Adolygiad Donaldson: Diwedd Cyfnodau Allweddol a newid i‘r ffordd yr ydym yn strwythuro cynnydd disgyblion?

Cyhoeddwyd 18/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

18 Mawrth 2015 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae trydedd erthygl yr wythnos hon ar adroddiad yr Athro Graham Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus, yn ymchwilio i gynigion yr Adolygiad ar gyfer dilyniant disgyblion drwy gwricwlwm ysgolion.

(Gweler erthygl ddoe.)

Mae cael dull safonol o fesur dilyniant yn bwysig i ddisgyblion a'r Llywodraeth fel ei gilydd. Mae angen pwyntiau cyfeirio ar gyfer deilliannau unigol ar ysgolion, rhieni a disgyblion fel bod modd iddynt wybod lle maent arni yn eu haddysg, ac mae ar Lywodraeth Cymru angen i allu gwerthuso sut y mae'r system gyfan yn perfformio.

Continwwm dysgu

Mae'r Adolygiad yn argymell newid sylfaenol yn ein ffordd o feddwl am hynt plant a phobl ifanc ym myd ysgol. Mae'r Athro Donaldson wedi cyflwyno model newydd ar gyfer trefnu llinell amser y cwricwlwm, a hynny yn unol â chyfarwyddyd y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar gyfer continwwm dysgu. (Mae'n debyg y gwneir defnydd mawr o'r term hwn yn yr ychydig flynyddoedd nesaf a gellid dadlau mai hwn yw cysyniad mwyaf blaenllaw'r Adolygiad.)

Mae'r Athro Donaldson yn argymell rhoi terfyn ar y system bresennol o gyfnodau allweddol, fel y bydd gan ddisgyblion 'gontinwwm dysgu'. Mae'n dweud y bydd hyn yn 'creu mwy o botensial ar gyfer cyrhaeddiad uchel drwy leihau nifer y pwyntiau trosglwyddo a newidiadau mewn dibenion a dulliau gweithredu’ ym mywyd ysgol person ifanc.

Ar hyn o bryd, mae disgyblion yn astudio'r cwricwlwm mewn tri chyfnod allweddol (cyfnodau allweddol 2, 3 a 4) ar ôl y Cyfnod Sylfaen, a gyflwynwyd ers datganoli i gyfuno'r Blynyddoedd Cynnar a Chyfnod Allweddol 1, gan sefydlu trwy hynny ffordd newydd o ddysgu yn y blynyddoedd cynnar. Mae'r Adolygiad yn canfod bod rhannu'r cwricwlwm yn gyfnodau ar wahân yn gallu rhwystro cynnydd a chreu pwyntiau trosglwyddo di-fudd.

Mae'r Adolygiad yn argymell tremlin glir o ddechrau'r cwricwlwm hyd ei ddiwedd yn hytrach na'i weld yn gyfres o flociau neu gyfnodau.

Mapiau ffyrdd, Camau Cynnydd a Deilliannau Chyflawniad

Yn ôl yr Adolygiad, dylai dysgu gael ei weld yn debyg i 'daith, gyda mannau aros, gwyriadau a hyrddiau o gynnydd' ar hyd y ffordd. Yn lle 'lefelau' cyrhaeddiad, mae'r Athro Donaldson yn argymell 'Camau Cynnydd' ar gyfer mesur cynnydd. Byddai'r rhain yn cael eu defnyddio ar bum pwynt yn y 'continwwm dysgu' a byddent yn ymwneud â disgwyliadau ar gyfer dysgwyr 5, 8, 11, 14 ac 16 oed.

Mae'r Adolygiad yn rhagweld y byddai gan bob plentyn a pherson ifanc ei 'fap ffyrdd' unigryw ei hun. Sail y system bresennol o lefelau yw barn cyd-fynd orau o ran y cyrhaeddiad disgwyliedig, ond y weledigaeth yw y byddai pob Cam Cynnydd yn cael ei weld fel 'carreg filltir' yn hytrach na dyfarniad. Byddai Camau Cynnydd felly yn cael eu gweld fel pwyntiau cyfeirio yn hytrach na disgwyliadau cyffredinol.

[caption id="attachment_2599" align="alignnone" width="682"]Ffynhonnell: Yr Athro Graham Donaldson CB, Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu yng Nghymru, Chwefror 2015, t55 Ffynhonnell: Yr Athro Graham Donaldson CB, Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu yng Nghymru, Chwefror 2015, t55[/caption]

Bydd Deilliannau Cyflawniad ar gyfer pob un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn cael eu defnyddio i fesur cynnydd y disgybl. Bydd y Deilliannau Cyflawniad hyn yn cael eu disgrifio o safbwynt y dysgwr ei hun, gan ddefnyddio ymadroddion fel 'Rydw i wedi' ar gyfer profiadau ac 'Rydw i'n gallu' ar gyfer deilliannau.

Mae'r Adolygiad yn cydnabod y byddai angen i'r continwwm dysgu fod yn hyblyg a darparu ar gyfer gwahanol gyflymderau’r plant a phobl ifanc o ran gwneud cynnydd. Bydd rhai disgyblion yn cyrraedd camau cynnydd yn gyflymach na'i gilydd a byddai Cam Cynnydd 5 (fel arfer ar gyfer dysgwyr 16 oed) ar gael yn gynt i'r rhai sy'n cyrraedd Cam Cynnydd 4 yn 14 oed yn ddidrafferth. Mae'r Athro Donaldson hefyd yn argymell y dylai fod dyletswydd ar ysgolion i ddarparu cwricwlwm sy'n galluogi'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc i gyrraedd neu ragori ar bob Cam Cynnydd yn y cyfnod hwn o dair blynedd yn gyffredinol.

Dywed Dyfodol Llwyddiannus:

'Bydd yn bwysig bod y Deilliannau Cyflawniad ym mhob Cam Cynnydd yn ymgorffori’r agweddau pwysicaf ar ddysgu, yn ystyried y ffyrdd y mae plant yn gwneud cynnydd mewn gwahanol fathau o ddysgu, ac yn cydnabod yr hyn y bydd angen iddynt ei wybod a’i wneud er mwyn symud ymlaen yn ddiogel at y cam nesaf'.

Mae tudalen 57 yn yr adroddiad yn rhoi blas ar sut y gellid defnyddio Deilliannau Cyflawniad ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad.

Y Gymraeg

Ar hyn, mae hefyd yn werth edrych ar sylwadau Adolygiad Donaldson am le'r Gymraeg yn y cwricwlwm (tudalennau 58-60 yn yr adroddiad). Nid yw'n syndod bod yr Athro Donaldson yn argymell y dylai'r Gymraeg gael ei chadw'n rhan orfodol hyd at 16 oed, ond mae'n pwysleisio bod angen iddi fod yn fwy o iaith 'ryngweithredol'. Mae'n gwneud cyfanswm o 10 argymhelliad am y Gymraeg yn y cwricwlwm.

Mae'r Athro Donaldson yn dweud bod angen annog pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu sgyrsiau bob dydd yn hytrach nag mewn amgylchedd dysgu yn unig. Mae hyn yn adleisio'r hyn a ddywedodd yr Athro Sioned Davies yn ei Hadolygiad o Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4, sef bod 'dyfodol y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg yn llwyr ddibynnol ar drosglwyddo’r iaith i’n pobl ifainc'.

Mae Adolygiad Donaldson yn adrodd bod materion ynghylch ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer Cymraeg ail iaith lle mae cyrhaeddiad yn is nag ym mhob pwnc arall.

Yfory, bydd y bedwaredd erthygl yn y gyfres hon yn edrych ar y newidiadau y mae Adolygiad Donaldson yn eu cynnig ar gyfer asesu.

View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg