Adolygiad Donaldson: ‘Dibenion’ a chynnwys Cwricwlwm Cymru

17 Mawrth 2015

Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun: o Flickr gan LizMarie_AK. Dan drwydded Creative Commons.

Llun: o Flickr gan LizMarie_AK. Dan drwydded Creative Commons.

Dyma’r ail mewn cyfres o erthyglau yr wythnos hon yn edrych ar Adolygiad Donaldson.

(Gweler erthygl ddoe.)

Heddiw, rydym yn canolbwyntio ar ei argymhellion ar gyfer sut y dylai’r cwricwlwm gael ei drefnu a beth y dylai ei gynnwys.

Mae’r Athro Graham Donaldson yn argymell cyfuniad o’r dull sefydledig o gwricwlwm sy’n seiliedig ar bwnc, gyda dull mwy dynamig sy’n seiliedig ar sgiliau a chymwyseddau.

Canfu’r Adolygiad fod cefnogaeth sylweddol ymhlith athrawon ac ysgolion i symud tuag at drefnu dysgu’n ymwneud â sgiliau a / neu themâu. Dywedodd plant a phobl ifanc wrth yr Adolygiad yr hoffent gael mwy o gyfleoedd i ddysgu cymwyseddau cymdeithasol cyffredinol, gan gynnwys ‘sgiliau bywyd’. Roeddynt hefyd yn dweud fod y cwricwlwm presennol yn hen ffasiwn o’i gymharu â’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf, ac mae hyn yn bryder a glywodd yr Adolygiad gan gynrychiolwyr o fyd busnes.

Dibenion y cwricwlwm

Un o’r negeseuon cryfaf gan yr Athro Donaldson yw y dylid cael ‘datganiad syml, parhaol am ddibenion cwricwlwm i Gymru.’ Heb ‘ddibenion clir a chytûn’ fel hyn, y ddadl a awgrymir yw, os na wyddom pam rydym yn gwneud hyn, sut y gallwn wybod beth i’w wneud, a sut i’w wneud?

Mae Adolygiad Donaldson yn argymell pedwar diben i Gwricwlwm Cymru ac yn dweud y dylent, os cânt gefnogaeth gyffredinol, fod yn ‘sail i’r holl benderfyniadau yn y dyfodol am flaenoriaethau addysgol cenedlaethol a lleol ac yn sylfaen i’r holl addysgu a dysgu yng Nghymru.’

Y pedwar diben yw y bydd pob plentyn a pherson ifanc:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
  • yn gyfranwyr metrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd.
  • yn unigolion iach, hyderus syn barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Cynnwys y cwricwlwm: Meysydd Dysgu a Phrofiad

Mae’r adroddiad yn awgrymu fod hwn yn gyfle i ddylunio strwythur cwricwlwm sy’n bodloni’r pedwar diben, yn darparu ar gyfer ffocws integredig, traws-gwricwlaidd, ac yn cyfuno cymwyseddau trosfwaol â chynnwys traddodiadol sy’n seiliedig ar bwnc.

Mae’r Athro Donaldson yn argymell y caiff y cwricwlwm ei drefnu’n chwe ‘Maes Dysgu a Phrofiad yn hytrach na phynciau cul, ar wahân, fel ar hyn o bryd. Byddai hyn yn adeiladu ar gynsail y Cyfnod Sylfaen sy’n defnyddio Maes Dysgu tra’n ehangu’r cysyniad hefyd i gydnabod gwerth dysgu drwy brofiadau.

Llun: o Pixabay.  Dan drwydded Creative Commons.

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Y chwe Maes Dysgu a Phrofiad a argymhellir gan Adolygiad Donaldson yw:

  • Celfyddydau Mynegiannol
  • Iechyd a Lles
  • Dyniaethau
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Byddai’r Meysydd Dysgu a Phrofiad hyn yn gymwys rhwng 3 ac 16 oed ac yn darparu ar gyfer dilyniant dysgu y gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r Adolygiad ei gysyniadoli. Y gobaith hefyd yw y bydd hyn yn goresgyn rhai o’r problemau sy’n gysylltiedig â phontio rhwng cyfnodau allweddol, a oedd yn faes arall yr oedd Llywodraeth Cymru yn awyddus i’r Athro Donaldson ei ystyried.

