Cyhoeddwyd 26/02/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Yn nhymor yr haf 2014, cyflwynodd Llywodraeth Cymru
Gronfa Natur gwerth £6 miliwn er mwyn mynd i'r afael â'r dirywiad parhaus mewn bioamrywiaeth ledled Cymru, a hynny drwy gydweithio ar sail ardal. Mae'r gronfa wedi'i chyfyngu i 2014/2015, gyda rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer chwarter cyntaf 2015/16. Daeth y buddsoddiad hwn yn sgil canfyddiadau'r
adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur: Cymru, a ddangosodd fod llawer o rywogaethau yn dirywio. Disgrifiodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad hwn fel agoriad llygad.
Datblygodd Llywodraeth Cymru ei dull gweithredu ynghylch y Gronfa Natur drwy ystyried syniadau a gyflwynwyd gan gyrff anllywodraethol, rheolwyr tir, ffermwyr, rheolwyr coetiroedd, busnesau bach a chanolig ac awdurdodau lleol (cafwyd 460 o syniadau i gyd), a hynny er mwyn nodi sut y gallai ehangu ei chamau gweithredu 'er mwyn mynd i'r afael â'r rhesymau sylfaenol am y dirywiad'.
[caption id="" align="alignright" width="640"]
Llun o Flickr gan Charlie Dave. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Cyhoeddodd Alun Davies, y Gweinidog dros Adnoddau Naturiol a Bwyd ar y pryd, mai prif ffocws y Gronfa fyddai buddsoddi mewn saith Ardal Gweithredu Byd Natur. Yr
Ardaloedd Gweithredu Byd Natur a nodwyd oedd:
- Bannau Brycheiniog;
- Mynyddoedd Cambria;
- Dyffryn Conwy;
- Arfordir Sir Benfro;
- Cymoedd y De;
- Y Berwyn a'r Migneint;
- Pen Llŷn.
Nodwyd pum blaenoriaeth buddsoddi ar gyfer yr ardaloedd daearyddol hyn: gweithredu i wella dalgylchoedd afonydd; gweithredu ar ecosystemau morol; gweithredu er lles yr amgylchedd lleol; gweithredu i wireddu potensial ein hucheldiroedd; gweithredu i annog arloesi. Ceir manylion am y blaenoriaethau hyn
yma.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi cyfran o'r Gronfa Natur mewn gwella'r modd y mae tir sydd â gwerth ecolegol isel yn cael ei rheoli, er enghraifft, drwy sefydlu coetiroedd collddail a chynyddu nifer y planhigion gwyllt brodorol sy'n cael eu plannu.
Ym mis Tachwedd 2014, cyhoeddodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, fod cyllid ychwanegol gwerth
£3 miliwn ar gael.
O'r 62 o geisiadau a ddaeth i law, mae 20 o brosiectau (Ffigur 1) yn cael cyllid drwy'r Gronfa Natur. Mae'r prosiectau yn amrywio. Maent yn cynnwys gwaith i wella dalgylchoedd afonydd ac ecosystemau morol, ynghyd â gwaith i adfer mawndiroedd a phrosiect cymunedol i reoli coetir.
Ffigur 1. Mae'r 20 prosiect, yn ogystal â'u lleoliadau, yn cael cyllid gan y Gronfa Natur ar hyn o bryd. Ffynhonnell:
Llywodraeth Cymru.
Ceir manylion pellach am y prosiectau hyn a'r cyllid sydd wedi'i ddyfarnu
yma. Rhoddir rhai enghreifftiau isod:
Swyn Naturiol - £130,000:
Nod y prosiect hwn, sy'n cael ei arwain gan Cadwch Gymru'n Daclus, yw cynyddu gwasanaethau ecosystemau lluosog mewn mannau diffrwyth nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi ar hyn o bryd, a hynny drwy gyflwyno blodau gwyllt.
Berwyn a Migneint, adfer y Mynyddoedd Duon ac ucheldir Maesyfed - £241,800:
Nod y prosiect hwn, sy'n cael ei reoli gan y Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt (FWAG), yw cefnogi adfer rhywogaethau graddfa tirwedd a darparu gwasanaeth i ecosystem ehangach. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar adfer a diogelu mawnogydd.
Y prosiect Pryfaid Peillio am Oes - £282,100:
Nod y prosiect hwn, sy'n cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yw ymgymryd ag ystod o weithdrefnau i hyrwyddo rheoli tir yn gynaliadwy yn y tymor hir a gwella cynefinoedd ac amodau ar gyfer yr holl rywogaethau o bryfaid peillio ar draws Cymoedd De Cymru.
Cysylltu Pyllau - £63,000:
Mae'r prosiect hwn, sy'n cael ei arwain gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, yn dod â phartneriaid ynghyd i greu ac adfer pyllau a chynefinoedd mewn dros 30 o safleoedd yn Ardaloedd Gweithredu Byd Natur Bannau Brycheiniog, yng Nghymoedd de Cymru ac yn Sir Benfro.
Gwair Porffor Mawndir Elenydd - £152,000:
Mae'r prosiect hwn, sy'n cael ei arwain gan Fenter Mynyddoedd y Cambria, yn ymgymryd â, ac yn gwerthuso, gwahanol ffyrdd o reoli Molinia ac yn ymchwilio i wahanol ddefnyddiau posib ar gyfer Molinia.
Gwaith Cysylltu yn Nalgylch Duhonw - £128,000:
Mae’r prosiect hwn, sy'n cael ei arwain gan ffermwyr, yn creu gwydnwch ecosystem drwy sefydlu coridorau bywyd gwyllt a fydd yn darparu buddiannau amgylcheddol ehangach, gan gynnwys gwella ansawdd dŵr a’r dull o storio dŵr o fewn y dalgylch.
Moroedd Byw Pysgodfeydd y Dyfodol - £62,000:
Mae’r bartneriaeth hon yn cynnig darparu gwybodaeth er mwyn helpu i hyrwyddo dulliau pysgota effaith isel a fydd yn galluogi adfer rhywogaethau a chynefinoedd. Nid yw’r wybodaeth hon ar gael ar hyn o bryd a bydd defnyddio hyn yn helpu i annog pysgotwyr i gael agwedd gynaliadwy tuag at bysgota.
Erthygl gan Katy Orford, Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.