Cynlluniau'r Ceidwadwyr ar gyfer "Pleidleisiau Seisnig ar Gyfreithiau Seisnig"

Cyhoeddwyd 16/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Yn dilyn refferendwm annibyniaeth yr Alban ym mis Medi 2014, sefydlodd y Prif Weinidog Bwyllgor Cabinet i drafod Pleidleisiau Seisnig ar Gyfreithiau Seisnig (EVEL). Trafodwyd y datblygiadau hyn mewn blog cynharach. Ers hynny, fe gynhyrchodd Llywodraeth y DU Bapur Gorchymyn ym mis Rhagfyr 2014, sy'n amlinellu pedwar opsiwn a safbwyntiau gwahanol y ddwy blaid sydd yn y Glymblaid. Ar 3 Chwefror 2015, gwnaeth Arweinydd y Ty, William Hague AS araith yn amlinellu dull dewisol y Blaid Geidwadol ar gyfer symud ymlaen, sef y trydydd opsiwn yn y Papur Gorchymyn. Byddai'r cynigion yn caniatáu i Aelodau Seneddol Lloegr gael feto ffurfiol dros ddeddfwriaeth Seisnig yn unig. Mae'r Papur Gorchymyn yn disgrifio hyn fel fersiwn wedi'i gryfhau'n sylweddol o gynigion Comisiwn McKay a fyddai'n rhoi feto i Aelodau Seneddol Lloegr dros fesurau Seisnig yn unig. Mae'r Papur Gorchymyn  yn nodi:
  • Byddai'r Ail Ddarlleniad yn digwydd yn ôl yr arfer gyda'r holl ASau.
  • Byddai Cyfnod Pwyllgor Biliau Seisnig neu Gymreig a Seisnig yn digwydd mewn Pwyllgor gydag ASau o'r gwledydd hynny yn unig, yn ôl cyfran cynrychiolaeth eu pleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin.
  • Byddai'r weithdrefn hon hefyd yn berthnasol i rannau Seisnig neu Gymreig a Seisnig Biliau sy'n cynnwys cymalau Seisnig neu Gymreig a Seisnig, yn ogystal â chymalau i'r DU gyfan.
  • Byddai Cyfnod yr Adroddiadau yn digwydd yn ôl yr arfer gyda'r holl ASau.
  • Yna, byddai Uwch-bwyllgor Seisnig (a Chymreig) yn pleidleisio, ar ôl Cyfnod yr Adroddiadau ond cyn y Trydydd Darlleniad, ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Felly, byddai ASau Seisnig neu Gymreig a Seisnig yn gallu rhoi cydsyniad neu roi feto i'r Bil, neu'r rhannau perthnasol ohono.
  • Byddai gan benderfyniadau o'r fath yr un statws â rhai Senedd yr Alban ar faterion wedi'u datganoli. Ni all Bil gyrraedd Trydydd Darlleniad heb basio'r bleidlais cydsyniad deddfwriaethol.
  • Byddai'r Trydydd Darlleniad yn digwydd yn ôl yr arfer gyda'r holl ASau, ond dim ond ar ôl pasio'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.
  • Gallai'e Uwch-bwyllgor Seisnig (a Chymreig) gael swyddogaethau eraill, gan gynnwys penderfynu ar ddosraniad gwariant yn Lloegr a Chymru, fel cyllid llywodraeth leol neu grantiau heddlu, a gallai hefyd ofyn cwestiynau ychwanegol i Weinidogion mewn adrannau sydd â swyddogaethau Lloegr yn unig.
  • Gallai'r egwyddor o ofyn am gydsyniad Uwch-bwyllgor Seisnig hefyd fod yn berthnasol i lefelau treth a budd-daliadau lles, os yw'r cyfraddau cyfatebol wedi'u datganoli.
