tenant allan yn syml er mwyn osgoi cydymffurfio â’i rwymedigaethau i gadw’r eiddo mewn cyflwr gweddus. Os yw’n achos gwirioneddol o droi allan er mwyn dial, bydd y llys yn gallu gwrthod gwneud gorchymyn ildio meddiant.

Mae llawer o ymgynghorwyr tai yn credu y bydd y newid hwn yn y gyfraith yn atal landlordiaid gwael ac yn annog mwy o bobl i ddod ymlaen a rhoi gwybod am amodau byw gwael, heb ofni y byddant yn cael eu gwneud yn ddigartref o ganlyniad i siarad dros eu hawliau.

Bydd grwpiau sy’n cynrychioli tenantiaid a landlordiaid yng Nghymru bellach yn cael cyfle i ymateb i’r cynnig hwn, ynghyd â gweddill y Bil Rhentu Cartrefi, wrth i’r Cynulliad ddechrau craffu arno. Mater i Aelodau’r Cynulliad fydd gwrando ar y dystiolaeth a phenderfynu a ddylai’r cynnig penodol hwn ddod yn gyfraith.

Bydd y Cynulliad yn cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil Rhentu Cartrefi yr wythnos hon a bydd yn dechrau cymryd tystiolaeth lafar gan dystion tua diwedd mis Mawrth. Gallwch ddod o hyd i fanylion am yr ymgynghoriad yma.


Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.