Dweud eich dweud ar ddyfodol y Dreth Stamp yng Nghymru

Cyhoeddwyd 12/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

12 Mawrth 2015 Erthygl gan Martin Jennings, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_2536" align="alignright" width="420"]Llun: Geograph gan Andy Beecroft . Dan drwydded Creative Commons Llun: Geograph gan Andy Beecroft . Dan drwydded Creative Commons[/caption] Mae dwy ran o dair o gartrefi yng Nghymru yn eiddo i berchen-feddiannwyr.   O 1 Ebrill 2018 bydd cyfraddau Treth Dir y Doll Stamp, a gaiff ei ail-enwi'n Dreth Trafodiadau Tir, yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru.  Felly, bydd penderfyniadau a wneir yng Nghymru yn effeithio ar yr holl gartrefi a safleoedd busnes a werthir ar ôl y dyddiad hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad i helpu i lunio'r polisi.  Eu nod yw bod treth o'r fath yn y dyfodol yn syml, yn deg ac yn anodd ei osgoi. Mae hwn yn gyfle i'r cyhoedd gyfrannu at y gwaith o ddatblygu system dreth newydd a fydd yn effeithio ar unrhyw un sy'n prynu tŷ neu eiddo busnes ar ôl 1 Ebrill 2018. Mae'r ymgynghoriad eisiau clywed barn pobl ar faterion megis:
  • Beth ddylai strwythur y dreth fod?
  • Beth ddylid ei ystyried wrth lunio polisi ar fandiau a chyfraddau treth?
  • Sut y gellir lleihau'r achosion o osgoi trethi?
  • A ddylid cael gostyngiadau ac eithriadau?
  • Sut y dylai trafodiadadau gan gwmnïau yn hytrach na phobl gael eu trin?
  • A ddylid trin lesoedd yn wahanol i bryniadau?
Am ragor o wybodaeth, neu i ymateb i'r ymgynghoriad, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 6 Mai 2015. Roedd dros 50,000 o drafodiadau yn destun Treth Dir y Doll Stamp yn 2013-14 yng Nghymru.  Rhagwelir erbyn 2018-19 y bydd y dreth yn casglu dros £200 miliwn y flwyddyn. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg