Gosod pris ar hyder defnyddwyr: ASEau yn gwneud cais am Labelu Gwlad Tarddiad ar gyfer cig wedi’i brosesu

Cyhoeddwyd 10/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Mawrth 2015 Erthygl gan Harriet Howe, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="" align="alignnone" width="682"]Llun o Flickr gan Steven Depolo. Dan Drwydded Creative Commons. Llun o Flickr gan Steven Depolo. Dan Drwydded Creative Commons.[/caption] Ym mis Chwefror 2015, galwodd ASEau ar y Comisiwn Ewropeaidd i gyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud yn orfodol i gig wedi’i broses mewn bwydydd parod gael eu labelu â gwlad tarddiad. Byddai hyn yn ymestyn y ddeddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol bod labelu gwlad tarddiad yn cael eu rhoi ar gig ffres, i’w gwneud yn ofynnol i’w rhoi ar gynhwysion cig mewn bwydydd wedi’u proses fel selsig a phrydau parod. Mae Labelu Tarddiad ar ddeunydd pacio cig yn rhoi gwybodaeth am y wlad lle cafodd yr anifail ei eni, ei fagu a’i ladd. Mae hyn wedi bod yn ofyniad ar gyfer cig eidion heb ei brosesu ers 2000, pan gafodd ei gyflwyno fel mesur i reoli lledaeniad BSE. O fis Ebrill 2015, bydd yn cael ei ymestyn i gynnyrch mochyn, dofednod, defaid a geifr heb eu prosesu, gan gynnwys cig ffres, wedi’i oeri neu wedi’i rewi. Mae ymestyn labelu tarddiad yn un o’r mesurau a gyflwynwyd i’r UE i wella diogelwch bwyd a hyder defnyddwyr yn dilyn achosion o ‘dwyll bwyd’ a gafodd gryn sylw, fel y sgandal cig ceffyl yn 2013.  Yn ôl gwaith a wnaed gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2013 roedd dros 90% o ymatebwyr am wybod ym mha wlad roedd eu cig yn cael ei gynhyrchu. Yn dibynnu ar yr aelod-wladwriaeth, daw 30-50% o’r cig a gynhyrchir yn gynhwysyn mewn cynnyrch bwyd wedi’i brosesu.  Mae rhai sefydliadau ffermio, fel NFU Cymru wedi mynegi cefnogaeth i’r cynigion hyn. NFU Cymru:

“…clear labelling of these processed foods is essential to let the consumers know, not only what they are buying but where the ingredients actually originate from in the first place…Like the proposals in the resolution, we believe that labelling the origin of meat used as an ingredient in foods will help ensure better traceability along the food supply chain…It will also help create more stable relationships between meat suppliers and processors and increased diligence when food business operators choose their suppliers and products.”

Fodd bynnag, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi bod yn amharod i gyflwyno mesurau o’r fath yn sgil pryderon y gallai olygu cynnydd mewn pris bwyd yn y pen draw.  Amcangyfrifodd adroddiad gan Gomisiwn yr UE ar labelu bwyd y gallai prisiau gynyddu 15% i 50%, yn dibynnu ar y cynnyrch. Mae’r farn hon wedi cael ei hategu gan y Ffederasiwn Bwyd a Diod a oedd yn dadlau y byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn rhy ddrud a chymhleth i’w gweithredu:

“…legislation to require origin labelling would be burdensome to achieve; increase costs; contribute little to improving consumer information; further complicate the label; and would have no impact on food safety”.

Mae ASEau wedi dadlau yn erbyn y canfyddiadau hyn, gan ddyfynnu astudiaeth o Ffrainc a oedd yn cyfrifo mai dim ond tua 1.5 Ewro cent ychwanegol fyddai cynnyrch fel lasagne cig eidion wedi’i rewi. Maent wedi galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i gynnal dadansoddiad pellach o’i ffigurau. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg