Beth yw llythrennedd corfforol a pha ran sydd iddo yn y cwricwlwm?

21 Ebrill 2015

Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r llun yn dangos bechgyn yn chwarae rygbi

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad yn ei Rhaglen Lywodraethu (pdf53.2kb) i sicrhau bod ‘llythrennedd corfforol yn sgil datblygu sydd yr un mor bwysig â darllen ac ysgrifennu’. Ond beth yw ystyr llythrennedd corfforol? Hefyd, yng nghyd-destun Adolygiad yr Athro Graham Donaldson o’r cwricwlwm ac asesu (pdf1.53MB), pa ran sydd iddo yn y cwricwlwm ysgol?

Nid yw llythrennedd corfforol, yn syml, yn golygu’r un peth â ‘chwaraeon’,  ‘gweithgarwch corfforol’ neu hyd yn oed ‘addysg gorfforol’. (I gael diffiniad manwl o bob un o’r rhain, gweler Atodiad B o adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ysgolion a Gweithgarwch Corfforol (pdf600KB).)

Y ffordd orau i ddeall llythrennedd corfforol yw fel canlyniad dysgu am weithgarwch corfforol neu addysg gorfforol (AG). Yn 2014, diffiniodd y Gymdeithas Llythrennedd Corfforol Rhyngwladol lythrennedd corfforol fel:

‘the motivation, confidence, physical competence, knowledge and understanding to value and take responsibility for engagement in physical activities for life’.

Neu mewn termau symlach:

Sgiliau + Hyder + Cymhelliant + Llawer o Gyfleoedd = Llythrennedd Corfforol.

Mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ar-lein, ynghyd â fideo You Tube byr i’w egluro ymhellach.

Mentrau diweddar

Cafwyd nifer o fentrau gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diwethaf i roi mwy o bwyslais ar weithgarwch corfforol. Yn 2010, lansiodd gynllun gweithredu Creu Cymru Egnïol, a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu amgylcheddau ffisegol sy’n ei gwneud hi’n haws i bobl fod yn fwy egnïol yn gorfforol; cefnogi plant a phobl ifanc ac annog oedolion i fyw bywydau egnïol; ac ehangu cyfranogiad ymhlith pob sector yn y gymdeithas.

Chwaraeon Cymru yw’r corff cyhoeddus sy’n cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, ac yn 2011 cyhoeddodd ei Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Mae hon yn weledigaeth gyffredinol ar gyfer sut y gall yr agenda chwaraeon a gweithgarwch corfforol gael ei ddarparu’n well.

Mae Chwaraeon Cymru yn darparu’r Rhaglen Llythrennedd Corfforol ar gyfer Ysgolion, sy’n cael £1.6 miliwn eleni gan Lywodraeth Cymru. Ynghyd ag awdurdodau lleol, mae Chwaraeon Cymru hefyd yn helpu i gyflwyno cynlluniau fel nofio am ddim, Aml Sgiliau, Campau’r Ddraig a Chwarae i Ddysgu.

Lefel y cyfranogiad ar hyn o bryd

Bob dwy flynedd, mae Chwaraeon Cymru yn cynnal Arolwg ar Chwaraeon Ysgol. Yn 2013, roedd yr arolwg yn holi 110,000 o blant ysgol rhwng 7 ac 16 mlwydd oed mewn bron i 1,000 o ysgolion. Roedd y canlyniadau yn galonogol ac yn dangos cynnydd yn y gyfran sydd ‘Wedi Gwirioni ar Chwaraeon’ (yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol o leiaf dair gwaith yr wythnos) o 27% yn 2011 i 40% yn 2013. Mae’r bwlch rhwng bechgyn a merched yn parhau fodd bynnag, oherwydd y gyfran ar gyfer bechgyn yw 44% a 36% ar gyfer merched sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae’r ffeithlun hwn yn dangos newidiadau mewn cyfraddau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yng Nghymru

Ffeithlun gan Chwaraeon Cymru

Fodd bynnag, er gwaetha’r cynnydd a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf, gellir dadlau nad yw’r cyfraddau cyfranogi yn ddigon uchel o hyd, oherwydd mae 8.5% o blant nad ydynt yn cymryd rhan mewn dim chwaraeon y tu allan i gwricwlwm yr ysgol. Ystyriwch hefyd fod gan Gymru gyfradd gordewdra uwch ymhlith plant na Lloegr gan fod dros un o bob pedwar plentyn dros bwysau neu’n ordew (26%).

Grŵp Gorchwyl a Gorffen

Sefydlodd Llywodraeth Cymru y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ysgolion a Gweithgarwch Corfforol i roi ei ymrwymiad i roi’r un pwyslais ar lythrennedd corfforol â darllen ac ysgrifennu ar waith. Cyflwynodd y Grŵp, a gaiff ei gadeirio gan y Farwnes Tanni Grey-Thompson, y cyn-Baralympiad, ei adroddiad ym mis Mehefin 2013. Gwnaeth un argymhelliad, sef y dylai Addysg Gorfforol ddod yn bwnc craidd yn y cwricwlwm cenedlaethol, ochr yn ochr â Saesneg, Cymraeg (iaith gyntaf), mathemateg a gwyddoniaeth. Mae’r Grŵp hefyd yn gofyn am Fframwaith Llythrennedd Corfforol Cenedlaethol, tebyg i’r fframwaith sydd ar waith ar gyfer llythrennedd a rhifedd.

Adolygiad Donaldson

Ar ôl cyhoeddi Adolygiad annibynnol Donaldson ar y cwricwlwm ac asesu, dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau y byddai argymhelliad y Grŵp Ysgolion a Gweithgarwch Corfforol, ynghyd ag argymhellion gan nifer o Grwpiau Gorchwyl a Gorffen eraill, yn rhan o gylch gwaith yr Athro Donaldson. Mae’r ffaith bod Adolygiad Donaldson yn argymell y dylid newid o ddysgu pwnc traddodiadol, cul, i chwe ‘Maes Dysgu a Phrofiad’ ehangach yn golygu nad yw’r Adolygiad yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r cwestiwn a ddylai Addysg Gorfforol fod yn bwnc craidd mewn ysgolion.

Fel rhan o gynigion yr Athro Donaldson, byddai gweithgarwch corfforol a’r hyn a elwir yn Addysg Gorfforol ar hyn o bryd, yn cael eu cynnwys yn y Maes Iechyd a Lles ac yn cyfrannu at y pedwerydd pwrpas cwricwlwm arfaethedig, sef galluogi plant a phobl ifanc i fod yn ‘unigolion iach, hyderus’. Fodd bynnag, nid yw adroddiad Donaldson yn trafod yn fanwl y flaenoriaeth y dylid ei rhoi i addysg gorfforol, yn arbennig y cysyniad o ‘lythrennedd corfforol’, na’i statws o fewn y cwricwlwm.

Trawsgwricwlaidd?

Mae manteision lluosog i lythrennedd corfforol, ac nid o ran y maes amlwg, sef iechyd a lles, yn unig. Dengys ymchwil, heb ddatblygu llythrennedd corfforol, mae llawer o blant a phobl ifanc yn cilio oddi wrth chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac ni allant wneud dewisiadau cadarnhaol am eu hiechyd, a byddant yn troi at ddewisiadau mwy anweithgar ac afiach yn eu hamser hamdden.

Felly, mae sefydliadau fel Chwaraeon Cymru yn credu bod angen darparu llythrennedd corfforol ar sail traws-gwricwlaidd, gan ei fod yn berthnasol ar draws ystod eang o feysydd dysgu. Tra bod yr Athro Donaldson yn argymell y dylai cymhwysedd digidol gael yr un flaenoriaeth â llythrennedd a rhifedd, gan felly greu trydydd cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, nid yw hyn wedi cael ei argymell ar gyfer llythrennedd corfforol. Gellir dadlau y gallai hon fod wedi bod yn un ffordd o gyflawni ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg