Mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 25/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Bydd dadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 25 Chwefror. Yn ystod 2014, cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan amrywiaeth eang o randdeiliaid, a oedd yn tynnu sylw at ddiffyg proses glir a diffyg dull gweithredu trefnus a chydgysylltiedig o ran mabwysiadu technoleg yng Nghymru. Clywodd y Pwyllgor fod clinigwyr yn chwarae rôl allweddol wrth fabwysiadu technoleg, ond gan nad oes dull gweithredu strategol a chyson ar waith o ran cyflwyno technolegau newydd, efallai mai gofynion y rhai mwyaf uchel eu cloch neu'r rhai mwyaf dyfal sy'n cael eu bodloni, yn hytrach na'r rhai sy'n cyflwyno'r achos gorau. Awgrymwyd bod y sefyllfa o ran meddyginiaethau yn un debyg cyn cyflwyno Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Nodwyd yn bendant bod angen rhoi canllawiau NICE ar dechnolegau meddygol ar waith yn ehangach, ond roedd yn amlwg nad yw mabwysiadu argymhellion NICE yn ateb cyflawn o bell ffordd, a bod angen dull gweithredu mwy rhagweithiol ar gyfer asesu technolegau yng Nghymru. Un o brif argymhellion yr adroddiad yw y dylai Llywodraeth Cymru, cyn pen 12 mis, ddatblygu opsiynau ar gyfer system arfarnu technolegau meddygol i Gymru gyfan, er mwyn ymgymryd â swyddogaethau sy'n debyg i'r hyn y mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan yn ei wneud ym maes meddygaeth. [caption id="attachment_2079" align="alignright" width="300"]Llun: o Wicipedia Flikr gan .Martin. Dan drwydded Creative Commons Llun: o Wicipedia Flikr gan .Martin. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Tynnodd y dystiolaeth sylw at y gwahaniaethau rhwng meddyginiaethau a thechnolegau. Fel rhan o unrhyw broses arfarnu newydd, byddai'n rhaid sicrhau'r arbenigedd angenrheidiol, ystyried natur amrywiol technolegau, y sail dystiolaeth wannach a ffactorau fel defnyddioldeb ac effaith ar y llwybr gofal. Un o argymhellion arwyddocaol eraill y Pwyllgor yw y dylid sefydlu ffordd mwy strategol o gomisiynu technolegau meddygol yng Nghymru, yn enwedig o ystyried yr effaith 'sefydliadol' ehangach y gall mabwysiadu technoleg benodol ei chael. Byddai'n rhaid cysylltu hynny â phroses arfarnu gadarn. Clywodd y Pwyllgor fod prosesau comisiynu'n wan ar hyn o bryd: mae penderfyniadau'n cael eu gwneud mewn sawl lle, gallant fod yn hirwyntog ac nid yw'r broses yn dryloyw. Er bod cefnogaeth i'r syniad o gael corff comisiynu cenedlaethol i helpu i sicrhau mynediad teg a phrydlon at driniaethau ar gyfer cleifion ledled Cymru, pwysleisiwyd yr angen am gydbwysedd priodol rhwng prosesau comisiynu lleol a chenedlaethol, er mwyn rhoi ystyriaeth i anghenion a blaenoriaethau lleol. Prif argymhelliad y Pwyllgor yw y dylai Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r angen am ddull gweithredu mwy strategol, cydgysylltiedig a syml o ran mabwysiadu technolegau meddygol sy'n:
  • cael ei arwain gan angen clinigol ac anghenion y boblogaeth;
  • sicrhau buddsoddiad effeithiol mewn technolegau newydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ochr yn ochr â rhaglen o ddadfuddsoddi mewn offer aneffeithiol sydd wedi dyddio;
  • sicrhau mynediad cyfartal i driniaethau priodol newydd i gleifion yng Nghymru; ac sy'n
  • hwyluso ymgysylltiad pob rhanddeiliad, gan gynnwys clinigwyr, cleifion, y diwydiant a phartneriaid ymchwil.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru holl argymhellion y Pwyllgor mewn egwyddor, gan nodi ei bod yn cydnabod pa mor gryf yw dull gweithredu Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan, sef un o blith nifer o opsiynau i'w hystyried yn 2015.
Wrth ddatblygu opsiynau ar gyfer dull cenedlaethol o arfarnu a mabwysiadu technoleg cymerir i ystyriaeth sut y bydd yn cysylltu gyda’r gwasanaethau comisiynu a chaffael, fel y bydd y llwybr priodol i fabwysiadu’r dechnoleg yn cael ei wneud yn gliriach ac yn cael ei ddilyn yn gyson ar draws Cymru.  Bydd hyn hefyd yn ei gwneud yn bosibl datgomisiynu a gwaredu technoleg mewn ffordd fwy cydlynol, lle bo hynny’n briodol.

Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.