Nid yw yr Athro Donaldson yn bwriadu i’r Meysydd Dysgu a Phrofiad fod yn ddyfeisiadau amserlennu, ond y dylent gael eu defnyddio i drefnu dysgu pob plentyn a pherson ifanc. Yr ysgol ei hun fyddai’n gwneud penderfyniadau a chynlluniau ‘creadigol’ ar gyfer sut y dylai’r rhain drosi’n weithgareddau o ddydd i ddydd. Nid oes amheuaeth ei bod yn llawer haws gweld hyn na’i ddarparu a bydd gweithredu hyn yn heriol ac yn hanfodol.

Mae tudalennau 43-51 o Dyfodol Llwyddiannus yn rhagweld sut y gallai pob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad arfaethedig gael eu strwythuro. Ar gyfer pob Maes, mae rhesymeg, amlinelliad o’i gwmpas a darlun o berthnasedd i’r pedwar diben cwricwlwm.

  • Yn y Celfyddydau Mynegiannol, y bwriad yw y bydd disgyblion yn datblygu eu gwerthfawrogiad a thalent greadigol, a’u sgiliau artistig a pherfformio. Byddant yn cael cyfleoedd i archwilio syniadau, a mireinio a chyfleu syniadau drwy ddefnyddio eu dychymyg a synhwyrau yn greadigol. Mae’r drafodaeth o’r maes hwn cymryd i ystyriaeth Adroddiad yr Athro Dai Smith ar y Celfyddydau mewn Addysg.
  • Nod y maes Iechyd a Lles yw helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu’r wybodaeth, y dealltwriaeth a’r sgiliau i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a phriodol, ymdrin â materion a phenderfyniadau anodd, a dysgu byw’n annibynnol. Bydd hyn yn canolbwyntio ar chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a oedd yn destun y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a arweiniwyd gan y Farwnes Tanny Grey-Thompson, yn ogystal â lles meddyliol ac emosiynol, a materion yn ymwneud â rhyw a pherthnasoedd.
  • Nod y maes Dyniaethau fydd ceisio rhoi dealltwriaeth i ddisgyblion o ffactorau hanesyddol, daearyddol, gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol, gan sicrhau cyfleoedd i gymryd rhan mewn trafodaethau gwybodus am foeseg, credoau, crefydd ac ysbrydolrwydd. Bydd yn defnyddio pynciau sydd eisoes yn bodoli, sef hanes, daearyddiaeth, busnes ac astudiaethau cymdeithasol, yn ogystal ag addysg grefyddol, sy’n rhywbeth y mae’r Athro Donaldson yn argymell ddylai barhau i fod yn ofyniad cwricwlwm statudol o flwyddyn Derbyn ymlaen.
  • Nod y maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yw darparu seiliau sylfaenol ar gyfer gwahanol fathau o gyfathrebu, llythrennedd a dysgu am iaith. Bydd hefyd yn sicrhau cyfleoedd i ddysgu ieithoedd gwahanol, yn ogystal â’r Gymraeg a Saesneg. Bydd cymhwysedd digidol yn rhan ganolog o’r maes hwn, yn unol â rhoi yr un statws iddo yn y cwricwlwm â llythrennedd a rhifedd.
  • Drwy’r maes Mathemateg a Rhifedd, bydd disgwyl i ddisgyblion ddatblygu dealltwriaeth dda, barhaol o gysyniadau mathemategol a chael yr hyder i gymhwyso sgiliau rhifyddol mewn bywyd bob dydd. Bydd yn cynnwys meithrin sgiliau ariannol a’u cymhwyso i sefyllfaoedd bywyd go iawn. Bydd y maes hwn yn canolbwyntio ar y ddisgyblaeth mathemateg, gan gynnwys elfennau traddodiadol rhifyddeg ac ystadegau ynghyd â rhesymeg, gan sicrhau cysylltiad cryf â’r sgiliau angenrheidiol mewn gwyddoniaeth a thechnoleg.
  • Caiff Gwyddoniaeth a Thechnoleg eu disgrifio yn y drefn honno fel caffael gwybodaeth drwy arsylwi ac arbrofi, a dilyn hynny drwy gymhwyso’r wybodaeth wyddonol hon mewn ffyrdd ymarferol. Caiff gwyddoniaeth gyfrifiadurol ei chynnig fel rhan benodol o fewn y maes hwn, gan fwrw ymlaen ag argymhelliad adroddiad y Grŵp Llywio TGCh i Lywodraeth Cymru y caiff ei gyflwyno i’r cwricwlwm.

Bydd erthygl yfory yn edrych ar yr hyn ddywed Adolygiad Donaldson ynghylch trefnu dilyniant drwy’r cwricwlwm a’r hyn y mae’n ei olygu ar gyfer y system sefydledig o gyfnodau allweddol yn seiliedig ar oedran.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg