Adolygiad Donaldson: Y camau nesaf a'r 'Sgwrs Fawr'

Cyhoeddwyd 20/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

20 Mawrth 2015 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_2648" align="alignright" width="300"]picture of a boy in classroom Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Dyma'r pumed erthygl, a'r olaf yng nghyfres o erthyglau blog yr wythnos ar Adolygiad Donaldson. Mae'n ystyried yr ymateb cychwynnol i'r diwygiad radical arfaethedig i'r cwricwlwm yng Nghymru ac yn nodi beth y gallwn ei ddisgwyl o'r camau nesaf.

(Gweler erthygl ddoe.)

Cyhoeddodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ddatganiad ysgrifenedig ar 25 Chwefror pan gafodd yr adroddiad Dyfodol Llwyddiannus (pdf1.53MB) ei gyhoeddi. Amlinellodd ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru i Aelodau'r Cynulliad yn y Senedd ar 4 Mawrth.

Roedd y Gweinidog yn cytuno â'r Athro Donaldson bod yr 'angen am newid yn gwbl glir' a dywedodd fod ei adolygiad 'am greu cyfle i ni lunio cwricwlwm o'r radd flaenaf ar gyfer ein pobl ifanc'.

Ychwanegodd y Gweinidog ei fod yn benderfynol o 'ymgysylltu, o’r cychwyn cyntaf, â chymaint o bobl o bob rhan o Gymru ag sy’n bosibl', ac yn dilyn hynny mae wedi lansio 'Y Sgwrs Fawr'.

Mae cyfnod cyntaf y Sgwrs Fawr yn para tan 8 Mai a bydd yn gweithredu fel ymgynghoriad ar yr hyn y mae'r Adolygiad wedi'i argymell. Fodd bynnag, mae Huw Lewis wedi dweud ei fod yn fwy na hynny. Mae'n gobeithio ei fod yn 'arddangosiad o arweinyddiaeth' sydd ei angen o'r sector addysg i sicrhau'r math hwn o ddiwygiad. Dywedodd wrth Aelodau'r Cynulliad ar 4 Mawrth:

'Mae hefyd yn ymwneud ag amsugno hanfodion y neges hon, yn bennaf gan y gweithwyr proffesiynol eu hunain gan ... na ellir cyflawni hyn heb ymrwymiad a heb i’r proffesiwn roi ei drwyn ar y maen. O ystyried yr athroniaeth sy’n sail i Donaldson, ni all unrhyw wleidydd ddarparu cwricwlwm newydd wedi’i glymu â rhuban a’i gyflwyno i bob dosbarth. Mae’n mynd i olygu blynyddoedd o fewnbwn proffesiynol ar lefel na fu disgwyl i lawer o’n gweithlu addysgu weithio arni erioed o’r blaen'.

Pwysigrwydd addysgeg (addysgu)

Fel y mae Adolygiad Donaldson yn ei gydnabod, bydd rhoi unrhyw gwricwlwm newydd ar waith yn llwyddiannus yn dibynnu, yn y pen draw, ar beth sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth. Ymddengys nad yw'r honiad gan Syr Michael Barber a Mona Mourshed (pdf4.41MB), sef 'the quality of an education system cannot exceed the quality of its teachers' yn ddieithr i lunwyr polisi yng Nghymru.

Cyfeiriodd yr Athro Donaldson ei hun sawl tro at bwysigrwydd adroddiad yr Athro John Furlong, Addysgu Athrawon Yfory, sydd bellach wedi'i gyhoeddi. Nododd Adolygiad Donaldson y gyd-ddibyniaeth sylfaenol rhwng dibenion y cwricwlwm ac addysgeg (yr astudiaeth a'r arfer o'r ffordd orau o addysgu). Yn ei adroddiad, mae'r Athro Furlong yn disgrifio bod hyfforddiant cychwynnol athrawon wedi cyrraedd 'trobwynt tyngedfennol' ac mae'n argymell bod angen ffordd sy'n fwy 'eang' er mwyn i athrawon allu darparu ar gynllun Donaldson.

Ar gyfer y Gweinidog ei hun, bydd y model dysgu proffesiynol cenedlaethol ar gyfer athrawon ('y Fargen Newydd'), ynghyd ag Adolygiad Furlong, yn 'gwbl allweddol ar gyfer cyflwyno unrhyw gwricwlwm newydd yng Nghymru'. Yn ei ddatganiad ar 9 Mawrth yn ymateb i gyhoeddi adroddiad yr Athro Furlong, dywedodd nad oedd yng anghytuno ag unrhyw beth yn yr adroddiad, mewn egwyddor.

Maint yr her o weithredu

Mae'r Athro Donaldson ei hun yn glir iawn ynghylch lefel y newid sydd ei angen ac mae'n neilltuo ei bennod olaf ond un i ystyried goblygiadau'r hyn y mae'n ei argymell a sut i'w weithredu. Mae'n adrodd mai un o'r materion a oedd yn codi dro ar ôl tro gyda thîm yr adolygiad yn ystod y broses o gasglu tystiolaeth oedd p'un a oedd y dulliau ar gyfer gweithredu'r diwygiadau blaenorol wedi rhoi digon o ystyriaeth i p'un a oedd gan ysgolion ac athrawon y capasiti i'w cyflawni.

Mae hyn yn adleisio arsylwadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ynghylch system addysg Cymru (pdf3.74MB), bod ysgolion yn wynebu heriau ar hyn o bryd yn rhoi'r polisïau a'r diwygiadau niferus ar waith o dan agenda wella Llywodraeth Cymru, gan fod cymaint ohonynt. Canfu'r Sefydliad fod rhai penaethiaid a rhanddeiliaid yn disgrifio risg o weithredu'n rhannol, neu 'reform fatigue'.

Mae'r Athro Donaldson yn annog bod pobl yn dysgu gwersi o ymdrechion blaenorol ac y caiff strategaeth o newid ei mabwysiadu. Mae'n cydnabod bod ei gynigion yn radical ac yn sylfaenol, ac yn arwain at newid gwirioneddol a pharhaol. Mae'n awgrymu y bydd y newidiadau'n cymryd amser ac y dylid eu cyflwyno'n raddol, gan bwysleisio ei bod yn hanfodol datblygu sylfaen gadarn o gefnogaeth ar gyfer pob rhanddeiliad a phlaid wleidyddol.

Mae consensws gwleidyddol o'r fath yn edrych yn addawol gyda Wales Online yn nodi bod cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer cynlluniau'r Athro Donaldson y diwrnod ar ôl i'w adroddiad gael ei gyhoeddi. Rhaid aros i weld a ellir cynnal consensws o'r fath hyd nes y bydd y Gweinidog yn rhoi amlinelliad o'i ymateb ystyriol ffurfiol i'r Adolygiad (disgwylir yr ymateb ar ôl cyfnod cyntaf y Sgwrs Fawr ar 8 Mai a chyn dechrau toriad yr haf y Cynulliad).

Un peth sy'n sicr yw, er gwaethaf lefel y sylw a'r manylder gan yr Athro Donaldson a'i dîm wrth lunio'r adroddiad Dyfodol Llwyddiannus, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith caled i ddod o hyd. Yn dychwelyd at Syr Michael Barber (You Tube) (prif strategydd addysg gyda Pearson a chyn-gynghorydd Llywodraeth y DU):

'One of the commonest mistakes that politicians around the world make is this. They think that getting the policy right is difficult and they are right about that. They also think that it is 90 per cent of the task done … and they are completely wrong about that. They think that it is 90 per cent getting the policy right and then implementation will take care of itself. Actually, … it is pretty much the reverse of that. Getting the policy right is difficult but it is only 10 per cent of the task. Ninety per cent is making sure it happens in an effective way.'

View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg