Dyfodol y sector llaeth yng Nghymru

Cyhoeddwyd 10/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Ebrill 2015 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru [caption id="" align="aligncenter" width="682"]llun o botel laeth Llun o Flickr gan Nic McPhee. Trwydded Creative Commons.[/caption] Mae'r sector llaeth yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig yn niwydiant llaeth y DU. Cynhyrchodd Cymru 1,670 miliwn o litrau yn y flwyddyn odro ddiwethaf (2013/14) sef 12% o gyfanswm y llaeth a gynhyrchwyd yn y DU. Fodd bynnag, mae'r diwydiant wedi bod yn anwadal yn y gorffennol, gyda gostyngiad sylweddol yn y prisiau a dalwyd i ffermwyr llaeth ar gyfer eu llaeth yn hydref y llynedd. Oherwydd pryderon ynghylch dyfodol y sector llaeth yng Nghymru, comisiynodd Llywodraeth Cymru arolygiad annibynnol o'r sector ym mis Hydref 2014. Mae'r arolygiad, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn cynnwys argymhellion ar gyfer dyfodol y diwydiant. Ceir cefndir yr arolygiad hwn yn ein blog blaenorol, Prisiau Llaeth.

Yr arolygiad

Cynhaliwyd yr Arolygiad Annibynnol o'r Sector Llaeth yng Nghymru gan Andy Richardson, pennaeth materion corfforaethol Volac ac aelod o Dasglu Llaeth Llywodraeth Cymru, gyda dros 100 o gyfweliadau â rhanddeiliaid y diwydiant fel rhan o’r arolygiad. Yn yr adroddiad y mae 26 o argymhellion ar gyfer datblygu'r diwydiant, ac fe’i cyflwynir mewn cynllun pum pwynt:
  • Arweinyddiaeth;
  • Canolbwynt y Farchnad;
  • Effeithiolrwydd;
  • Gwybodaeth a Sgiliau;
  • Yr Amgylchedd.
Mae Mr Richardson yn parhau i fod yn obeithiol yn ei arolygiad ynghylch dyfodol y sector llaeth yng Nghymru, gan ddweud “I genuinely believe the Welsh dairy industry has the potential to be one of the best, most iconic and efficient in the world.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ar 24 Mawrth 2015, cyhoeddodd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, ei bod wedi derbyn 19 o'r argymhellion yn llawn, pedwar ohonynt mewn egwyddor a thri ohonynt yn rhannol. Mae'r ymateb i'r argymhellion yn dod ar ffurf cynllun gweithredu sy'n nodi'r camau ar gyfer mynd i'r afael â phob un o'r argymhellion, pwy a ddylai fod yn gyfrifol, a'r amserlen ar gyfer gweithredu. Mae'r argymhellion a gariwyd yn cynnwys sefydlu Bwrdd Arwain Llaeth Cymru newydd i ddatblygu'r gwaith a wnaed gan y Tasglu Llaeth hyd yn hyn. Dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai'n gweithio gyda'r Bwrdd newydd i:
  • Gynnal astudiaeth ddichonoldeb o'r farchnad bosibl ar gyfer cyfleuster prosesu llaeth yng Nghymru.
  • Nodi talent arweinyddol posibl yn y diwydiant a rhoi cynllun mentora a hyfforddi ar waith.
  • Ceisio sicrhau bod gwaith y grwpiau 'llywio' i gyd yn cael ei gydlynu a'i fod yn canolbwyntio ar anghenion y diwydiant.Dywedodd y Dirprwy Weinidog hefyd y byddai’n adolygu Cod Ymarfer Gwirfoddol y sector llaeth yn flynyddol.
Bydd cysylltiad agos rhwng y Bwrdd â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru. Sefydlwyd y Bwrdd hwn i fod yn llais i'r diwydiant bwyd a diod, ac ef a Llywodraeth Cymru fydd cyd-berchnogion y Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod (2014-2020). Dywedodd y Dirprwy Weinidog hefyd y byddai’n adolygu Cod Ymarfer Gwirfoddol y sector llaeth yn flynyddol. Mae'r Cod yn rheoli'r berthynas gytundebol rhwng cynhyrchwyr llaeth a'r proseswyr sy’n prynu eu llaeth. O ran cymorth ariannol, derbyniodd y Dirprwy Weinidog yr argymhelliad y dylid sicrhau bod y Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP) yn cael ei defnyddio i annog a hwyluso gwell 'cynhyrchu llaeth ar lefel gynradd, prosesu llaeth, marchnata cynnyrch ac arloesi'. Mae hefyd wedi cytuno i ganolbwyntio gwariant o dan yr RDP ar wella iechyd a lles anifeiliaid. Hefyd, derbyniodd y Dirprwy Weinidog yr argymhelliad y dylid gwella'r nifer sy'n manteisio ar Glastir drwy wneud y cynllun yn fwy deniadol i ffermwyr llaeth. O'r argymhellion a 'dderbyniwyd yn rhannol' y mae: sefydlu Grŵp Gwybodaeth a Sgiliau Llaeth Cymru newydd (dywed y Dirprwy Weinidog nad oes angen y fath grŵp ar hyn o bryd); a sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer llaeth (dadl y Dirprwy Weinidog yw bod nifer o ganolfannau wedi cael eu sefydlu eisoes).