Cafodd y cynigion adborth cymysg, gyda rhai ASau Ceidwadol o'r farn nad yw'r cynigion yn mynd yn ddigon pell. Dywedodd John Redwood, er enghraifft, yn ei flog, cyn cyhoeddiad Mr Hague:
I want him to sign up to the first proposal in his White Paper, English votes on any English matter. That is the simpler way, and the fair way. The other remaining proposal he is considering does not allow English MPs to settle English matters, as it retains a vote for Scottish MPs on any proposal England wants. That is not fair to England and does not keep the promise to deliver English votes for English needs. There is no complexity on deciding which is an English (or English, Welsh and Northern Irish issue) as it is one settled in Scotland by the Scottish Parliament. They seem to have no difficulty deciding which they are for the Scottish Parliament, so it should be equally easy to decide a non Scottish issue.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd: "England will now decide her own spending within English agreed totals and will decide her own tax rates where Scotland has devolved power. That is progress.” Mewn dadl ohirio yn Nhŷ'r Cyffredin ar 4 Chwefror, honodd y cyn Brif Weinidog, Gordon Brown AS, bod cynigion Mr Hague yn peryglu'r Deyrnas Unedig:
If the Union is to survive, it will have to be built on the interdependence of our four nations, and it will have to guarantee equality of status within the United Kingdom. My argument tonight is that with the announcement of English votes for English laws, which means nothing other than restricting the right of Scottish Members to vote in this House, the Government are deliberately driving a wedge between Scotland and England and, in so doing, they have asked the wrong question, and they are now getting the wrong answer.
Safbwynt y Blaid Lafur yw ei bod o blaid Cyfnod Pwyllgor Seisnig (neu Seisnig a Chymreig), fel argymhelliad Comisiwn Mackay, "because it is right that English MPs have a key role in considering such legislation. The political balance on this committee would need to reflect English (or English and Welsh) MPs as a whole and ensure all English regions were represented.” Dylid ystyried hyn fel rhan o broses confensiwn cyfansoddiadol. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi model EVEL y Ceidwadwyr yn gyffredinol. Fodd bynnag, eu safbwynt nhw (fel y nodir yn y Papur Gorchymyn) yw y byddent yn hoffi i gyfansoddiad yr Uwch-bwyllgorau fod yn seiliedig ar gynrychiolaeth gyfrannol yr holl bleidleisiau yn yr etholiad cyffredinol blaenorol. Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, y Democrat Rhyddfrydol Alistair Carmichael AS, yn y ddadl:
Yesterday, my right hon. Friend the Leader of the House laid out the proposals of the Conservative party. It is a matter of record that my party disagrees with that approach. Nor is it much of a secret that there is a range of views within the Conservative party, from those who believe that this issue is best left alone to those who want a more radical solution. There is not much consensus in that party, let alone between the parties in this House. However, there is a broad consensus here about keeping together our family of nations. That requires that this issue be considered carefully with an eye to a lasting settlement, not a short-sighted or short-term partisan advantage.
Dywedodd Elfyn Llwyd AS, Plaid Cymru, mewn datganiad i'r wasg:
Mewn egwyddor, mae Plaid Cymru yn gefnogol i bleidleisiau Lloegr-yn-unig ar gyfreithiau Lloegr-yn-unig, ond mae sawl amod yn perthyn i'r gefnogaeth hyn. [...] [...] Ar hyn o bryd, bydd pleidleisiau Lloegr-yn-unig yn creu mwy gymlethdod yn San Steffan mewn system sydd eisoes yn ddigon dryslyd.
Mae democratiaeth Cymru yn aeddfedu gyda phwerau cynyddol yn cael eu trosglwyddo o San Steffan.  Mae hi'n hen bryd cael gwared ar yr hen uned "Lloegr a Chymru" ddyddiedig ac i'n cenedl gael yr offer priodol i basio deddfau cyflawn a chynhwysfawr a sicrhau cyfiawnder mewn modd sydd fwyaf buddiol i bobl Cymru. Dywedodd Nicola Sturgeon MSP, Prif Weinidog yr Alban:
The Hague plan has the potential to block Scotland’s voice from key decisions affecting Scottish voters. Until powers on, for example, income tax are devolved to Holyrood in full, it is profoundly undemocratic for anyone to try and carve Scottish MPs out of important decision making on such issues. And that is not something we will stand for. Make no mistake, the SNP’s objective remains independence, but for as long as Scotland is part of the Westminster system, we must have an equal say there on issues which affect us.

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.