Cipolwg ar Fil Llywodraeth Leol (Cymru)

Cyhoeddwyd 17/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae cofnod blog blaenorol wedi amlinellu’r cefndir wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ati i ddiwygio llywodraeth leol. Mae’r cofnod blog hwn yn edrych yn fanylach ar ambell fater a allai godi yn sgil Bil Llywodraeth Leol (Cymru), sef y cam deddfwriaethol cyntaf yn y broses honno. (I gael rhagor o fanylion am y Bil ei hun, mae’r Gwasanaeth Ymchwil newydd gyhoeddi crynodeb o’r prif ddarpariaethau).

Uno gwirfoddol ac ansicrwydd ynghylch y mapBlog-cy

Cafodd y Bil ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar 26 Ionawr 2015, ac yn ei hanfod mae iddo ddau brif amcan:
  • Galluogi awdurdodau lleol sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i uno’n wirfoddol i wneud hynny;
  • Galluogi paratoadau i ddechrau ar gyfer creu awdurdodau lleol newydd, a hynny trwy uno gorfodol yn sgil ail Fil.
Cwestiwn sy’n codi’i ben yn syth yw’r angen bellach am y darn o’r Bil sy’n ymwneud ag uno gwirfoddol. Daw hyn yn dilyn penderfyniad diweddar y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i wrthod y tri datganiad o ddiddordeb a ddaeth i law gan awdurdodau lleol a oedd yn awyddus i archwilio’r posibilrwydd hwnnw. I’r un perwyl, mae ansicrwydd yn parhau ynghylch y map a pha awdurdodau penodol fydd yn gorfod uno. Roedd Papur Gwyn Gorffennaf 2014 ar ddiwygio llywodraeth leol yn nodi fod y Llywodraeth yn ffafrio 12 awdurdod (yn unol ag argymhelliad gan Gomisiwn Williams), ond mae amheuaeth bellach ynghylch hyn. Awgrymodd y Prif Weinidog fod y Llywodraeth yn ailystyried pethau pan gydnabu wrth y Cynulliad ar 27 Ionawr 2015 nad oedd y strwythur 12 awdurdod yn “derfynol”. Yna, ar 5 Chwefror, dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus wrth un o bwyllgorau’r Cynulliad fod y Llywodraeth yn dal i ffafrio opsiwn cyntaf Comisiwn Williams ar gyfer 12 awdurdod. Fodd bynnag, dywedodd hefyd:
Now, I think if I were in local government—I’ll be blunt—I would not want to bring forward at this moment a voluntary merger proposal without seeing the overall map. [Saesneg yn unig]
Aeth y Gweinidog yn ei flaen i ddatgan y byddai’r Llywodraeth yn cyhoeddi ei map terfynol cyn toriad yr haf, boed cytundeb wedi’i sicrhau gyda’r pleidiau eraill ar hynny neu beidio.

Deddfu trwy ddau Fil

Mater sy’n gysylltiedig â hyn yw’r ffordd anarferol y mae’r Llywodraeth yn bwriadu deddfu er mwyn uno awdurdodau. Yn ogystal â galluogi uno gwirfoddol, mae Bil Llywodraeth Leol (Cymru) yn caniatáu i baratoadau gael eu gwneud ar gyfer uno gorfodol yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys gwaith gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i ddechrau adolygu a gwneud argymhellion ar gyfer trefniadau etholiadol yr awdurdodau lleol newydd. Yn dra arwyddocaol, mae’r Bil yn caniatáu i’r Comisiwn ddechrau ar y gwaith hwnnw unwaith y bydd y Llywodraeth wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer ardaloedd newydd (a chyn belled ag y bydd y Bil hwn wedi cael Cydsyniad Brenhinol). Mae’r Llywodraeth wedi egluro y gallai cynigion o’r fath gael eu cyhoeddi mewn unrhyw ffurf, er ei bod yn ymddangos y gallai wneud hynny mewn ail Fil drafft a fydd yn cael ei gyhoeddi yr hydref nesaf. Mae’r cyfan yn golygu, mewn theori, y gallai gwaith ddechrau ar yr awdurdodau arfaethedig newydd mor gynnar ag eleni, er nad yw’r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno’n ffurfiol y Bil a fydd yn amlinellu’r ardaloedd newydd arfaethedig tan ar ôl etholiadau’r Cynulliad yn 2016. Mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch yr hyn a fyddai’n digwydd pe bai llywodraeth wahanol yn cael ei hethol, a honno’n gwrthwynebu naill ai’r broses uno yn ei hanfod, neu’r ffurfiau penodol o uno a amlinellir yn yr ail Fil. Pan holwyd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus am y mater ar 5 Chwefror, dywedodd fod angen y darpariaethau hyn yn y Bil er mwyn gwneud pethau mewn “ffordd drefnus”, ac er mwyn i rywfaint o waith gael mynd rhagddo waeth beth fydd y map terfynol.

