Datblygu ffermydd solar yng Nghymru - y ffigurau diweddaraf

Cyhoeddwyd 27/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

27 Mawrth 2015 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru [caption id="attachment_2716" align="alignnone" width="682"]Ffigur 2. Ffermydd solar yng Nghymru (Chwefror 2015). Ffynhonnell Cronfa Ddata Cynllunio Ynni Adnewyddadwy. Ffigur 2. Ffermydd solar yng Nghymru (Chwefror 2015). Ffynhonnell Cronfa Ddata Cynllunio Ynni Adnewyddadwy.[/caption] Ffermydd solar, neu barciau solar, yw’r defnydd o osodiadau Solar Ffotofoltäig ar raddfa fawr i gynhyrchu trydan a gaiff ei gyflenwi i’r grid trydan lleol. Maent yn aml yn cwmpasu ardaloedd mawr o dir (rhwng 1 a 100 erw) ac felly, fel arfer caiff y ffermydd eu datblygu mewn lleoliadau gwledig. Mae data gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn dangos mai tua 8 megawatt (MW) ar gyfartaledd yw capasiti ffermydd solar sy’n weithredol yng Nghymru. Er mwyn rhoi ymdeimlad o raddfa, mae angen tua 10 hectar o dir am bob gosodiad 5 MW, digon i roi pŵer i 1,515 o gartrefi.[1] Mae’r sector wedi gweld twf mawr yng Nghymru ers 2011 pan roddwyd caniatâd cynllunio i fferm solar gan Gyngor Sir am y tro cyntaf, sef gan Gyngor Sir Benfro ym Mhlas Rhos-y-Gilwen. Dengys data o Gronfa Ddata Cynllunio Ynni Adnewyddadwy yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd bod 23 fferm solar wedi dod yn weithredol yng Nghymru rhwng 2011-2015, gyda chyfanswm o 198.6 MW (Tabl 1) o ran capasiti. [caption id="attachment_2715" align="alignnone" width="300"]KTTable Tabl 1. Y defnydd o ynni solar ffotofoltäig yng Nghymru. Ffynhonnell Cronfa Ddata Cynllunio Ynni Adnewyddadwy.[/caption] [1] Yn seiliedig ar ffigurau defnydd blynyddol cyfartalog o 3,300 kWh o drydan ar gyfer tŷ. Mae’r cynnydd hwn o ran datblygiadau yn deillio’n rhannol o gymorth gan ffrydiau ariannu’r llywodraeth gan gynnwys Tariffau Cyflenwi Trydan (FIT) ar raddfa fach (<5MW), y Cynllun Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy (RO) (> 5MW) a chyllid y Polisi Amaethyddol Cyffredin i ffermwyr. Felly bu’n opsiwn rhatach i dirfeddiannwyr ddatblygu ffermydd solar yn hytrach na chnydau. Mae cost y paneli solar hefyd wedi gostwng yn gyflym o ganlyniad i ddatblygiadau byd-eang a’u defnydd mewn marchnadoedd mawr fel yr Almaen a Tsieina. Yn wir, gostyngodd pris paneli ffotofoltäig 50% rhwng 2010 a 2012. Sbardunwyd y cynnydd mewn ffermydd solar hefyd gan bryderon ynghylch capasiti cyfyngedig y grid trydan i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, ac o ganlyniad bu ras yn ddiweddar i sicrhau cysylltiad â’r grid. Mae’r map yn amlygu dosbarthiad y ffermydd solar sy’n weithredol, sydd wrthi’n cael eu hadeiladu neu sydd wedi cael caniatâd cynllunio yng Nghymru ym mis Chwefror 2015. Gellir gweld bod llawer o’r ceisiadau i ddatblygu ffermydd solar wedi’u lleoli yn Ne Cymru; un rheswm am hyn yw’r lefelau cymharol uchel o ymbelydredd a geir yno. Mae’r gyfradd twf annisgwyl yn y diwydiant wedi codi pryderon mewn perthynas â cholli tir ar gyfer cynhyrchu amaethyddol a chynnydd mewn biliau ynni domestig y mae’r cymorthdaliadau yn deillio ohonynt. Yn dilyn y pryderon hyn mae Llywodraeth y DU wedi lleihau’r cymorthdaliadau, ac mewn rhai achosion wedi rhoi terfyn arnynt, mewn ymgais i gymedroli cyfradd y gosodiadau, gan ffafrio gosodiadau ar doeon. Bydd y cynllun Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy (RO) yn dod i ben i ynni solar ffotofoltäig ar raddfa fawr (> 5 MW) o 1 Ebrill 2015 ymlaen. Hefyd, o 2015 ymlaen ni fydd parciau solar bellach yn gymwys ar gyfer Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) y Polisi Amaethyddol Cyffredin, gan nad gweithgarwch amaethyddol yw’r prif weithgarwch ar y tir. Bydd cyllid yn parhau ar gael ar gyfer gosodiadau ar raddfa lai (<5MW) drwy’r Tariffau Cyflenwi Trydan (FIT). I gael rhagor o wybodaeth am ffermydd solar yng Nghymru gweler Nodyn Ymchwil 2015 y Gwasanaeth Ymchwil. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg