Aelodau’r Cynulliad yn trafod Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cymwysterau Cymru

Cyhoeddwyd 24/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn y Cyfarfod Llawn yn ddiweddarach heddiw, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil Cymwysterau Cymru ac yn pleidleisio a ddylid caniatáu i’r Bil symud ymlaen i gyfnod nesaf ei daith ddeddfwriaethol drwy’r Cynulliad.

Mae’r Bil Cymwysterau Cymru yn darparu ar gyfer trosglwyddo’r cyfrifoldeb rheoleiddio dros gymwysterau, ar wahân i raddau, a ddyfernir yng Nghymru o Lywodraeth Cymru i gorff annibynnol newydd, a elwir yn ‘Gymwysterau Cymru’. Fodd bynnag, nod y Bil mewn gwirionedd yw gwneud llawer mwy na hynny. Ni fydd Cymwysterau Cymru, yn syml, yn gwneud yr hyn y mae’r Gweinidog a’i swyddogion ym Mharc Cathays yn ei wneud ar hyn o bryd; mae Llywodraeth Cymru am wneud gwelliannau drwy gyfrwng diwygiadau.

Yng ngeiriau’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, bydd y Bil yn galluogi Cymwysterau Cymru i ‘lunio’, ‘rhesymoli’ a ‘chryfhau’ y system. Pennir dau brif nod ar gyfer y sefydliad newydd: yn gyntaf, sicrhau bod cymwysterau a’r system ei hun yn diwallu anghenion dysgwyr, ac yn ail, ennyn hyder y cyhoedd.

Mae’r Bil hefyd yn rhoi pwerau i Gymwysterau Cymru, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, flaenoriaethu cymwysterau i helpu i ymdrin â’r gormodedd o gymwysterau sy’n cael eu cynnig yng Nghymru. Bydd Cymwysterau Cymru hefyd yn gallu cyfyngu rhai cymwysterau blaenoriaethol i un ffurf o bosibl, sy’n golygu y bydd pob disgybl mewn ysgolion a gynhelir yn sefyll yr un cymhwyster.

Mae rhagor o wybodaeth am ddarpariaethau’r Bil a’r wybodaeth gefndir o ran ei gyflwyno i’w gweld yn yr erthygl flaenorol ar ddechrau mis Rhagfyr, a hefyd yn y Crynodeb o Fil gan y Gwasanaeth Ymchwil.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad (a pdf457KB) ar 13 Mawrth, ar ôl clywed tystiolaeth yn ystod Cyfnod 1 y broses yn y Cynulliad. Nodir yn yr adroddiad:

‘Mae’r Pwyllgor yn unfryd yn ei farn bod sefydlu Cymwysterau Cymru yn gam cadarnhaol ymlaen, ac mae’n llwyr o blaid yr ymagwedd sydd wedi’i harddel yn y Bil.’

Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod cefnogaeth gyffredinol, yn wir, ymysg rhanddeiliaid i’r egwyddor o gael rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol. Fodd bynnag, roedd tystiolaeth a gafodd y Pwyllgor yn amlygu nifer o bryderon a risgiau posibl y bydd yn rhaid eu rheoli wrth sefydlu Cymwysterau Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • materion ymarferol sut y byddai Cymwysterau Cymru yn gweithio;
  • yr hyn sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod Cymwysterau Cymru yn ateb ei ddiben yn llwyddiannus;
  • eglurder y darpariaethau yn y Bil, yn enwedig o ran adran 29(3) ynghylch "fersiynau Cymreig" o gymwysterau;
  • manteision ac anfanteision y trefniadau newydd ynghylch gosod blaenoriaethau a chyfyngu cymwysterau;
  • a yw’r Bil yn hwyluso ymagwedd fwy strategol at gymwysterau;
  • materion ariannol a masnachol ynglŷn â’r system newydd.

Gwnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg 14 o argymhellion, er na fyddai pob un o’r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i wneud gwelliant i’r Bil ei hun. Mae’r rhan fwyaf o’r argymhellion yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried yn ofalus y risgiau neu’r problemau posibl sy’n deillio o’r Bil, a gweithio gyda Phrif Weithredwr dros dro Cymwysterau Cymru cyn sefydlu’r corff yn ffurfiol. Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro effaith y Bil, gan argymell ei bod yn adolygu’r effaith a gaiff unrhyw benderfyniadau i gyfyngu’r mathau o gymwysterau sydd ar gael yng Nghymru ar y farchnad cymwysterau.

Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad hefyd wedi craffu ar y Bil (pdf378KB). Mae’n ‘cymeradwyo’r Gweinidog am y ffordd y caiff y Bil ei ddrafftio’, gan ychwanegu, ‘mae’n hawdd ei ddilyn ac yn ddealladwy’. Gwnaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol un argymhelliad yn unig, ar y defnydd o weithdrefn ar gyfer gwneud y gorchymyn cychwyn.

Os caiff egwyddorion cyffredinol y Bil Cymwysterau Cymru gymeradwyaeth drwy bleidlais fwyafrif yn y Cyfarfod Llawn heddiw, bydd yn symud ymlaen i Gyfnod 2 y broses ddeddfwriaethol yn y Cynulliad. Yn ystod y cyfnod hwn, caiff y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gyfle i wneud gwelliannau i’r Bil, cyn y bydd yn dod yn ôl gerbron y Cyfarfod Llawn i gael ei ystyried ymhellach gan yr holl Aelodau, a fydd hefyd yn gallu cyflwyno gwelliannau.