Cyhoeddiad Newydd: Nwy anghonfensiynol: nwy siâl a methan haenau glo

Cyhoeddwyd 25/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Mawrth 2015
Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rydym wedi diweddaru papur ymchwil 2012 ar nwy anghonfensiynol. Mae’r papur yn amlinellu’r posibiliadau a’r pryderon amgylcheddol sydd ynghlwm wrth gloddio am nwy anghonfensiynol yng Nghymru gan gynnwys drwy hollti hydrolig neu ‘ffracio’.  Mae’n ymdrin â’r newidiadau diweddaraf a gyflwynwyd o ganlyniad i Ddeddf Seilwaith 2015 Llywodraeth y DU. Mae hefyd yn esbonio goblygiadau cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi am ddatganoli’r prosesau ar gyfer trwyddedu nwy anghonfensiynol a cheisiadau cynllunio yng Nghymru ymhellach. Nwy anghonfensiynol: nwy siâl a methan haenau glo Dyma ddelwedd o glawr y cyhoeddiad: Nwy anghonfensiynol: nwy siâl a methan haenau glo - Papur Ymchwil View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg