Setliad datganoli sy'n para i Gymru?

Cyhoeddwyd 25/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Mawrth 2015 Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru GoWA "Pwerau at bwrpas" Ar 24 Chwefror, 2015 cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gorchymyn yn dwyn y teitl  Pwerau at bwrpas: Setliad datganoli sy'n para i Gymru [PDF, 839KB, 60 o dudalennau]  Er mai papur gan Lywodraeth y DU yw hwn, fe'i paratowyd yn dilyn sgyrsiau trawsbleidiol a gynhaliwyd ar ôl Refferendwm yr Alban. Cynhaliodd yr Ysgrifennydd Gwladol drafodaethau â'r pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar yr argymhellion yn ail adroddiad Comisiwn Silk ("Adroddiad Silk II" [PDF, 2.02MB, 226 o dudalennau]), a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2014. Pan argymhellodd Adroddiad  Silk II y dylai Cymru symud tuag at fodel cadw pwerau'n ôl, cafodd ei groesawu yn eang yng Nghymru, a hynny gan yr holl bleidiau gwleidyddol. Ar 14 Hydref, 2014 derbyniwyd  cynnig hollbleidol  [PDF, 169KB] yn y Cynulliad a oedd yn ceisio "cadarnhau y bydd y model cadw pwerau'n ôl yn cael ei sefydlu yng Nghymru". Pam cadw pwerau'n ôl? Dywedodd Comisiwn Silk fod y dystiolaeth a gafwyd yn dangos bod y mwyafrif llethol o blaid model cadw pwerau'n ôl. Y rhesymau a roddwyd oedd ei fod yn cynnig  sicrwydd  : "Gyda set glir o bwerau a gedwir yn ôl, dylai terfynau’r setliad datganoli fod yn fwy amlwg a dylai, felly, ganiatáu i’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu’n hyderus." Byddai'r model yn rhoi mwy o  eglurder, symlrwydd  ac yn cynnig mwy o  sefydlogrwydd strwythurol  na'r model rhoi pwerau. Dadleuwyd hefyd y byddai'n sicrhau  cysondeb a chydlyniant  drwy'r Deyrnas Unedig, gan mai’r model cadw pwerau’n ôl syn’ cael ei ddefnyddio eisoes yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ond ... Cafwyd gair o rybudd gan rai  arbenigwyr cyfreithiol, fodd bynnag. Ym mis Hydref 2014 dywedodd yr Athro Thomas Glyn Watkin, mewn cynhadledd Canolfan Llywodraethiant Cymru, y byddai gallu'r model cadw pwerau'n ôl i sicrhau'r manteision y soniodd Silk amdanynt, yn dibynnu ar y modd roedd y Bil yn cael ei ddrafftio. Lleisiwyd pryderon tebyg gan Brif Weinidog Cymru yn ei  ddatganiad  am y Papur Gorchymyn yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mawrth, 2015:
Mae arwyddion y gallai Llywodraeth y DU ddefnyddio'r ymarfer hwn i rwyfo at yn ôl oddi wrth bwerau presennol Cymru. Nid oes llawer o werth i’r atodiad sy’n rhestru meysydd lle byddai angen cadw pwerau, gan nad yw'n cynnwys unrhyw un o'r eithriadau a fydd yn ofynnol dim ond i gynnal y setliad presennol. Mae, fodd bynnag, yn tynnu sylw at y risg y gallai rhai o adrannau Whitehall fanteisio ar hyn fel cyfle i gulhau’r setliad datganoli, mewn gwirionedd, yn hytrach na'i symud ymlaen.  Mae'r atodiadau hyn yn atgyfnerthu fy marn i y bydd angen inni graffu ar y Bil Cymru drafft yn arbennig o ofalus, er mwyn sicrhau bod ein pwerau presennol yn cael eu diogelu, ac, yn hyn o beth, bydd angen inni fod yn wyliadwrus iawn o’r manylion.
Dyfarniadau'r Goruchaf Lys Rhwng cyhoeddi Adroddiad Silk II a'r Papur Gorchymyn, cyhoeddwyd y ddau ddyfarniad gan  y Goruchaf Lys ar Filiau Cymru. Mae'r rhain yn rhoi cyd-destun pwysig i'r drafodaeth ynghylch symud tuag at fodel cadw pwerau'n ôl. Ar 9 Gorffennaf, 2014 cafwyd dyfarniad y Goruchaf Lys ar Fil y Sector Amaethyddiaeth (Cymru)  a gafodd ei drafod mewn nodyn blog blaenorol. Cyhoeddwyd y dyfarniad ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)  ar 9 Chwefror at 2015. Dyfarnodd y Goruchaf Lys nad oedd y Mesur o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i fod yn  anghydnaws â hawliau digolledwyr o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR). Dywedodd yr Arglwydd Mance, a roddodd y prif ddyfarniad, nad oedd y Bil yn ymwneud digon â'r gwaith o drefnu ac ariannu'r GIG o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 , i fod o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Teimlai rhai sylwebyddion fod y dyfarniad hwn yn ddehongliad culach o gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad na'r dyfarniad ar y Bil Amaethyddiaeth. Ystyriodd  yr Athro Adam Tomkins o Brifysgol Glasgow  y dyfarniad yng nghyd-destun cyfraith achos datganoli'r Goruchaf Lys  o bob rhan o'r DU a daeth i'r casgliad nad oedd  "yn gydlynol, yn sefydlog nac yn ymarferol "it is not: that much is for sure."  Esboniodd y gwahaniaethau rhwng setliadau presennol Cymru a'r Alban:
The words “relates to” do not have the same effect in section 29 of the Scotland and section 108 of the Government of Wales Act. If an Act of the Scottish Parliament relates to a reserved matter listed in Schedule 5 to the Scotland Act it is outwith competence. On the other hand, an Act of the Welsh Assembly must relate to a devolved matter listed in Schedule 7 to the Government of Wales Act in order to be within competence. This is the difference between the “reserved powers” model used in Scotland and the “conferred powers” model used in Wales […] Thus, the effect of interpreting “relates to” as indicating “more than a loose or consequential connection” in Scotland is that the competence of the Scottish Parliament is treated generously: an ASP must have more than a loose connection with a reserved matter before it may be held on that ground to be outwith competence. However, the effect of interpreting “relates to” in this way in Wales is the opposite, and diminishes the legislative competence of the Assembly: an Act of the Assembly risks being held ultra vires unless the Assembly can show that it has more than a loose or consequential connection with a subject listed in Schedule 7.
Beth nesaf? Mae Papur Gorchymyn Llywodraeth y DU yn datgan bod "rhaglen waith i baratoi'r model" eisoes ar y gweill. Mae rhestr enghreifftiol o'r meysydd lle y mae’n credu y byddai angen cadw pwerau'n ôl yn Atodiad B i'r papur, ac mae enghreifftiau o'r pwerau y mae’n dweud y byddent yn cael eu cynnwys yn y model i'w gweld yn Atodiad C . Mae Atodiad D yn rhestru'r materion y mae Llywodraeth y DU yn credu y byddai angen eu hystyried wrth ddatblygu'r model drwy ofyn cyfres o gwestiynau'n cynnwys "Sut y mae'r modd y dehonglir dyfarniadau cyfreithiol yn effeithio ar derfyn y  setliad datganoli?" Fodd bynnag, ni cheir darlun clir o daith Cymru tuag at "setliad datganoli sy'n para'  tan ar ôl etholiad cyffredinol nesaf y DU. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg