Mynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd yng Nghymru

04 Mawrth 2015

Erthygl gan Shane Doheny, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, mewn blog diweddar:

… rydyn ni’n cyrraedd pwynt yng Nghymru lle mae nifer y bobl hŷn sy’n teimlo’n unig ac yn ynysig yn cyrraedd lefel epidemig.

Delwedd o Pixabay. Trwydded Creative Commons.

Delwedd o Pixabay. Trwydded Creative Commons.

Gwnaeth y Comisiynydd y sylw hwn ar adeg pan mae Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o sylw i les pobl. Felly beth y mae’r ymchwil yn ei ddweud am unigrwydd ac unigedd, a beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem hon?

Beth yw’r broblem?

Mae unigedd ac unigrwydd yn ddau gysyniad gwahanol. Mae’r ddau yn ymwneud ag ymdeimlad pobl o gysylltiad â phobl eraill. Cyfeiria unigedd at ymdeimlad o wahanu oddi wrth gysylltiad ag eraill, tra bod unigrwydd yn cyfeirio at y teimlad bod ansawdd y cysylltiad yn brin rywsut. Gall unigolyn fod yn ynysig yn gymdeithasol heb deimlo’n unig, neu gael ei amgylchynu gan bobl, ond parhau i deimlo’n unig. Nid pobl hŷn yn unig sy’n profi problemau unigedd ac unigrwydd, gall effeithio ar bobl o unrhyw oedran.

A yw hon yn broblem gyffredin?

Mae ein poblogaeth sy’n heneiddio yn golygu bod rhagor o waith yn cael ei wneud i gefnogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, yn unol â   dymuniadau’r person hŷn ei hun. Fodd bynnag, mae’r annibyniaeth hwn hefyd yn gysylltiedig ag unigedd ac unigrwydd.

Yn ôl ffigurau Age UK, mae 7% o bobl dros 65 mlwydd oed ar draws y DU yn dweud eu bod bob amser, neu’n aml, yn teimlo’n unig.  Mae’r ffigur hwn yn codi i 33% os cynhwysir y rhai sydd weithiau’n teimlo’n unig.

Effeithiau unigrwydd ac unigedd

Roedd adolygiad Age UK o dystiolaeth am unigrwydd ac unigedd yn dangos y gall y profiadau hyn arwain at broblemau gofal iechyd i’r bobl dan sylw. Gall cyflyrau iechyd presennol leihau annibyniaeth person, gyfyngu ar gysylltiad cymdeithasol pobl ac arwain at ymdeimlad o unigrwydd. Mae unigrwydd ynddo’i hun yn cael ei gysylltu â phwysedd gwaed uwch, system imiwnedd wannach, colli cwsg, a theimladau o iselder a phryder. Mae unigrwydd hefyd yn dyblu’r risg o ddatblygu’r clefyd Alzheimer, ac i’r gwrthwyneb, cysylltir cymryd rhan yn gymdeithasol â bod yn llai tueddol o gael dementia. Mae unigrwydd hefyd yn gysylltiedig â defnyddio alcohol a chyffuriau, bod dros bwysau, ac ag ysmygu. Felly, y mae unigrwydd nid yn unig yn ddrwg i chi (mae mor niweidiol i’ch iechyd ag ysmygu 15 o sigaréts y dydd), ond mae cael cysylltiadau cymdeithasol yn cael effeithiau buddiol.

Beth allwn ni ei wneud am y broblem hon? 

Mae Canllaw ar Ddinasoedd Cyfeillgar i Oed Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn amlygu pwysigrwydd gwirfoddoli mewn clybiau a sefydliadau, cymryd rhan mewn cyflogaeth, a chymryd rhan mewn cyfranogiad dinesig. Ar gyfer Age UK, mae hyn yn golygu cydnabod pwysigrwydd amgueddfeydd a llyfrgelloedd fel mannau lle y gall pobl hŷn gymryd rhan yn eu cymdeithas. Mae Canllaw Sefydliad Iechyd y Byd hefyd yn cyfeirio at bwysigrwydd cyfranogiad cymdeithasol a sut y mae:

Participating in leisure, social, cultural and spiritual activities in the community, as well as with the family, allows older people to continue to exercise their competence, to enjoy respect and esteem, and to maintain or establish supportive and caring relationships.

Fel ffordd o fynd i’r afael ag unigedd, mae’r canllaw yn nodi bod cyfranogiad cymdeithasol yn haws pan fydd y cyfleoedd yn agos i gartref, ac mae llawer o gyfleoedd.

Mae pwysigrwydd cyfranogiad cymdeithasol yn codi pwysigrwydd gwasanaethau lefel isel (gwasanaethau a all fod o fudd i iechyd pobl ac arwain at lai o wariant ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol) ar gyfer pobl hŷn. Roedd adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree yn rhestru 13 o enghreifftiau o wasanaethau lefel isel sy’n gwneud bywyd yn haws i bobl hŷn, ac yn cynnwys dinasyddion hŷn fel cyfranwyr i’w cymunedau. Roedd y gwasanaethau hyn yn cynnwys gwasanaeth gofal a thrwsio, ymgyfeillio, gwasanaeth gofal nos a chanolfan weithgareddau.

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud?

Mae Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru 2013-2023 yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi pobl hŷn i gymryd rhan mewn cymdeithas fel ffordd o fynd i’r afael â phroblemau unigrwydd ac unigedd. Ymhlith nodau’r strategaeth mae, erbyn 2023, bod:

Pobl hŷn yn cael gwell ansawdd bywyd, yn byw bywydau cymdeithasol llawn (os dymunir hynny) ac mae unigedd ac ynysu cymdeithasol diangen yn cael eu lleihau i’r eithaf.

Caiff hyn ei fonitro drwy fesur ymdeimlad pobl hŷn o unigrwydd a’u hymgysylltiad cymdeithasol.

Bu Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith o’r fath drwy annog awdurdodau lleol a’r gwasanaeth iechyd i ddefnyddio partneriaethau i wella lles pobl. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo lles pobl sydd angen gofal, a gofalwyr sydd angen cymorth. Yn ôl y Ddeddf, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn eu hardal sy’n cyfrannu “at atal neu oedi datblygiad anghenion pobl am ofal a chymorth”.

Canfu arolwg o wasanaethau gwledig, a gynhaliwyd gan Arsyllfa Wledig Cymru, fod gwasanaethau lefel isel yn cael eu darparu mewn 58% yn unig o’r cymunedau a arolygwyd. Yr ymyriadau mwyaf cyffredin oedd gwasanaethau prydau bwyd (30%) a chlybiau cinio (27%), gyda gwasanaethau cyfeillio yn cael eu darparu mewn dim ond 10% o gymunedau gwledig. Ar yr un pryd, yn ôl Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, efallai mai mudiadau’r trydydd sector sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu gwasanaethau lefel isel. Fodd bynnag, mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn dadlau mai’r sector hwn “gafodd y toriadau mwyaf mewn grantiau [gwariant Llywodraeth Cymru]”.