Ymatebion i'r cynllun gweithredu

Aelodau’r Cynulliad

Mae nifer o Aelodau Cynulliad wedi croesawu arolygiad Andy Richardson a'i ganfyddiadau. Cafodd penderfyniad Llywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhelliad i sefydlu Bwrdd Arwain Llaeth Cymru newydd ei groesawu, ac fe groesawyd y cytundeb i adolygu'r cod gwirfoddol yn flynyddol. Sut bynnag, roedd pryder cyffredin am ffaith fod y gyllideb bresennol yn un dynn a'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn pwyso gormod ar yr RDP. Roedd siom hefyd nad oedd y Dirprwy Weinidog wedi cyfeirio at ddiwedd agos y cwotâu llaeth, gyda'r arolygiad yn nodi bod hyn yn gyfle ac yn fygythiad. Awgrymodd un Aelod mai hwn yw'r amser i Lywodraeth Cymru greu bwrdd ardollau ar gyfer Cymru a fyddai'n darparu gwasanaethau i Gymru er mwyn gwella 'yr effeithlonrwydd, a'r gefnogaeth i'r farchnad a'r diwydiant sydd eu hangen arnynt cymaint'. Gofynnwyd hefyd am fwy o fanylder ynghylch newidiadau i les anifeiliaid.

NFU

Croesawodd yr NFU yr arolygiad gan nodi'r argymhellion y mae'n eu hystyried yn rhai 'strategol hanfodol' ar gyfer y diwydiant llaeth yng Nghymru, gan gynnwys:
  • Sefydlu'r Bwrdd Arwain Llaeth Cymru;
  • Yr astudiaeth ddichonoldeb o'r potensial ar gyfer cyfleuster prosesu llaeth a yrrir gan y farchnad yn ne-orllewin Cymru;
  • Sicrhau bod y cylch nesaf o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, gan gynnwys y Cynllun Datblygu Gwledig yn y dyfodol, yn cael eu ddefnyddio i annog a hwyluso gwell cynhyrchu llaeth ar lefel gynradd, prosesu llaeth, marchnata cynnyrch ac arloesedd yng Nghymru.
  • Ers i'r arolygiad gael ei gomisiynu, mae'r farchnad fyd-eang wedi dangos arwyddion o adferiad gydag arwerthiannau Fonterra GlobalDairyTrade yn dangos cynnydd mewn prisiau er Tachwedd 2014. Disgwylir i'r defnydd byd-eang o gynnyrch llaeth godi 36% yn y degawd nesaf. Fodd bynnag, disgwylir i’r farchnad barhau’n anwadal.
Ceir rhagor o wybodaeth am y Sector Llaeth yn Nodyn Ymchwil y Sector Llaeth (PDF, 565.99KB). View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg