'Heriau sylweddol' er mwyn cyrraedd nodau amgylcheddol Ewropeaidd

Cyhoeddwyd 25/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Mawrth 2015 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru [caption id="" align="aligncenter" width="682"]Llun o Flickr gan Heribert Pohl. Trwydded Creative Commons. Llun o Flickr gan Heribert Pohl. Trwydded Creative Commons.[/caption] Er bod polisi amgylcheddol wedi cyflawni llawer o welliannau yn Ewrop, mae dadansoddiad diweddar gan Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop yn dangos bod heriau sylweddol yn parhau mewn llawer o feysydd amgylcheddol. Mae'r canlyniadau hyn yn deillio o adroddiad synthesis - SOER 2015- sy'n gwerthuso cyflwr, tueddiadau a rhagolygon amgylchedd Ewrop mewn cyd-destun byd-eang. Yn 2013, cyhoeddwyd y seithfed Rhaglen Gweithredu Amgylcheddol (EAP) i lywio polisi amgylcheddol Ewrop tan 2020. Er mwyn rhoi rhagor o gyfarwyddyd yn y tymor hir mae'n nodi gweledigaeth y tu hwnt i hynny gyda nodau ar gyfer 2050:

"In 2050, we live well, within the planet’s ecological limits. Our prosperity and healthy environment stem from an innovative, circular economy where nothing is wasted and where natural resources are managed sustainably, and biodiversity is protected, valued and restored in ways that enhance our society’s resilience. Our low-carbon growth has long been decoupled from resource use, setting the pace for a safe and sustainable global society."

Nododd y Rhaglen Gweithredu Amgylcheddol dri amcan allweddol:
  • i ddiogelu, cadw a gwella cyfalaf naturiol yr Undeb;
  • i droi'r Undeb yn economi carbon isel sy'n effeithlon o ran adnoddau, yn wyrdd ac yn gystadleuol;
  • i ddiogelu dinasyddion yr Undeb rhag pwysau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd a risgiau i iechyd a lles.
Amcanion a gweledigaeth y Rhaglen Gweithredu Amgylcheddol sy'n ffurfio'r cefndir i adroddiad SOER 2015 a gyhoeddwyd yn ddiweddar; The European Environment, State And Outlook 2015: Synthesis Report. Mae SOER 2015, sy'n cyfosod data o ffynonellau cyhoeddedig, yn ystyried cyflwr amgylchedd Ewrop heddiw ac yn dadansoddi cyfleoedd i ailgymhwyso polisïau a gwybodaeth Ewropeaidd yn unol â gweledigaeth Rhaglen Gweithredu Amgylcheddol 2050. Daeth SOER 2015 i'r casgliad nad yw cyfalaf naturiol Ewrop hyd yma yn cael ei warchod, ei gadw na'i wella yn unol ag uchelgeisiau'r Rhaglen Gweithredu Amgylcheddol. Mae colli swyddogaethau sy'n ymwneud â'r pridd, dirywiad tir a newid hinsawdd yn parhau i fod yn bryderon mawr sy'n bygwth y nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol a ddarperir. Ystyrir bod gan gyfran uchel o rywogaethau a warchodir (60 y cant) a mathau o gynefinoedd (77 y cant) statws gadwraeth anffafriol a rhagwelir y bydd y ffactorau sylfaenol sy'n arwain at golli  bioamrywiaeth yn parhau. O ganlyniad, nid yw Ewrop ar y trywydd iawn i gwrdd â'i tharged cyffredinol i atal colli bioamrywiaeth erbyn 2020. O ran effeithlonrwydd adnoddau a'r economi carbon isel, mae'r tueddiadau tymor byr yn fwy cadarnhaol. Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr Ewrop wedi gostwng 19 y cant ers 1990 er gwaethaf cynnydd o 45 y cant mewn allbwn economaidd. Fodd bynnag, nodwyd bod gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn annigonol ar hyn o bryd i sicrhau bod yr UE yn cwrdd â'i tharged i ostwng allyriadau 80-95 y cant erbyn 2050. Mae'r defnydd o danwydd ffosil hefyd wedi lleihau, a hefyd allyriadau rhai llygryddion o  drafnidiaeth a diwydiant. Yn fwy diweddar, mae cyfanswm defnydd yr UE o adnoddau wedi gostwng 19 y cant ers 2007, cynhyrchir llai o wastraff ac mae cyfraddau ailgylchu wedi gwella ym mhob gwlad bron. O ran trydydd amcan y Rhaglen Gweithredu Amgylcheddol, diogelu risgiau amgylcheddol i iechyd, mae SOER 2015 yn tynnu sylw at welliannau mewn ansawdd dŵr yfed a dŵr ymdrochi yn y degawdau diwethaf. Mae lefelau rhai llygryddion peryglus wedi cael eu gostwng gan wella ansawdd aer Ewrop. Fodd bynnag, amlygwyd bod llygredd aer a sŵn yn parhau i achosi effeithiau sylweddol ar iechyd. Ni ddisgwylir i'r gwelliannau a ragwelir mewn ansawdd aer fod yn ddigonol i atal niwed parhaus i iechyd a'r amgylchedd. Mae'r tabl isod yn crynhoi dadansoddiad SOER 2015. Table1b Tabl 1.  Crynodeb o'r tueddiadau amgylcheddol yn Ewrop. Ffynhonnell: The European Environment, State and Outlook 2015: Synthesis Report Mae'r tabl yn tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng y tueddiadau tymor byr cadarnhaol a'r rhagolygon tymor hir llai calonogol ar gyfer amgylchedd Ewrop sy'n awgrymu y gall lefel uchelgais y polisi amgylcheddol presennol fod yn annigonol i gyflawni nodau amgylcheddol tymor hir Ewrop. Mae SOER 2015 yn nodi bod byw yn dda o fewn terfynau ecolegol angen trawsnewidiadau sylfaenol yn y systemau cynhyrchu a defnyddio a welir fel yr hyn sydd wrth wraidd pwysau amgylcheddol a hinsawdd. Mae'r adroddiad yn nodi y gallai ailgymhwyso'r polisïau presennol gyfrannu at y newid hwn drwy ddefnyddio pedwar dull allweddol: lliniaru; addasu; osgoi ac adfer. Casgliad cyffredinol bras yr adolygiad oedd bod trawsnewidiadau o'r fath yn gofyn am 'newidiadau dwys mewn sefydliadau, arferion, technolegau, polisïau, ffyrdd o fyw a meddwl amlwg'. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg