Adolygiad Donaldson: Ei feirniadaeth a'i weledigaeth

Cyhoeddwyd 16/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Mawrth 2015 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_2542" align="alignright" width="300"]Llun: o Pixabay Llun: o Pixabay[/caption] Dyma'r erthygl gyntaf mewn cyfres yr wythnos hon sy'n edrych yn fanwl ar Adolygiad Donaldson a'r hyn y mae'n ei olygu i addysg pobl ifanc yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad yr Athro Graham Donaldson, 'Dyfodol Llwyddiannus', ar 25 Chwefror.  Mae'n dilyn adolygiad o'r cwricwlwm a threfniadau asesu a barhaodd born blwyddyn, lle cyfrannwyd tystiolaeth gan dros 700 o bobl yng Nghymru. Y noson cyn cyhoeddi'r adroddiad, cyhoeddwyd blog y Gwasanaeth Ymchwil am gefndir y 'diwygiad mwyaf sylweddol i’r cwricwlwm a welwyd erioed yng Nghymru’, fel y'i disgrifiwyd gan Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Roedd disgwyl i gynigion yr Athro Donaldson fod yn radical a thorri tir newydd, ac ni chafodd y disgwyliadau hynny eu siomi.  Yn wir, daw i'r casgliad a ganlyn: 'Gyda’i gilydd, nid yw’r cwricwlwm cenedlaethol a’r trefniadau asesu presennol yn cwrdd bellach ag anghenion plant a phobl ifanc Cymru.  Mae’r ddadl o blaid newid sylfaenol yn un rymus.' Ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, dywedodd y Gweinidog wrth Aelodau'r Cynulliad: 'nad rhyw chwarae â hen gwricwlwm cenedlaethol 1988 yw hyn.  Mae’n nodi ein bod yn cael gwared ar gwricwlwm cenedlaethol 1988 ac yn ail-greu cwricwlwm hollol newydd o’r gwaelod i fyny gydag athroniaeth wahanol yn sail iddo.' Beirniadaeth Donaldson o'r sefyllfa bresennol Yn ôl adroddiad Donaldson, mae mwy o sail i'r angen am newid na'r diffygion sydd wedi dod i'r amlwg yn weddol ddiweddar, fel safle Cymru o ran canlyniadau PISA, ei pherfformiad cymharol mewn arholiadau TGAU, ac adolygiad heriol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a gyhoeddwyd ym mis Ebrill y llynedd.  Mae'n fater mwy sylfaenol a hirdymor na hynny.  I ddechrau, mae'r byd heddiw'n wahanol iawn i 1988, pan gyflwynwyd y cwricwlwm cenedlaethol, a hynny'n rhannol oherwydd cyflwyniad a dylanwad bondigrybwyll y rhyngrwyd.  Mae datganoli'n rhan o'r broblem hefyd, a'r dulliau gwahanol a geir o ran polisi addysg y naill ochr i Glawdd Offa a'r llall. Yn sgil hynny oll, daw Donaldson i'r casgliad bod y 'cwricwlwm wedi cael ei orlwytho a’i gymhlethu ac mae rhannau ohono wedi dyddio'.  Mae'n ychwanegu nad yw 'trefniadau asesu’n cyfrannu fel y dylent at wella dysgu' a bod hyn yn 'cyfyngu ar allu ysgolion ac athrawon i ymateb i anghenion sy’n newid yn gyflym'. Ym marn yr Athro Donaldson, mae gormod o ragnodi a manylu yn cyfyngu ar ba mor ystwyth ac ymatebol yw'r cwricwlwm.  Mae'n dweud: 'Ar ei waethaf, gall hyn arwain at gyfyngu ar genhadaeth ysgolion cynradd i addysgu llythrennedd a rhifedd a chenhadaeth ysgolion uwchradd i baratoi ar gyfer cymwysterau.' Nid yw'r diffygion a'r angen am newid yn unigryw i Gymru, ac yn y dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o'r adolygiad nodwyd rhai cryfderau gwirioneddol y gall Cymru adeiladu arnynt, fel y Cyfnod Sylfaen, y pwyslais ar lythrennedd a rhifedd, yr ymrwymiad i degwch a chynhwysiant, yr iaith Gymraeg a Bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd. Trosolwg o gynllun Donaldson Mae'r Athro Donaldson yn nodi rhaniad ffug rhwng y defnydd o ddulliau traddodiadol lle y caiff cynnwys ei rannu'n adrannau a'i addysgu felly a dulliau newydd sy'n anelu at ganlyniadau disgwyliedig; mae ‘pynciau’ yn cael eu gosod yn erbyn ‘sgiliau/cymwyseddau’, ac yn ôl Donaldson, nid yw'n fuddiol ystyried y rhain fel dau begwn ar wahân. Ym marn Donaldson, mae'r ddwy elfen yn berthnasol ac mae angen eu cyfuno mewn cwricwlwm modern.  Serch hynny, mae'n dweud bod tueddiadau rhyngwladol yn newid o ‘ddysgu am bethau’ at ‘ddysgu i wneud pethau’.  Mae hynny'n ategu'r hyn a ddywedodd Andreas Schleicher, prif lefarydd yr OECD ym maes addysg ac un o benseiri PISA, ym mis Mehefin 2014: ‘The knowledge economy no longer pays you for what you know... it pays you for what you can do with what you know.’ Mae cynigion Dyfodol Llwyddiannus yn cyflwyno nifer o gysyniadau ac egwyddorion cyffredinol ar gyfer y cwricwlwm yng Nghymru.  Mae rhai ohonynt yn newydd ac eraill yn adeiladu ar ddulliau sydd eisoes ar waith. Y man cychwyn i'r Athro Donaldson oedd datblygu gweledigaeth o'r hyn a fyddai'n diffinio person ifanc a chanddo addysg dda yng Nghymru, gan lunio 10 egwyddor ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm.
  • Ar ôl hynny, mae'n cynnig pedwar 'Diben y cwricwlwm', gan argymell y dylid eu cynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol gan eu bod yn ganolog i bopeth sy'n digwydd mewn ysgolion.
  • Yn lle cael amserlen o bynciau cul ac ynysig, mae'r Athro Donaldson yn cynnig chwe 'Maes Dysgu a Phrofiad', fel strwythur trefniadol cyson ar gyfer y cwricwlwm rhwng tair ac 16 oed.
  • Mae'r adolygiad yn cytuno â'r flaenoriaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i lythrennedd a rhifedd fel sgiliau craidd yn y cwricwlwm, ond mae'n ychwanegu un arall - cymhwysedd digidol.
  • Mae'r Athro Donaldson yn argymell y dylai cymhwysedd digidol fod yr un mor bwysig â llythrennedd a rhifedd.
  • Felly, byddai llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn dri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd y byddai'n rhaid eu cymhwyso gan bob athro ym mhob rhan o'r cwricwlwm.
Bydd ail erthygl y gyfres, a gyhoeddir yfory, yn edrych yn fanylach ar yr hyn y mae adolygiad Donaldson yn ei gynnig o ran trefn a chynnwys y cwricwlwm. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg