Tybaco y tu ôl i ddrysau caeedig

Cyhoeddwyd 17/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

17 Mawrth 2015 Erthygl gan Victoria Paris, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_2566" align="alignleft" width="300"]Delwedd o Pixabay.  Trwydded Creative Commons. Delwedd o Pixabay. Trwydded Creative Commons.[/caption] Pan fyddwch chi allan yn siopa, ydych chi'n dal i weld cynnyrch tybaco yn cael ei arddangos?  Ydy e'n wir fod rhywbeth yn mynd yn angof os nad yw yn y golwg?  Ydych chi'n berchen ar siop fechan, ydych chi'n barod am y gwaharddiad ar arddangos cynnyrch tybaco - a allwch chi fforddio peidio â bod yn barod? Yn ôl gwaith ymchwil mae yna dystiolaeth glir fod arddangos cynnyrch ar gownter sy'n gwerthu tybaco yn cael effaith uniongyrchol ar ysmygu ymysg pobl ifanc. Gall y tebygolrwydd y bydd person ifanc yn cyfaddef bwriad i ysmygu gynyddu 35 y cant am bob brand y gallan nhw ei enwi ar ôl ei weld yn cael ei hysbysebu ar gownter tybaco.  Yn ogystal â hyn, mae mannau gwerthu yn symbylu ysmygwyr hirdymor i brynu tybaco ar hap, gan danseilio'u hymdrechion i roi'r gorau iddi. Mae Deddf Iechyd 2009 yn cynnwys mesurau sy'n gwahardd arddangos cynnyrch tybaco mewn mannau gwerthu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.  Daeth Rheoliadau i rym yng Nghymru ar 3 Rhagfyr 2012 oedd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i arddangos cynnyrch tybaco ar gownteri mewn siopau mawr, fel archfarchnadoedd (siop sydd ag arwynebedd llawr o fwy na 280 metr sgwâr yw siop fawr).  Mae mesurau tebyg wedi'u cyflwyno yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban. O 6 Ebrill 2015, mae'r gwaharddiad hwn yn mynd i ymestyn i holl siopau bach y DU, felly bydd yn anghyfreithlon i unrhyw fusnes sy'n gwerthu cynnyrch tybaco ei arddangos i'r cyhoedd.  Bydd cyfyngiad ar arddangos prisiau cynnyrch tybaco hefyd. Mewn rhai amgylchiadau, gall siopau arddangos cynnyrch tybaco dros dro:
  • Yn dilyn cais gan gwsmer dros 18 oed i brynu neu weld tybaco (rhaid i archwiliadau oed gael eu cynnal cyn dangos eu cynnyrch tybaco);
  • Arddangos yn achlysurol tra bod staff yn: ailstocio, asesu lefelau stoc, glanhau, cynnal a chadw neu adnewyddu'r uned storio neu'n ymgymryd â hyfforddiant staff;
  • Dan amgylchiadau a nodir gan werthwyr tybaco mawr neu werthwyr tybaco arbenigol;
  • Yn dilyn cais gan swyddog gorfodi.
Swyddogion safonau masnach yr awdurdodau lleol sy'n arwain y drefn orfodi a chyfrifoldeb y manwerthwr yw sicrhau bod y newidiadau cywir yn cael eu gwneud.  Bydd unrhyw fethiant i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth yn cael ei ystyried yn drosedd a bydd unrhyw berson a geir yn euog o drosedd o'r fath, gan gynnwys rheolwyr a gweithwyr siop, yn atebol.  Gall trosedd o'r fath arwain at gosb o hyd at ddwy flynedd o garchar a/neu ddirwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig, drwy Bapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd, y dylai fod yn ofynnol i bob manwerthwr cynnyrch tybaco gofrestru gyda chofrestr genedlaethol i fanwerthwyr tybaco.  Mae'r cynnig hwn wedi cael croeso cyffredinol, a'r gred yw y bydd y cynllun cofrestru yn cefnogi gorfodi'r gwerthiannau dan oed ac yn help i orfodi'r gwaharddiad arddangos, drwy ei gwneud yn haws i adnabod y lleoliadau hynny lle mae hawl gwerthu tybaco neu beidio. Ar 21 Ionawr 2015, cymeradwyodd Aelodau'r Cynulliad Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, a oedd wedi ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno pecynnu safonol yng Nghymru pe byddai Llywodraeth y DU yn mynd ati i gyflwyno rheoliadau o'r fath.  Ar 11 Mawrth 2015, cymeradwyodd Aelodau Seneddol reoliadau sy'n gorfodi cyflwyno pecynnu tybaco safonol.  Y canlyniad oedd buddugoliaeth i'r Llywodraeth o 367 o bleidleisiau i 113, mwyafrif o 254.   Os bydd Tŷ’r Arglwyddi yn cymeradwyo'r rheoliadau, bydd pob paced sigaréts o 2016 ymlaen yn edrych yr un fath, heblaw am y gwneuthuriad ac enw'r brand, gyda lluniau graffig i gyd-fynd â'r rhybuddion iechyd. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg