Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Cyhoeddwyd 24/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cafodd y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ei gyflwyno gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddoe, a disgwylir iddo wneud Datganiad Llafar ar y Bil yn y Siambr y prynhawn yma (dydd Mawrth 24 Chwefror 2015). Gellir gweld y Bil fel y’i cyflwynwyd, a’r Memorandwm Esboniadol, ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yma.

Cefndir

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy i Gymru: fframwaith gweithredu yn 2011, yn amlinellu ei rhaglen i ddiwygio’r ffordd y caiff gofal a chymorth eu darparu yng Nghymru.

Yn wreiddiol, bwriad Llywodraeth Cymru oedd cynnwys diwygiadau i’r ffordd y caiff gofal cymdeithasol ei archwilio a’i arolygu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond penderfynodd ym Mehefin 2012 i wneud y pethau hyn yn destun Bil ar wahân.

[caption id="attachment_2443" align="alignright" width="240"]Llun o Flickr gan darrenjsylvester. Dan drwydded Creative Commons. Llun o Flickr gan darrenjsylvester. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn – Dyfodol rheoleiddio ac arolygu gofal a chymorth yng Nghymru ar gyfer ymgynghoriad ym mis Ionawr 2014. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Ebrill 2014, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

Nodau ac amcanion

Nodau allweddol y Bil yw sicrhau llesiant dinasyddion a gwella ansawdd gofal a chymorth yng Nghymru. Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, mae naw amcan wedi’u gosod:

  • Rhoi’r dinesydd wrth wraidd y system.
  • Creu system sy’n deall effaith gwasanaethau ar fywydau pobl.
  • Sicrhau bod darparwyr gwasanaethau yn atebol mewn modd priodol.
  • Rhannu gwybodaeth a chydweithio yn well.
  • Deall y dyfodol yn well ac osgoi methiannau annisgwyl.
  • Gwneud newid sylweddol yn yr agenda wella.
  • Cefnogi datblygiad y gweithlu gorau posibl.
  • Cyflwyno system gadarn a thryloyw o reoleiddio ar gyfer darparwyr gwasanaethau a’r gweithlu.
  • Lleihau cymhlethdod y gyfraith a darparu hyblygrwydd yn y dyfodol

Yn y Memorandwm Esboniadol, mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod angen dysgu o ddigwyddiadau difrifol fel Southern Cross, Canolbarth Stafford a Winterbourne, a oedd yn cynnwys cam-drin ac esgeuluso oedolion agored i niwed yn Lloegr, ac Ymgyrch Jasmine, sydd, ar hyn o bryd, yn destun adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o gam-drin ac esgeulustod mewn cartrefi gofal yn Ne Cymru.

Prif elfennau’r Bil

Mae’r Bil yn cynnig newidiadau er mwyn:

  • diwygio’r drefn reoleiddio ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth – sy’n cynnwys model newydd o reoleiddio sy’n seiliedig ar wasanaeth, darpariaethau i fonitro gweithrediad y farchnad ofal, ymgysylltu’n well â’r cyhoedd a phwerau i gyflwyno graddau ansawdd arolygu a chodi ffioedd.
  • diwygio’r drefn arolygu a rheoleiddio swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol drwy ddiwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 – sy’n cynnwys ystyried canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau mewn adolygiadau o berfformiad gwasanaethau cymdeithasol, cynnwys y cyhoedd yn fwy a dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol i adrodd ar farchnadoedd lleol am wasanaethau gofal cymdeithasol.
  • ailgyfansoddi ac ailenwi Cyngor Gofal Cymru yn ‘Gofal Cymdeithasol Cymru’ ac ehangu ei gylch gwaith mewn perthynas â gwella gwasanaethau; i gynnwys rhoi cyngor a chymorth (gan gynnwys grantiau) i ddarparwyr gwasanaethau gofal a chymorth, ac ymgymryd ag astudiaethau ymchwil.
  • diwygio’r broses o reoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol – sy’n cynnwys cael gwared ar gofrestru gwirfoddol a chyflwyno gorchmynion gwahardd (i wahardd pobl benodol rhag weithio mewn gofal cymdeithasol). Nid yw’n ymestyn cofrestru i gategorïau newydd o staff, ond yn darparu pwerau i wneud hynny.

Safonau a graddau ansawdd posibl

Mae’r Bil yn datgan y gall un o Weinidogion Cymru osod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau rheoledig drwy reoliadau, fel pennu safon y gofal a’r cymorth y mae’n rhaid eu darparu. Mae hefyd yn datgan y gall Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch graddau arolygu mewn perthynas ag ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn datgan mai’r cynnig ar gyfer graddau ansawdd yw newid mwyaf sylweddol i arolygiadau a, cyn i’r pŵer hwn gael ei ddefnyddio, bydd angen ymgynghori’n sylweddol â rhanddeiliaid a’r cyhoedd er mwyn penderfynu ar y dull cywir.

Goruchwylio’r Farchnad

Mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad leol y mae’n rhaid iddynt gynnwys asesiad o ddigonolrwydd y gofal a chefnogaeth a ddarperir yn yr ardal. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fonitro ac adolygu cynaliadwyedd ariannol darparwyr gwasanaethau penodol. Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdodau lleol lle mae methiant darparwr gwasanaeth yn debygol yn eu hardal, a rhaid iddynt baratoi a chyhoeddi adroddiadau cenedlaethol ynghylch sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.


Erthygl gan Amy Clifton, Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.