Y Bil Trais yn erbyn Menywod: sut y mae’r darpariaethau addysg wedi datblygu

Cyhoeddwyd 18/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

18 Marwth 2015

Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cafodd y Bil Trais yn erbyn Menywod ei basio gan y Cynulliad yr wythnos diwethaf. Ar wahân i gosb gorfforol, roedd y brif ddadl yn ymwneud â darpariaethau addysg y Bil.VAWwelsh Y Papur Gwyn Yn ôl yr ymgynghoriad ynghylch y Papur Gwyn gwreiddiol, a gyhoeddwyd yn 2012, un o dair blaenoriaeth y ddeddfwriaeth oedd darparu “gwell addysg ac ymwybyddiaeth [o drais ar sail rhywedd] o’r ‘crud i’r bedd’, gan gynnwys y cyhoedd, staff rheng flaen a gweithwyr proffesiynol”. Roedd y Papur Gwyn yn cynnig y byddai’r Bil yn:
  • Sicrhau bod addysg ar ‘gydberthnasau iach’ yn cael ei chyflwyno ym mhob ysgol, ac yn
  • Gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i nodi hyrwyddwr rhanbarthol i Roi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a hyrwyddo’r mater hwn mewn lleoliadau addysgol
Roedd y cynigion hyn yn torri tir newydd yn ôl Llywodraeth Cymru ac fe’u croesawyd gan randdeiliaid. Proses graffu cyfnod 1 Pan gyflwynwyd y Bil drafft gerbron y Cynulliad yn 2014, roedd y cynigion addysgol wedi’u gollwng. Yn y Memorandwm Esboniadol honnwyd bod addysg ar gydberthnasau iach yn cael ei hystyried fel rhan o’r gwaith o adolygu’r cwricwlwm, dan arweiniad yr Athro Graham Donaldson, a fyddai’n cynnwys adolygiad o’r cwricwlwm sylfaenol gan gynnwys Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh). Roedd y Memorandwm yn nodi bod yr adolygiad yn “ gyfle pwysig i ystyried lle ABCh, gan gynnwys cydberthnasau iach , yng nghwricwlwm newydd Cymru yn ei gyfanrwydd.” Mewn nifer sylweddol o ymatebion i ymgynghoriad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, amlygwyd addysg fel agwedd bwysig a oedd wedi’i hepgor o’r Bil. Fel ymateb, un o argymhellion y Pwyllgor yn ei adroddiad cyfnod 1, oedd y dylid newid y Bil er mwyn cynnwys rhaglenni addysg gorfodol, ysgol gyfan, ar gydberthnasau iach, wedi’u haddasu’n ôl oedran y disgyblion. Roedd y Pwyllgor o’r farn:
  • mai addysg yw’r rhan fwyaf hanfodol oatal trais ar sail rhywedd a heb gynigion y Papur Gwyn, ni all y Bil gyflawni ei nodau;
  • nad yw’r gwaith o adolygu’r cwricwlwm yn ddigon i sicrhau newid - nid yw’r argymhellion yn orfodol ac ni all yr adolygiad ystyried materion ehangach fel hyrwyddwyr ysgol ac arolygiadau Estyn;
  • nid yw’r ddarpariaeth bresennol yn orfodol, mae’n ddarniog ac yn anghyson; nid yw sesiynau untro i ddisgyblion uwchradd ar addysg cydberthnasau iach yn ddigon ac mae angen i’r mater gael ei ymgorffori y cwricwlwm o’r blynyddoedd cynnar.
Gwelliannau cyfnod 2 Yng nghyfnod 2, cyflwynodd y Gweinidog welliant i’r Bil, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyflwyno adroddiad ar y modd y maent yn mynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu sefydliadau addysgol, gan gynnwys drwy addysg rhyw. Dywedodd ymgyrchwyr eu bod yn “eithriadol o siomedig bod cyn lleied o gynnydd wedi’i wneud o fewn y Bil erbyn diwedd cyfnod 2”. Gwelliannau cyfnod 3 a chyhoeddiadau Yng nghyfnod 3, cyflwynodd y Gweinidog welliannau i:
  • roi pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol i sicrhau bod awdurdodau lleol yn dynodi aelod o staff i hyrwyddo materion yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ysgolion a lleoliadau eraill;
  • rhoi pŵer i Weinidogion Cymru a CCAUC gyhoeddi canllawiau i gyrff llywodraethu sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach i’w gwneud yn ofynnol i’r sefydliadau hynny ystyried y canllawiau hynny.
Hefyd, cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ar 26 Chwefror 2015 am y darpariaethau addysg yn y Bil. Dywedodd:

Bydd mwy o wybodaeth am hyn ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi nodi ei fwriad i gynnal Sgwrs Fawr ar argymhellion yr adroddiad [Donaldson] Yn dibynnu ar ganlyniad y sgwrs, bydd gan y prif randdeiliaid rôl bwysig yn helpu i ddatblygu’r Meysydd Dysgu a Phrofiad, gan gynnwys Iechyd a Lles – a fydd yn bwysig iawn wrth gyflawni diben y Bil. Rwyf i a’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cytuno i ymchwilio gyda’r sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol o ran sut gallant gyfrannu at ddatblygu’r gwaith hwn..

[…]

Rwyf wedi nodi eisoes fy mwriad i gyhoeddi canllaw arfer da ar berthnasoedd iach ar gyfer disgyblion ysgol o bob oed, a hynny cyn blwyddyn academaidd 2015-16.

[…]

Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol diwygiedig, Cadw dysgwyr yn ddiogel, i helpu pob gwasanaeth addysg i gyflawni eu cyfrifoldebau i ddiogelu plant a hyrwyddo’u lles.. Mae pennod 4 y canllawiau yn amlinellu’r prif faterion sy’n gysylltiedig â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol er mwyn helpu staff cymorth mewn ysgolion i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol i ddiogelu plant a allai fod yn wynebu’r problemau hyn, a hyrwyddo’u lles.”

Mae’r datganiad hefyd yn tynnu sylw at yr elfennau hynny yng nghanllawiau statudol y Bil sy’n ymwneud â hyfforddiant proffesiynol a gaiff ei gynnig ym mhob ysgol. Nododd y Gweinidog hefyd “y bwriedir cynnal adolygiad thematig ‘o arolygiadau Estyn] yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod blwyddyn academaidd 2016-2017”. Cyfnod 4 a’r tu hwnt Yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Mawrth 2015, pasiwyd y Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol (Cymru) yn unfrydol gan y Cynulliad. Mae’r Bil yn awr yn y cyfnod o hysbysiad am bedair wythnos tan 7 Ebrill 2015. Mewn llythyr at Jocelyn Davies AC, dyddiedig 9 Mawrth, yn dilyn trafodaethau ar y Bil, tynnodd y Gweiniodg sylw at y camau a oedd i’w cymryd yn syth ar ôl pasio’r Bil, gan gynnwys cynnal cynhadledd Trais yn erbyn Menywod, gwaith gyda Llywodraethwyr Cymru a gwaith adrodd ar hyfforddiant gydag ysgolion. Croesawyd y Bil gan ymgychwyr ond rhaid aros i weld a fydd y ddarpariaeth ar gyfer canllawiau statudol ar addysg ar gydberthnasau iach yr un mor effeithiol ag addysg orfodol ym mhob ysgol, fel y cynigiwyd yn wreiddiol. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg