Cyrraedd y targedau ymateb ambiwlans mewn achosion brys yng Nghymru

Cyhoeddwyd 27/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Yn ddiweddar, mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau am fethu ei dargedau ymateb mewn achosion brys. Mae hyn er gwaethaf y buddsoddiad a wnaeth Llywodraeth Cymru yn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i gynyddu nifer yr ambiwlansys a staff ambiwlans rheng flaen. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo'r cyfrifoldeb am gomisiynu gwasanaethau ambiwlans brys i bwyllgor newydd, y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, er mwyn gwneud y broses hon yn gliriach. Serch hynny, mae'r ystadegau yn dangos bod amseroedd ymateb ambiwlansys mewn achosion brys yn is na'r targed o hyd, ac yn dal i ddisgyn, yn enwedig ar gyfer y targedau ymateb 8 munud. Felly, beth yw'r stori y tu ôl i'r ffigurau amseroedd ymateb brys, a beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â nhw?

Y targed ymateb 8 munud

Mae'r targedau amser ymateb ar gyfer ambiwlansys yn seiliedig ar Safonau Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Llywodraeth y DU. Mae'r targed 8 munud yn seiliedig ar safon 5 y fframwaith hwn ac ar dystiolaeth bod cleifion yn fwy tebygol o farw pan fydd oedi cyn rhoi triniaeth i'r galon a'r ysgyfaint a diffibrilio yn achos pobl sy'n dioddef trawiad ar y galon. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod dau darged ymateb ar gyfer ambiwlansys:
  • 65% o’r holl alwadau yn y categori ‘lle mae bywyd yn y fantol’ i gael ymateb brys o fewn 8 munud ar sail Cymru gyfan; a
  • 60% o’r holl alwadau yn y categori ‘lle mae bywyd yn y fantol’ i gael ymateb o fewn 8 munud ar sail Awdurdod Unedol.
Mae'n werth nodi, fodd bynnag, bod adolygiad McClelland yn sôn fel a ganlyn am y targed 65%:
[…] a very limited way of judging and incentivising the performance of ambulance services. Speed is particularly important for some conditions such as cardiac arrest but there is little clinical evidence to support the blanket 8 minute national target.
Roedd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cyrraedd y targedau hyn yn ystod hanner cyntaf 2012, ond ers mis Mehefin 2012, dim ond unwaith y mae wedi cyrraedd y targed o 65%, sef ym mis Hydref 2013. Mae'r graff canlynol yn dangos sut y mae canran yr ymatebion brys sy'n cyrraedd o fewn 8 munud wedi aros yn gyson is na'r targed o 65%, a bod tuedd gyffredinol i'r amser ymateb ostwng: Category A calls welsh Er bod nifer y galwadau Categori A sydd angen ymateb brys wedi cynyddu 3.1% rhwng 2012 a 2014, mae nifer y galwadau Categori A sy'n cael ymateb o fewn 8 munud wedi gostwng 13.6%. Mae hyn yn awgrymu, er y bu rhywfaint o gynnydd yn y galw am alwadau Categori A, y bu gostyngiad sylweddol o ran perfformiad wrth geisio cyrraedd y targed 8 munud. Blog-cy Ledled Cymru, roedd amseroedd ymateb ambiwlansys o fewn 8 munud 1.3 pwynt canran yn brin o'r targed o 65% yn 2012, (ffigurau cyfartalog ar gyfer mis Ionawr i fis Rhagfyr), 9.4 pwynt canran yn 2013, a 10.6 pwynt canran yn 2014. Fel y dengys y tabl canlynol, tra bod y gwasanaethau ambiwlans yn cyrraedd eu targed yn 2012, nid oedd eu perfformiad gystal yn 2014. Dim ond ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr oedd canran yr ambiwlansys a oedd yn cyrraedd y targed ymateb 8 munud yn uwch yn 2014 nag yr oedd yn 2012: LAs welshFel y dengys y data o fis Ionawr 2015 mae'r amseroedd ymateb ambiwlansys, yn enwedig yn y cymoedd, wedi disgyn yn fyr o'r targed ymateb brys 60%: Jan 2015 welsh Gan gyfeirio at y gwahaniaeth a ddefnyddir yn Lloegr rhwng galwadau Red 1 (bywyd yn y fantol ar unwaith) a Red 2 (bywyd yn y fantol ond yn llai critigol), mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn rhoi rhywfaint o sicrwydd bod y gwasanaethau ambiwlans wedi cyrraedd 62.8% o'r galwadau mwyaf difrifol o fewn 8 munud ym mis Ionawr. Mae hyn yn dal yn brin o'r targed o 65% ar gyfer Cymru gyfan. Yn ôl Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, gellir esbonio'r gostyngiad yn y gyfran o ymatebion brys sy'n cyrraedd y targed o 8 munud gan y cynnydd yn y galw ac oedi wrth drosglwyddo i ysbytai, cynnydd yn aciwtedd a dibyniaeth cleifion, lleihad yn yr adnoddau mewn ardaloedd o weithgarwch uwch, a rhwystrau i wella'r system gofal iechyd bresennol.

Ymateb i her yr amserau ymateb 8 munud

O ystyried yr heriau hyn, mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn destun nifer o adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru, ymchwiliad gan Bwyllgor Archwilio'r Cynulliad, ac adolygiad McClelland. Yn strategaeth Llywodraeth Cymru Cyflenwi Gwasanaethau Gofal Brys (2008) , mae ffrwd waith ar gyfer moderneiddio sy'n anelu at droi'r gwasanaeth ambiwlans yn brif ddarparwr a phartner o ran cyflenwi gwasanaethau gofal heb ei drefnu. Mae rhaglen foderneiddio Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ei hun yn mynd ati i ddatblygu gwasanaeth o safon uchel, ac i “ymateb yn gyflym i gleifion a chyflyrau sy’n bygwth bywyd ar unwaith, gyda phedair munud yn norm ar gyfer achosion cardiaidd, strôc a thrawma difrifol”. Y bwriad yw cyflawni hyn drwy ddatblygu staff, gan wneud gwell defnydd o dechnoleg a thrwy foderneiddio adeiladau a'r fflyd ambiwlansys. Yn fwy diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at y canlyniadau gwrthnysig a ysgogwyd gan dargedau, ac mae'n sôn am ymdrechion i symud y GIG i system sy'n cyflawni gofal iechyd. Mae'r Gweinidog Iechyd wedi gofyn i'w "Adran flaenoriaethu datblygu mesurau gofal heb ei drefnu, gan gynnwys y gwasanaeth ambiwlans ac adrannau damweiniau ac achosion brys,” ac mae wedi cytuno i gyhoeddi Fframwaith Canlyniadau'r GIG ym mis Ionawr 2015:
The purpose of the NHS Outcomes Framework is to measure delivery across a wider area than just the acute hospitals to reflect the structure and accountability of the Welsh Health Boards.
Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn cynnal ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd er mwyn datblygu ei gallu i ymateb i'r cyhoedd, a thrwy hynny gyfrannu at ddatblygu gwasanaeth sy'n fwy cynaliadwy a chosteffeithiol. Nid oes unrhyw fanylion wedi'u rhyddhau hyd yma am sut y byddai fframwaith canlyniadau yn gweithredu.
Erthygl gan Shane Doheny, Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.