Newidiadau i ofal mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd

Cyhoeddwyd 18/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

18 Mawrth 2015 Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Heddiw (18 Mawrth) bydd y Cynulliad yn trafod newidiadau dros dro i wasanaethau mamolaeth yng ngogledd Cymru. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd) yn atal dros dro y gofal mamolaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan am o leiaf 12 mis, wrth iddo fynd i’r afael â phroblemau staffio. Ar 10 Chwefror, cytunodd y Bwrdd Iechyd ar adroddiad a oedd yn argymell y dylid canoli gofal mamolaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol yng ngogledd Cymru, dros dro, mewn dwy ganolfan 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, sef Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac Ysbyty Maelor, Wrecsam, gyda dim ond uned dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Glan Clwyd. Bydd y trefniadau newydd yn dod i rym o 6 Ebrill ymlaen. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cymryd y camau hyn oherwydd pryderon am lefelau staffio meddygol a’r effaith bosibl ar ddiogelwch cleifion a safonau clinigol. Mae’n dweud bod diffyg meddygon wedi’u hyfforddi’n briodol ac sy’n gymwys ar gael, sy’n gwneud pethau’n anodd o ran recriwtio niferoedd digonol i ddarparu gwasanaeth diogel. O ganlyniad, mae dibyniaeth uchel ar staff asiantaethau a staff locwm. Ar 13 Chwefror, ysgrifennodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Bwrdd Iechyd yn ceisio sicrwydd am ei benderfyniad, ac yn gofyn am asesiad annibynnol o’r sefyllfa. Atebodd y Bwrdd Iechyd ar 18 Chwefror gan ddweud y byddai’r trefniadau ar waith am uchafswm o 18 mis. Dywedodd y Bwrdd Iechyd hefyd nad yw’r penderfyniad yn effeithio ar gynlluniau ar gyfer y Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i’r Newydd-anedig newydd, sydd ar y gweill ar gyfer Glan Clwyd o 2017/18 ymlaen. Yn flaenorol, ar 13 Mai 2014, cyhoeddodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog, y byddai’r Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i’r Newydd-anedig newydd ar gyfer gogledd Cymru yn cael ei lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd. Gwnaed y cyhoeddiad yn dilyn argymhellion a gafwyd gan banel annibynnol, a sefydlwyd i ymchwilio i’r mater. Yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Cymru, a Dr Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru a gynhaliodd yr asesiad annibynnol o benderfyniad y Bwrdd Iechyd. Daethant i’r casgliad na allent nodi unrhyw ddewis arall i’r cynnig presennol sydd yn lleihau dros dro nifer y safleoedd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad obstetreg o dri i ddau. Ysgrifenasant at y Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 6 Mawrth yn amlinellu eu casgliadau. Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ragor o wybodaeth am y penderfyniad ar ei wefan: Gwybodaeth gefndir Cwestiynau Cyffredin Diweddariad y Prif Weithredwr