Adolygiad o dirweddau dynodedig: Argymhellion yn dilyn Cam 1

Cyhoeddwyd 18/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

18 Mawrth 2015 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="" align="aligncenter" width="682"]Llun o Flickr gan Stuart Madden. Trwydded Creative Commons. Llun o Flickr gan Stuart Madden. Trwydded Creative Commons.[/caption] Mae tua 25 y cant o dir Gymru yn Dirweddau Dynodedig, sy’n cynnwys tri Pharc Cenedlaethol a phum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Mae arolygon wedi dangos bod Tirweddau Dynodedig Cymru yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr, a’u bod yn croesawu oddeutu 18 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, sy'n cyfrannu dros £1.5 biliwn o wariant bob blwyddyn. Yng ngoleuni gwerth y tirweddau hyn, cyhoeddodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol adolygiad annibynnol o ddibenion a dulliau llywodraethu'r Tirweddau Dynodedig yng Nghymru yn ystod yr hydref y llynedd. Mae'r blog hwn, sy'n dilyn blog byr blaenorol -  Adolygiad o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru: Parciau Cenedlaethol ac AHNE,yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gam cyntaf yr adolygiad hwn. Diben yr ymchwiliad oedd sicrhau bod ein tirweddau dynodedig:

"yn gallu gwrthsefyll yr heriau sy’n eu hwynebu heddiw a’r hyn a ddaw yn y dyfodol, a datblygu hefyd ar eu statws rhyngwladol"

I roi'r adolygiad yn ei gyd-destun, nodwyd dibenion statudol presennol y Tirweddau Dynodedig fel a ganlyn: Dibenion Parciau Cenedlaethol

"gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol eu hardaloedd;

"hyrwyddo cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig eu hardaloedd."

Diben yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

"gwarchod a gwella harddwch naturiol yr ardal."

Cwblhawyd cam cyntaf yr adolygiad yn ddiweddar gan y panel adolygu, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Terry Marsden o Brifysgol Caerdydd, a’r aelodau oedd John Lloyd Jones a Dr Ruth Williams. Hyd yma mae'r panel wedi ystyried:
  • Dibenion statudol Tirweddau Dynodedig, ac a ydynt yn parhau i fod yn gallu mynd i'r afael â heriau a chyfleoedd cyfoes;
  • A ddylai'r ddau ddynodiad tirwedd statudol presennol gael eu dosbarthu o dan un math o ddynodiad.
Yn ystod yr hydref 2014, gwahoddwyd rhanddeiliaid a’r cyhoedd i ysgrifennu at y panel adolygu i nodi eu safbwyntiau, a thystiolaeth i gefnogi’u safbwyntiau. Cynhaliwyd sesiynau casglu tystiolaeth a oedd yn canolbwyntio ar randdeiliaid, ac wyth o weithdai (un ar gyfer pob Tirwedd Dynodedig).  Yn olaf, cynhaliwyd cyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru a Peter Davies, y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy.  Mae Adroddiad cam cyntaf y panel ar gael yma. Gwnaed cyhoeddiad ar ganlyniad cam un yr adolygiad yn gynharach y mis hwn, ac roedd yn cynnwys chwe argymhelliad allweddol:
  1. Na ddylid cael un dynodiad;
  2. Dylid cael “UN set o Ddibenion statudol ac un Ddyletswydd statudol gysylltiedig ar gyfer y ddau ddynodiad”;
  3. Dylid newid enw "Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol" (AHNE) i "Tirweddau Cenedlaethol Cymru";
  4. Dylid sefydlu cyfundrefn enwi gyson a chadarn yn ogystal â strwythur, er enghraifft "Tirweddau Dynodedig Cenedlaethol Cymru"
  5. "Dylid cael TRI diben statudol cysylltiedig ar gyfer y Parciau Cenedlaethol a’r Tirweddau Cenedlaethol. Y tri diben yw:
    • "Gwarchod a gwella'r tirwedd unigryw a rhinweddau morweddol yr ardal," (Y Diben o ran Cadwraeth)
    • "Hybu lles corfforol a meddyliol drwy fwynhau a deall tirwedd yr ardal," (Y Diben Dynol Lles)
    • "Hybu ffurfiau cynaliadwy o reoli adnoddau naturiol a datblygiad economaidd a chymunedol sy'n cefnogi treftadaeth ddiwylliannol yr ardal." (Y Diben Rheoli Adnoddau Cynaliadwy)
  6. Dylid cael un Ddyletswydd Statudol newydd sy'n dileu’r rhagddodiadau gwan "rhoi sylw i" yn nyletswyddau cyfredol cyrff cyhoeddus perthnasol, a chyflwyno un ddyletswydd gir yn eu lle, er mwyn:
“Cyfrannu at gyflawni tri Diben y Tirweddau Dynodedig Cenedlaethol."
Mae'r adroddiad yn datgan bod y pecyn o argymhellion 'yn darparu sylfaen gynaliadwy ar gyfer tirweddau dynodedig mwy creadigol a chydnerth gyda’r gallu i addasu sy’n annog mwy o gysondeb, eglurder ac amrywiaeth.' Bydd canlyniad cam cyntaf yr adolygiad bellach yn darparu'r sail ar gyfer symud ymlaen i gam dau, a disgwylir i’r cam hwn ddechrau y mis hwn. Mae Cam dau yn cynnwys:
  • Adolygu trefniadau llywodraethu a rheoli Tirweddau Dynodedig.
  • Adolygu ac ystyried sut y byddai corff / cyrff llywodraethu yn hyrwyddo dulliau cydweithio a chydweithredu orau, gan osgoi dyblygu gwaith; ac
  • Adolygu ac ystyried y ffordd orau i unrhyw gorff llywodraethu yn y dyfodol wneud penderfyniadau’n fwy lleol a gwneud popeth yn fwy atebol i bobl leol.
Yn y cyfamser, mae'r Gweinidog wedi gosod gwelliant i'r Bil Cynllunio (Cymru), i gyflwyno rheoliadau a fyddai'n galluogi trosglwyddo swyddogaethau cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol i Fwrdd Cynllunio ar y Cyd. Byddai Bwrdd Cynllunio ar y Cyd yn fath newydd o Awdurdod Cynllunio Lleol a allai gyflawni holl swyddogaethau rheoli datblygu Awdurdodau Cynllunio Lleol sy'n bod ar hyn o bryd. Yn ei hanfod, byddai'n gyfystyr ag uno awdurdod presennol a'r cyfan neu ran o o leiaf un awdurdod arall. Roedd y Bil Cynllunio, a gyflwynwyd ym mis Hydref 2014, yn eithrio'r Parciau Cenedlaethol yn benodol o'r ddarpariaeth hon. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg