Goblygiadau'r Ddeddf Seilwaith o ran ffracio yng Nghymru

Cyhoeddwyd 24/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Daeth Deddf Seilwaith 2015, un o Ddeddfau Llywodraeth y DU, yn gyfraith ar 12 Chwefror 2015.  Mae un rhan ddadleuol o'r Ddeddf a fydd yn gymwys yng Nghymru yn ymwneud â chwilio am nwy siâl ar y tir, drwy hollti hydrolig neu 'ffracio'. Unwaith y bydd y Ddeddf mewn grym yn llawn, bydd yn caniatáu i gwmnïau gael mynediad at nwy siâl sydd o dan dir preifat. I ddechrau, mae angen drilio yn fertigol i greu ffynnon nwy siâl, fel arfer hyd at ddyfnder o 1.5 cilomedr o leiaf. Unwaith y cyrhaeddir y siâl, rhaid drilio'n llorweddol ar hyd yr haenen briodol o'r graig er mwyn echdynnu cymaint o nwy â phosibl. Gall y broses o ddrilio'n llorweddol gyrraedd pellter o hyd at 3 km. [caption id="attachment_2436" align="alignright" width="300"]Llun o Geograph gan KA. Dan drwydded Creative Commons Llun o Geograph gan KA. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Ar hyn o bryd, rhaid i dirfeddianwyr roi caniatâd ar gyfer drilio a ffracio am nwy siâl sydd o dan eu tir.  Mae Llywodraeth y DU yn dadlau fod y broses gyfreithiol sy'n deillio o'r sefyllfa hon yn broses gostus a hirfaith i gwmnïau nwy siâl. Yn sgil y Ddeddf, ni fydd angen i gwmni gael caniatâd y tirfeddiannwr i ddrilio neu ffracio y tu hwnt i ddyfnder o 300 medr unwaith y bydd trwydded ddrilio yn cael ei dyroddi.  Ym mis Medi 2014, croesawodd United Kingston Onshore Operators Group (UKOOG) y cynigion hyn:
The current system involves significant potential delays and costs without benefit either to the oil and gas industry or the landowner…Landowners on the surface will not notice this underground activity, it will have no impact on their day-to-day lives
Fodd bynnag, dywedodd 99% o'r rheini a ymatebodd i ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion eu bod yn gwrthwynebu deddfwriaeth ar gyfer caniatáu mynediad tanddaearol at ddibenion ffracio. Yn gynharach eleni, yn dilyn cytundeb i ddatganoli'r broses drwyddedu ar gyfer gweithgarwch ffracio i Lywodraeth yr Alban, cafwyd cyhoeddiad fod 'moratoriwm' ar ganiatâd ffracio yn yr Alban.  Yn ddiweddar, galwodd Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol Tŷ'r Cyffredin am foratoriwm ar ffracio yng ngweddill y DU.  Gwrthodwyd y galwad hwn yn ystod cyfnodau olaf taith y Bil drwy'r Senedd.  Fodd bynnag, cafodd 13 o welliannau gan y Blaid Lafur eu derbyn--gwelliannau a oedd yn gosod nifer o gyfyngiadau newydd ar weithgarwch ffracio. Roedd y rhain yn cynnwys gwaharddiad ar ffracio 'o fewn ac o dan' ardaloedd gwarchodedig fel parciau cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Yn sgil newidiadau hwyr i'r gwelliannau hyn yn Nhŷ'r Arglwyddi, dilëwyd y term 'o dan' o'r testun. Gallai hyn arwain at ganiatáu gweithgarwch ffracio o dan ardal warchodedig cyn belled â bod y safle sydd â ffynnon wedi'i lleoli y tu allan i'w ffiniau. Roedd y newidiadau hwyr eraill a wnaed i welliannau y Blaid Lafur yn cynnwys cael gwared ar asesiadau gorfodol o'r effaith amgylcheddol (er y dylid parhau i ystyried yr effaith amgylcheddol), cael gwared ar yr angen i fonitro allyriadau y tu hwnt i allyriadau methan, a chael gwared ar yr angen i roi gwybod i bobl leol yn unigol bod ffracio yn digwydd yn eu hardal. Bydd y newidiadau hyn i'r Ddeddf Seilwaith yn arwain at gymhlethdodau pellach o ran y trefniadau ar gyfer rhoi cydsyniad a chaniatâd ar gyfer gweithgarwch ffracio yng Nghymru.  Mae'r trefniadau presennol yng Nghymru eisoes yn gymhleth, fel y gwelir yng nghanllawiau cyfredol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd Onshore_UK_oil_and_gas_exploration_Wales_Dec13_contents 13 Mae'r trwyddedau ar gyfer chwilio am nwy siâl a'i echdynnu yn cael eu dyroddi gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd.  Fodd bynnag, mae'r broses o roi neu wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer gweithgarwch o'r fath wedi'i datganoli. Yr Awdurdodau Cynllunio Mwynau (yr Awdurdodau Unedol neu, yng Nghymru, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru) sy'n gyfrifol, er y dylent ddilyn y canllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru.  Yn ogystal, gall Gweinidogion Cymru gymryd y pŵer i wneud penderfyniadau oddi ar yr Awdurdod Cynllunio Mwynau drwy alw cais cynllunio i mewn.  Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r broses drwyddedu amgylcheddol. Bydd y mesurau diogelu yn y Ddeddf newydd yn berthnasol i benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU wrth ddyroddi cydsyniad i ddrilio ffynnon.  O dan y Ddeddf, bydd gofyn i Awdurdodau Cynllunio Mwynau a Cyfoeth Naturiol Cymru roi sicrwydd ynghylch materion penodol cyn y gall Llywodraeth y DU ddyroddi cydsyniad o'r fath.  Dylai hyn olygu ei bod yn bosibl naill ai i'r awdurdod lleol/Gweinidogion Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru atal cynnig ar gyfer gweithgarwch ffracio yng Nghymru--er enghraifft, os bydd pryderon ynghylch yr effaith amgylcheddol neu ynghylch y sylweddau a gaiff eu defnyddio yn rhan o'r prosiect.  Yn ogystal, ni fydd drilio uniongyrchol mewn ardaloedd gwarchodedig yn bosibl mwyach.  Mae'n bosibl y bydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn penderfynu cyhoeddi cyfarwyddyd pellach ynghylch goblygiadau ymarferol y drefn newydd. Ar 4 Chwefror 2015, pleidleisiodd y Cynulliad o blaid cynnig Plaid Cymru yn gresynu'r penderfyniad i ganiatáu i gwmnïau ffracio ddrilio o dan gartrefi yng Nghymru heb ganiatâd gan berchnogion yr eiddo. Roedd y cynnig hefyd yn dweud y dylai ynni gael ei ddatganoli'n llawn, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru "i wneud popeth o fewn ei phŵer i atal ffracio rhag digwydd yng Nghymru hyd nes y profir bod ffracio yn ddiogel yng nghyd-destun yr amgylchedd a iechyd cyhoeddus." Ar 13 Chwefror, cyhoeddodd Carl Sargeant 'gyfarwyddyd' newydd  i Awdurdodau Cynllunio Mwynau sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt roi gwybod iddo am unrhyw gais cynllunio lle mae technegau echdynnu anghonfensiynol fel ffracio yn cael eu cynnig.  Mae'r cyfarwyddyd ond yn gymwys os yw'r Awdurdod Cynllunio Mwynau yn bwriadu cymeradwyo'r cais. Mae'n rhoi'r cyfle i'r Gweinidog ystyried a ddylid galw'r cais i mewn.  Roedd adroddiadau yn y cyfryngau bod y Gweinidog wedi cyhoeddi 'moratoriwm', ond nid yw'r 'cyfarwyddyd' ynddo'i hun yn atal cais rhag cael ei gymeradwyo. Gallai'r Awdurdod Cynllunio Mwynau neu Weinidogion Cymru fod yn destun her gyfreithiol os gwneir penderfyniad i wrthod cais nad yw wedi'i seilio ar bolisïau cynllunio cyfredol.  Bu galwadau di-ri ar Lywodraeth Cymru i lunio canllawiau cynllunio penodol ynghylch nwy anghonfensiynol. Serch hynny, mae'r Llywodraeth wedi dadlau bod ei pholisïau cynllunio mwynau presennol yn cynnwys mesurau diogelu digonol.  Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau cynllunio ei hun ar gyfer olew a nwy ar y tir yn Lloegr ym mis Gorffennaf 2013.
Erthygl gan Graham Winter a Harriet Howe, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.