Canser y prostad – y canser mwyaf cyffredin ymysg dynion yng Nghymru

Cyhoeddwyd 25/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin ymysg dynion yng Nghymru, ac mae'n destun dadl yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.

Mae ystadegau canser diweddaraf Cymru yn dangos mai canser y prostad a chanser y fron ymysg menywod yw'r ddau ganser mwyaf cyffredin yng Nghymru, gyda chyfraddau ddwywaith yn uwch na chanser yr ysgyfaint a chanser y coluddyn (y trydydd a'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin).

[caption id="attachment_2457" align="alignright" width="300"]Llun o Wikimedia Commons gan National Cancer Institute. Llun o Wikimedia Commons gan National Cancer Institute.[/caption] Achosion o ganser y prostad yw dros chwarter o bob canser newydd sy'n cael ei ganfod mewn dynion yng Nghymru.

Mae ymchwil gan Cancer Research UK yn dangos y bydd 1 o bob 8 dyn yn cael diagnosis canser y prostad ar ryw adeg yn eu bywydau.

Yn ôl Prostate Cancer UK, mae angen gwneud mwy i wella diagnosis cynnar. Felly, mae'r elusen yn galw am ymgyrch ymwybyddiaeth canser yng Nghymru wedi'i thargedu at ddynion, i amlygu ffactorau risg a symptomau ar gyfer pob math o ganser, gyda'r nod o chwalu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag trafod eu pryderon gyda'u meddyg. Mae'n nodi mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU heb ymgyrch ymwybyddiaeth canser. Mae ymgyrchoedd wedi bod yn yr Alban a Lloegr, ac fe lansiodd Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon ymgyrch yn ddiweddar.

Canfu ymchwil Prostate Cancer UK fod ymwybyddiaeth canser y prostad yn isel iawn ymhlith poblogaeth Cymru.

Mae elusen arall, Prostate Cymru, hefyd o'r farn bod angen codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch canser y prostad. Trefnodd ymgyrch y llynedd gydag Undeb Rygbi Cymru i ledaenu'r neges am y risgiau, gan roi cyhoeddusrwydd i'r negeseuon hyn:

  • Mae gan ddynion yng Nghymru risg 1 mewn 8 o gael y clefyd;
  • Mae'r risg i ddyn yng Nghymru sydd â brawd neu dad sydd wedi cael canser y prostad yn uwch, 1 mewn 3;
  • Mae gan ddynion Affro-Caribïaidd yng Nghymru risg 1 mewn 4.

Amrywiaeth ledled Cymru

Mae Prostate Cancer UK o'r farn bod anghysondebau o ran mynediad at nyrsys arbenigol a mynediad at gefnogaeth ar gyfer sgil-effeithiau triniaeth ledled Cymru.

Mae adroddiad ystadegau canser diweddaraf Cymru yn nodi bod cyfraddau goroesi pum mlynedd ar gyfer canser y prostad yn amrywio'n fawr rhwng byrddau iechyd, o 78.4% yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i 91.5% yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Canfu Arolwg Profiadau Cleifion Canser Cymru mai pobl â chanser y prostad oedd y lleiaf tebygol i ddweud yn bendant eu bod wedi cael digon o ofal a chymorth gan wasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol o gymharu â phobl â mathau eraill o ganser - roedd y sgoriau'n amrywio o 67% ar gyfer canser y colon a'r rhefr / canser gastroberfeddol is i 42% ar gyfer canser y prostad.

Mae Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yn nodi cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru hyd at 2016 ar gyfer GIG Cymru a'i bartneriaid. Dyma'r weledigaeth y mae am ei chyflawni:

  • Pobl o bob oed i wynebu llai o risg o ddatblygu canser, a phan fydd yn digwydd, bod ganddynt siawns wych o oroesi, lle bynnag maent yn byw yng Nghymru.
  • Cymru'n cymharu â'r gorau yn Ewrop.

Gofynnodd Andrew RT Davies gwestiwn ysgrifenedig ar gymorth i gleifion canser y prostad ym mis Mehefin 2014. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ddatgan bod y cynllun cyflenwi yn cynnwys cam gweithredu penodol i fyrddau iechyd lleol neilltuo gweithiwr allweddol i bob person â diagnosis o ganser, i helpu unigolion i ddod o hyd i gymorth priodol.


Erthygl gan Amy Clifton, Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.