A yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn gwneud gwahaniaeth?

04 Mawrth 2015

Erthygl gan Stephen Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Steve-Blog-cy

Heddiw mae’r Cynulliad yn trafod adroddiad gan ei Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau’r Pwyllgor ar effaith y Mesur.

Croesawyd y Mesur fel datblygiad cadarnhaol o ran gofal iechyd meddwl pan basiwyd ef gan y Cynulliad yn 2010, gan ei fod yn ceisio sicrhau y gall pobl sy’n dioddef salwch meddwl gael triniaeth a chymorth yn gynt ac yn haws, cyn i’w symptomau ddod yn fwy difrifol. Ei nod yw gwneud hyn drwy ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl gwell mewn gofal sylfaenol, a gwell dulliau cynllunio gofal a chymorth i bobl mewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Mae hefyd yn cynyddu’r ymwneud â’u gofal a’u triniaeth gan ddefnyddwyr gwasanaethau, ac yn ehangu mynediad at wasanaethau eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol.

Roedd y Pwyllgor am wybod a yw’r Mesur yn cyflawni’r hyn a fwriadwyd. Yr haf diwethaf, gofynnodd am dystiolaeth ysgrifenedig gan ddarparwyr gwasanaethau iechyd meddwl, mudiadau gwirfoddol ac eraill. Hefyd gwahoddodd Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi tystiolaeth yn ei gyfarfod ar 20 Tachwedd 2014.

Cynorthwywyd y Pwyllgor yn ei dasg gan ofyniad, a oedd wedi’i gynnwys yn y Mesur, ar Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd y Mesur o fewn pedair blynedd i’w roi ar waith. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad interim o’r Mesur yn y gwanwyn 2014, ac mae’n cynllunio adroddiad terfynol erbyn Ionawr 2016.

Canfu’r Pwyllgor bod mynediad at ofal a chefnogaeth iechyd meddwl mewn gofal sylfaenol wedi gwella ar y cyfan; erbyn hyn mae rhagor o bobl yn chwilio am gymorth i drin anawsterau iechyd meddwl. Fodd bynnag, gall y galw am driniaeth, yn enwedig therapïau siarad, olygu amseroedd aros hir mewn rhai ardaloedd.

Clywodd y Pwyllgor fod cynlluniau gofal a thriniaeth bellach yn cael eu darparu i ragor o bobl mewn gofal eilaidd nag o’r blaen, ond bod ansawdd y cynlluniau’n amrywio. Roedd tystiolaeth nad yw’r darpariaethau yn y Mesur, i ganiatáu i gyn-gleifion gael ail-fynediad at driniaeth os byddant yn mynd yn sâl, wedi’u deall yn dda gan rai staff a chleifion.

Mae mwy o bobl yn cael cefnogaeth gan eiriolwr annibynnol nag o’r blaen, er bod angen gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ymysg staff i alluogi iddynt helpu cleifion gyrraedd y gwasanaethau eiriolaeth.

Pan roddodd y Gweinidog dystiolaeth i’r Pwyllgor, amlinellodd ei gynlluniau i fynd i’r afael â’r materion hyn, sy’n cynnwys sefydlu grwpiau gorchwyl a gorffen i adolygu pob un o’r pedair rhan o’r Mesur, a’r cynllun gweithredu ar gyfer therapïau seicolegol.

Roedd y Pwyllgor yn pryderu’n fwy na dim nad oedd plant a phobl ifanc, a oedd yn dod o fewn cwmpas y Mesur yn gymharol hwyr, yn cael budd llawn ohono. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y gwasanaethau newydd a gwell wedi cael eu cynllunio mewn cysylltiad â gwasanaethau i oedolion, ac nad y gwasanaethau hynny yw’r rhai mwyaf addas i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc bob amser. Mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi adolygiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed i fynd i’r afael â’r materion hyn a materion eraill, gan gynnwys y rhai a amlygwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei adroddiad ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed ym mis Tachwedd 2014.

Edrychodd y Pwyllgor hefyd ar agweddau ariannol ar y Mesur, o ran a yw’r amcangyfrifon cost gwreiddiol yn realistig, ac a yw’r lefelau cyllid yn ddigonol i gyflawni ei nodau. Nid oedd llawer o dystiolaeth i seilio casgliadau pendant arnynt, ond clywodd y Pwyllgor y dylai Mesur sy’n cael ei weithredu’n iawn sicrhau arbedion hirdymor, oherwydd bod triniaeth gynharach yn lleihau’r angen am wasanaethau yn nes ymlaen. Yn ei adroddiad, pwysleisiodd y Pwyllgor bod angen dadansoddiad cost a budd cadarn i asesu gwerth y Mesur.

Mae craffu ar ôl deddfu yn faes gwaith cymharol newydd i’r Cynulliad. Bydd y gwersi a ddysgwyd yn sgîl Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010  yn helpu i lywio arferion gorau wrth lunio a gweithredu deddfwriaeth yn y dyfodol.

Gwnaeth y Pwyllgor 10 argymhelliad: Gellir darllen adroddiad y Pwyllgor, y dystiolaeth a gafodd, ac ymateb y Gweinidog i’r adroddiad yma.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg