Adolygiad Donaldson: Asesu beth sy'n bwysig

Cyhoeddwyd 19/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

19 Mawrth 2015 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_2627" align="alignright" width="300"]Llun: o Flickr gan theilr.  Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Flickr gan theilr. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Dyma'r bedwaredd erthygl yr wythnos hon ar Adolygiad Donaldson ac mae'n canolbwyntio ar hyn sydd ganddo i ddweud am asesu.

(Gweler erthygl ddoe.)

Hyd yma, rydym wedi canolbwyntio ar beth y gallai adroddiad yr Athro Graham Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus, ei olygu o ran beth a sut y mae plant a phobl ifanc yn cael eu haddysgu. Yma, trown ein sylw at ei farn ar sut y dylai'r system asesu pa mor dda y maent yn dysgu.

Fel gyda'r cwricwlwm, mae'r Athro Donaldson yn glir bod angen newid, gan ddod i'r casgliad bod 'angen creu cyfres newydd o drefniadau asesu sy’n gyson ac yn ystyrlon' yng Nghymru. Mae'n dweud mai 'anfodlonrwydd ar y trefniadau asesu presennol oedd un o’r negeseuon cryfaf a gawsom' yn ystod yr adolygiad.

Mae adolygiad Donaldson yn gwneud 19 argymhelliad ynghylch asesu, sy'n ymwneud â naw maes lle y mae'n nodi bod angen newid. I ryw raddau, nid yw hynny'n syndod. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cydnabod bod trefniadau asesu yn ddryslyd ac nad ydynt bellach yn addas at y diben ac mae'r Athro Donaldson yn amlygu bod Estyn wedi adrodd yn 2012/13 mai'r argymhelliad mwyaf cyffredin yn ei adroddiadau arolygu oedd yr angen i wella asesiadau athrawon. Flwyddyn yn ddiweddarach, yn ei hadroddiad ar gyfer 2013/14, a gyhoeddwyd dau fis yn ôl, ailddatganodd Prif Arolygydd Estyn:

'Mae llawer o adroddiadau arolygu yn dal i ddweud nad yw asesiadau athrawon mewn ysgolion bob amser yn ddigon cadarn neu ddibynadwy.'

Beth sydd angen newid yn ôl adolygiad Donaldson?

Dywed yr Athro Donaldson bod y dystiolaeth a gasglodd yr adolygiad yn awgrymu bod angen newid er mwyn 'gwella’r asesu', 'i ddelio â’r gwendidau presennol' a 'sicrhau bod y trefniadau asesu’n ategu’r dibenion addysg'. Mae'r Athro Donaldson yn argymell y naw newid a ganlyn. (Mae'r testun mewn italig yn aralleiriad o'r manylion yn yr adroddiad.)

  • Alinio’r asesu â’r dibenion dysgu: asesu beth sy’n bwysig. (Rhoi mynegiant i bedwar diben y cwricwlwm, gan gryfhau'r berthynas rhwng y cwricwlwm ac asesu.)
  • Bod yn glir am y rhesymau dros asesu a chynllunio ymlaen llaw ar gyfer y defnydd a wneir o ganlyniadau asesiadau. (Defnyddio Canlyniadau Cyflawniad ar gyfer pob Cam Dilyniant fel pwyntiau cyfeirio. Prif ddiben asesu ddylai fod llywio penderfyniadau ar sut i helpu cynnydd disgyblion.)
  • Hyrwyddo’r defnydd o amrywiaeth fawr o dechnegau sy’n addas i’w diben. (Mae lle i ddiwygio'r profion cenedlaethol blynyddol presennol ar gyfer Darllen a Rhifedd i leihau eu heffeithiau aflonyddgar, negyddol wrth gadw eu swyddogaethau defnyddiol.)
  • Cynnwys myfyrwyr yn y broses asesu drwy asesu eu hunain ac asesu cyfoedion. (Os yw pobl ifanc yn mynd i ddatblygu'r gallu i ddysgu gydol oes, mae angen iddynt ddeall eu cynnydd eu hunain a'u hanghenion dysgu pellach. Ffurflen arfaethedig neu Ganlyniadau Cyflawniad wedi'u hysgrifennu fel: 'Fe allaf…' ac 'Mae gennyf...' a gellir ymestyn hefyd i 'Nawr, mae angen imi...')
  • Sicrhau bod cofnodion cyrhaeddiad ac adroddiadau yn canolbwyntio ar gynnydd yn erbyn nodau dysgu pwysig, gan gynnwys pedwar diben eang y cwricwlwm. (I gynnwys adroddiad cryno ar adegau pontio allweddol, gyda chymorth o dystiolaeth portffolio'r disgyblion eu hunain a thrafodaethau wyneb i wyneb rhwng athrawon a gyda'r disgyblion.)
  • Bod mor ysgafn eu cyffyrddiad â phosibl ac osgoi biwrocratiaeth ddiangen. (Mae angen taro'r cydbwysedd iawn rhwng asesiadau anffurfiol a pharhaus, sy'n cymryd llai o amser ychwanegol, a gweithgareddau mwy ffurfiol fel marcio, adborth a chofnodi, sy'n cymryd llawer o amser.)
  • Gwneud defnydd systematig o dystiolaeth asesu ynghyd â thystiolaeth arall ar gyfer hunanwerthuso gan yr ysgol. (Ynghyd â ffynonellau eraill fel arsylwi yn yr ystafell ddosbarth a data perfformiad, gellir defnyddio Camau Cynnydd a Chanlyniadau Cyflawniad i werthuso cryfderau a gwendidau ysgolion.)
  • Delio â’r goblygiadau o ran capasiti athrawon mewn arferion asesu da. (Nid yw asesu'n cael ei gynnwys mewn datblygiad proffesiynol athrawon yn aml, ond fe ddylai. Mae adolygiad yr Athro Furlong o Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yn darparu cyfleoedd ar gyfer hyn.)
  • Ffurfio fframwaith asesu a gwerthuso cydlynol a chytûn wedi’i seilio ar weledigaeth a strategaeth glir. (Mae hyn yn brif argymhelliad gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ac mae diffyg fframwaith cenedlaethol o'r fath yng Nghymru yn cyfrannu at y dryswch ynghylch y dull asesu cyfredol.)

Mae'r naw maes hyn sydd angen newid yn cael eu hadlewyrchu yn 19 argymhelliad yr Athro Donaldson ar asesiadau.

Goblygiadau ar gyfer atebolrwydd ysgolion

Mae'r Athro Donaldson yn trafod goblygiadau posibl ei argymhellion ar gyfer trefniadau atebolrwydd sydd ar waith mewn ysgolion. Mae ei adroddiad yn dyfynnu un o ganfyddiadau adolygiad yr OECD, sef bod Cymru wedi cael trafferth dod o hyd i'r cydbwysedd cywir rhwng atebolrwydd a gwella yn ei drefniadau asesu a gwerthuso.

Adroddodd yr OECD, cyn y diwygiadau diweddar fel y system fandio a gosod safonau ysgolion (ac yn awr, categoreiddio posibl), bod y cydbwysedd yn arfer canolbwyntio ar ddefnyddio asesiadau yn bennaf i lywio datblygiad a chynnydd dysgwyr unigol. Fodd bynnag, mae'r OECD wedi nodi bod hyn bellach wedi symud fwy tuag at fwy o atebolrwydd gan ysgolion, a allai amharu ar sut a beth y mae myfyrwyr yn dysgu.

Pwysleisiodd yr OECD y dylai asesiadau ategu'r dysgu ar gyfer pawb ac y dylid cyfeirio gweithgareddau i ddwyn ysgolion i gyfrif tuag at wella ysgolion, yn hytrach nag enwi a chodi cywilydd. Mae adolygiad Donaldson yn gryf o blaid casgliadau'r OECD.

Mae'r Athro Donaldson yn dweud bod y system Categoreiddio Ysgolion Cenedlaethol newydd yn ddefnyddiol o bosibl, ond mae'n argymell y dylid ei addasu, maes o law, i adlewyrchu ei argymhellion. Mae hefyd yn argymell na ddylid adrodd ar asesiadau athrawon i Lywodraeth Cymru mwyach. Mae hyn oherwydd mae'n dadlau lle mae asesiadau athrawon yn cael eu defnyddio'n benodol at ddibenion atebolrwydd ysgolion, 'gall amheuon godi ynghylch y graddau y mae’r asesiadau gan athrawon yn ddibynadwy a gellir cael effeithiau gwrthnysig difrifol hefyd ar y cwricwlwm.'

Mae'r Athro Donaldson yn amlygu y byddai gan hynny oblygiadau ynghylch natur y wybodaeth sydd ar gael i rieni a gofalwyr ynghylch ysgolion unigol, er enghraifft beth sydd ar gael ar wefan Fy Ysgol Leol. Mae'n argymell, er na ddylai Llywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth am berfformiad disgyblion fesul ysgol mwyach, fe ddylai fod yn monitro perfformiad mewn agweddau allweddol ar y cwricwlwm drwy brofion blynyddol ar sail samplu. Mae hynny fel y gall barhau i fonitro perfformiad y system gyfan a sicrhau bod y polisïau cywir ar waith.

Bydd cyfres yr wythnos hon ar Adolygiad Donaldson yn dod i ben yfory gydag erthygl olaf ar beth fydd yn digwydd nesaf a'r rhagolygon ar gyfer gweithredu View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg