Contractau dim oriau – beth sy'n digwydd yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 17/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

17 Mawrth 2015 Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_2577" align="alignleft" width="298"]Delwedd o David Millet.  Trwydded Creative Commons. Llun gan David Millett, Y Gwasanaeth Ymchwil[/caption] Mae contractau dim oriau wedi cael llawer iawn o sylw yn y cyfryngau a chan wleidyddion yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf.  Am y tro cyntaf, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi ystadegau sy'n dangos faint o bobl a gyflogir ar gontractau dim oriau yng Nghymru – rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr amcangyfrifir fod hyn yn 35,000, neu'n 2.5% o'r gweithlu.  Felly, beth rydym yn ei wybod am gontractau dim oriau yng Nghymru, a beth arall y gall y data ei ddweud wrthym?  Beth yw contract dim oriau, a pham eu bod mor ddadleuol? Mae contract dim oriau yn gontract lle nad yw person dan gontract i weithio nifer benodol o oriau, a chaiff ei dalu am nifer yr oriau mae'n eu gweithio mewn gwirionedd. Mae nifer y bobl sy'n nodi eu bod wedi'u cyflogi ar gontract dim oriau bron â bod wedi cynyddu bedair gwaith ledled y DU ers dirwasgiad 2008.  Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r cynnydd hwn wedi bod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a chred y Swyddfa Ystadegau Gwladol y gall hyn fod yn rhannol oherwydd bod mwy o bobl yn dod i wybod eu bod yn cael eu cyflogi ar gontractau dim oriau. Amcangyfrifon yw’r ffigurau, wedi’u seilio ar arolwg sampl. Maent yn dibynnu ar bobl i roi gwybod eu bod yn cael eu cyflogi ar gontract dim oriau, felly mae peth ansicrwydd ynghylch y ffigurau hyn. Mae sefydliadau cyflogwyr fel Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn fwy cefnogol o gontractau dim oriau, ac yn dadlau bod yr hyblygrwydd gwell a ddarperir yn cyfrannu at farchnad lafur hyblyg sydd o fudd i'r DU.  Mae'r Sefydliad hefyd yn nodi bod contractau dim oriau wedi arwain at gynnydd llai mewn diweithdra yn ystod y dirywiad economaidd na fyddai wedi digwydd fel arall. Fodd bynnag, nid yw undebau llafur yn cefnogi'r defnydd o gontractau dim oriau.  Mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) wedi nodi bod contractau dim oriau yn golygu nad oes gan bobl warant o waith o un diwrnod i'r llall, ac y gellir eu defnyddio i leihau telerau, amodau a chostau ni waeth beth yw'r effaith ar wasanaethau a'r gweithlu.  Mae Llywodraeth y DU hefyd yn cymryd camau i atal y defnydd o 'gymalau cyfyngol' mewn contractau dim oriau, yr amcangyfrifir ei fod yn tua 9% o bobl sy'n cael eu cyflogi ar gontractau dim oriau yn ôl y Sefydliad Siartredig ar gyfer Datblygiad Personol. Sut y mae ffigurau Cymru yn cymharu â gweddill y DU? Mae'r bobl a gyflogir ar gontractau dim oriau yng Nghymru yn cynrychioli 5% o gyfanswm y DU o 697,000.  Fodd bynnag, mae'r 2.5% o weithlu Cymru a gyflogir ar gontractau dim oriau y trydydd mwyaf o ranbarthau Lloegr a'r gwledydd datblygedig, ar ôl de-orllewin Lloegr a chanolbarth Lloegr.  Llundain sydd â'r ganran isaf o'i weithlu a gyflogir ar gontractau dim oriau. Beth mae'r ffigurau yn ei ddweud wrthym am bobl a gyflogir ar gontractau dim oriau? Ychydig iawn o safbwynt Cymru, gan mai dim ond ffigurau pennawd o dan lefel y DU a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.  Fodd bynnag, ledled y DU mae'r ffigurau rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2014 yn dangos bod contractau dim oriau yn cael effaith ar grwpiau o bobl mewn ffyrdd gwahanol:
  • Hoffai traean o'r bobl sy'n gweithio ar gontractau dim oriau weithio mwy o oriau, o gymharu ag 13% o bobl eraill mewn gwaith;
  • Caiff 40% o'r rheini a gyflogir ar gontractau dim oriau eu cyflogi yn y diwydiannau bwyd a llety neu iechyd a gofal cymdeithasol;
  • Mae traean o'r rheini a gyflogir ar gontractau dim oriau rhwng 16 a 24 oed; ac
  • Mae menywod yn fwy tebygol o gael eu cyflogi ar gontract dim oriau na dynion, ac maent yn 55% o'r rheini a gyflogir ar gontractau dim oriau.
Wnes i ddarllen rhywbeth am 1.8 miliwn o bobl yn cael eu cyflogi ar gontractau dim oriau ledled y DU? Yn ôl arolwg arall gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol o fusnesau, ym mis Awst, roedd tua 1.8 miliwn o gontractau cyflog ledled y DU nad oeddent yn gwarantu lleiafswm o oriau.  Mae hyn yn cyfrif contractau yn hytrach na nifer y bobl a gyflogir arnynt, oherwydd gall pobl fod wedi'u cyflogi ar fwy nag un contract heb oriau wedi'u gwarantu.  Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod hyn yn uwch na'r ffigur o 697,000 pobl yn cyflogi ar gontractau dim oriau a nodwyd uchod gan fod cyflogwyr yn fwy tebygol o wybod a yw eu staff wedi'u cyflogi ar gontract dim oriau. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn diffinio contractau heb oriau wedi'u gwarantu yn ehangach na dim ond ystyried contractau dim oriau.  Mae hyn yn cynnwys contractau achlysurol a mathau eraill o waith nad ydynt yn gwarantu oriau. Pa ddatblygiadau sydd wedi'u gwneud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y maes hwn? Mae dadlau gwleidyddol wedi bod yng nghyd-destun Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 ynghylch a ddylai Llywodraeth Cymru gymryd camau drwy ddeddfwriaeth mewn perthynas â'r defnydd o gontractau dim oriau yn y sector gofal cymdeithasol, neu a fyddai hyn yn ymwneud â chyfraith cyflogaeth sydd heb ei datganoli.  Yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys ym mis Gorffennaf 2014 ar Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod y dyfarniad yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn gliriach o ran yr hyn y gellid ei wneud gyda chontractau dim oriau. Ym mis Rhagfyr 2014, comisiynodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus waith ar raddau gontractau dim oriau yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.  Nod hyn yw cael gwell dealltwriaeth o'u defnydd a pha mor gyffredin ydynt, a sut y mae eu defnyddio yn cael effaith ar weithwyr, gwasanaethau a chyflogwyr. Yn San Steffan, mae'r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth wrthi'n mynd drwy'r Senedd.  Un o nodau'r Bil yw atal y defnydd o 'gymalau cyfyngol' mewn contractau dim oriau lle mae gweithwyr dan gontract i weithio i un cyflogwr yn unig heb unrhyw oriau wedi'u gwarantu. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg