Yr Athro Graham Donaldson i gyflwyno adroddiad ar Gwricwlwm newydd i Gymru

Cyhoeddwyd 25/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bydd adroddiad yr Athro Graham Donaldson ar ei adolygiad annibynnol o'r cwricwlwm cenedlaethol a'r trefniadau asesu yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Disgwylir i gasgliadau ac argymhellion yr adroddiad fod yn rhai pellgyrhaeddol. Yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2014, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, mai hwn fyddai'r 'diwygiad mwyaf sylweddol i’r cwricwlwm a welwyd erioed yng Nghymru'. Yn ogystal, dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 23 Hydref 2014 (pdf600kb) fod y cynnwys yn debygol o fod yn ddwys ac yn debygol o fod yn newid sylfaenol o'r cwricwlwm cenedlaethol ar ei ffurf bresennol.

[caption id="attachment_2448" align="alignright" width="300"]Llun: o Pixabay Llun: o Pixabay[/caption] Cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil flog ym mis Chwefror y llynedd ar yr adolygiad annibynnol o'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu, sy'n cael ei gynnal mewn dau gam. Mae'r cam cyntaf yn diweddaru'r trefniadau presennol ar gyfer y cwricwlwm, a hynny er mwyn eu halinio â'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Cafodd y fframwaith hwn statws statudol ym mis Medi 2013. Yn dilyn cam 1, bydd y Meysydd Dysgu diwygiedig yn y Cyfnod Sylfaen a'r Rhaglenni Astudio diwygiedig ar gyfer y Gymraeg, Saesneg a Mathemateg yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4 yn cael statws statudol o fis Medi eleni. Mae papur Cwestiynau Cyffredin gan Lywodraeth Cymru (pdf151kb) yn cynnwys eglurhad pellach.

Adolygiad annibynnol yr Athro Graham Donaldson yw'r ail gam. Wrth gyhoeddi manylion yr adolygiad ar Mawrth 12 2014, gan gynnwys penodiad yr Athro Donaldson, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog, ei fod am wneud rhywbeth unigryw i Gymru – i ddatblygu Cwricwlwm i Gymru – sy'n darparu continwwm o addysg o'r Cyfnod Sylfaen hyd at Gyfnod Allweddol 4.

Er bod cam 1 o'r adolygiad wedi canolbwyntio ar ad-drefnu'r cwricwlwm i gyd-fynd â'r newidiadau sylweddol a ddaeth yn sgil y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, mae adolygiad Donaldson yn canolbwyntio'n fwy ar gynllunio'r cwricwlwm, gan ystyried cynnwys pynciau unigol a'u lle o fewn y cwricwlwm. Mae hefyd yn ymdrin â nifer o adolygiadau, adroddiadau ac argymhellion a gyhoeddwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fel adroddiad y Grŵp Llywio TGCh i Lywodraeth Cymru a'r Adolygiad o Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4.

Yn ôl gwefan Llywodraeth Cymru, gofynnodd y Gweinidog i'r Athro Donaldson amlinellu gweledigaeth glir ac ystyrlon ar gyfer y cwricwlwm cenedlaethol a’r trefniadau asesu yng Nghymru o’r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4, sef gweledigaeth a oedd yn uniongyrchol gysylltiedig â’r system gymwysterau newydd. Ceir rhagor o fanylion yn y Cylch Gorchwyl.

Cyflwynodd yr Athro Donaldson y wybodaeth ddiweddaraf i'r Gweinidog ym mis Hydref 2014 (pdf103kb) ynghylch y cynnydd a wnaed yn yr adolygiad. Roedd y ddogfen hon yn cynnwys '10 Egwyddor Cynllunio Cwricwlwm'. Yn ôl yr egwyddorion hyn, dylai'r cwricwlwm: fod yn ddilys; gael ei seilio ar dystiolaeth; ymateb i wahanol anghenion; fod yn gynhwysol; fod yn uchelgeisiol; rymuso; uno; ennyn diddordeb; gael ei seilio ar sybsidiaredd; fod yn hylaw.

Dywedodd hefyd: 'Bydd fy adroddiad terfynol yn debygol o gyflwyno cynigion sylweddol eu goblygiadau o ran sut y byddwn am fynd ati i lunio dibenion y cwricwlwm, o ran disgrifio a threfnu’r amryw elfennau gwahanol ac o ran asesu cynnydd wrth ddysgu'.

Wrth ymddangos gerbron y Pwyllgor yn ystod sesiwn o waith craffu ar y gyllideb ddrafft ym mis Hydref 2014, dywedodd y Gweinidog ei fod yn rhagweld y byddai'r newid hwn yn un sylweddol. Dywedodd: 'Remaking a curriculum is no mean business; this will be years of concentrated effort, right across the educational community.'

Sut y bydd y sector addysgu yn ymateb?

Bydd yn ddiddorol iawn gweld sut y bydd ysgolion ac athrawon yn ymateb i adolygiad Donaldson mewn cyfnod o newidiadau sydd eisoes yn rhai sylweddol. Mewn araith bwysig yn gynharach y mis hwn, dywedodd Huw Lewis y byddai'r proffesiwn addysgu yn 'allweddol' i'r broses o gyflwyno Cwricwlwm newydd i Gymru, sef y cwricwlwm a fydd yn deillio o adolygiad Donaldson.

Dywedodd yr OECD, yn ei adolygiad o'r system addysg yng Nghymru (Ebrill 2014), fod ysgolion yn wynebu rhai heriau o ran gweithredu nifer o'r polisïau a'r diwygiadau sy'n bodoli o dan agenda gwella Llywodraeth Cymru oherwydd bod cynifer ohonynt. Yn ôl yr OECD, dywedodd y penaethiaid a'r rhanddeiliaid y cyfarfu'r tîm adolygu â hwy fod perygl y byddai'r camau hyn ond yn cael eu gweithredu'n rhannol neu fod yna berygl o flinder ynghylch y newidiadau hyn ('reform fatigue').

Dyma oedd un o gasgliadau'r OECD: 'The pace of reform has been high and lacks a long-term vision … and clear implementation strategy all stakeholders share’. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r casgliad hwn drwy ei gynllun gwella addysg newydd, 'Cymwys am Oes'. Yn bennaf, mae Cymwys am Oes yn dwyn ynghyd nifer o ddiwygiadau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi neu sydd ar y gweill, ac yn eu cynnwys mewn un strategaeth yn hytrach na chyflwyno agenda gwbl newydd o newidiadau ar gyfer ysgolion ac athrawon.

Wedi i adroddiad yr Athro Donaldson gael ei gyhoeddi heddiw, mae'r Gweinidog Addysg a Sgiliau yn bwriadu gwneud datganiad llafar yn y Senedd ddydd Mawrth 4 Mawrth.


Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.