Yr opsiynau eraill, ar wahân i uno awdurdodau

Mae’n arwyddocaol fod Comisiwn Williams wedi argymell uno awdurdodau lleol gan ddefnyddio’u ffiniau presennol, yn hytrach nag ail-lunio map llywodraeth leol Cymru o’r newydd. Yn ôl y Llywodraeth, gallai hyn arwain at y manteision o gael awdurdodau mwy o faint heb yr ymyrryd a’r amharu a fyddai’n dod yn sgil pennu ffiniau newydd sbon. Ond nid yw pawb yn argyhoeddedig mai dyma’r ffordd orau o fynd ati, gyda rhai yn dadlau y gallai ailedrych ar strwythur llywodraeth leol o’r newydd fod yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir na dim ond cyfuno’r blociau presennol gyda’i gilydd. Er enghraifft, meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru:
Form follows function. Where is the debate in Wales about what local government should be about? Where is the debate about what services should be done at a particular level so we can design what structures we need? [Saesneg yn unig]
Am y dyfyniad hwn a rhagor o drafodaeth, gweler y papur hwn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Costau a buddion uno awdurdodau

Mae beirniaid yn dadlau nad yw Llywodraeth Cymru wedi argyhoeddi pobl hyd yma y byddai uno awdurdodau yn fanteisiol o ran y costau a’r buddion. Mewn adroddiad ym mis Tachwedd 2014, awgrymodd y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) y gallai’r costau pontio wrth uno awdurdodau fod rhwng £160 miliwn a £268 miliwn, gydag arbedion blynyddol o tua £65 yn deillio o’r broses maes o law. Serch hynny, rhybuddiodd CIPFA ei bod hi’n amhosibl asesu’r goblygiadau ariannol yn gywir tan fod union natur y rhaglen uno’n hysbys. Yn nodedig, wrth argymell uno awdurdodau, cyfaddefodd Comisiwn Williams nad oedd wedi edrych yn fanwl ar faint o arian y byddai’r broses yn ei gostio neu’n ei arbed. Yn yr asesiad effaith sy’n cyd-fynd â’r Bil ei hun, mae’r Llywodraeth yn honni ei bod “yn anodd cymharu’r costau a’r manteision mewn modd gwrthrychol”. Er bod y datganiad hwn yn ymwneud â’r Bil yn hytrach na’r rhaglen uno yn ei chyfanrwydd, mae’n annhebygol o dawelu meddyliau cyrff fel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd wedi mynegi pryder yn y gorffennol fod Llywodraeth Cymru yn bwrw ati i ddeddfu ar gyfer un o’r newidiadau mwyaf i wasanaethau cyhoeddus mewn dau ddegawd, a hynny heb achos busnes clir a chadarn. Mae’r gwaith o graffu ar y Bil (gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus) newydd ddechrau yn y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, a bydd yn parhau tan y Pasg. Mae’r manylion i gyd ar gael fan hyn.
Erthygl gan Alys Thomas a Rhys Iorwerth Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.