Beth yw llythrennedd corfforol a pha ran sydd iddo yn y cwricwlwm?

Cyhoeddwyd 21/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

21 Ebrill 2015 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_2813" align="alignnone" width="300"]Mae’r llun yn dangos bechgyn yn chwarae rygbi Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad yn ei Rhaglen Lywodraethu (pdf53.2kb) i sicrhau bod ‘llythrennedd corfforol yn sgil datblygu sydd yr un mor bwysig â darllen ac ysgrifennu’. Ond beth yw ystyr llythrennedd corfforol? Hefyd, yng nghyd-destun Adolygiad yr Athro Graham Donaldson o’r cwricwlwm ac asesu (pdf1.53MB), pa ran sydd iddo yn y cwricwlwm ysgol?

Nid yw llythrennedd corfforol, yn syml, yn golygu’r un peth â ‘chwaraeon’,  ‘gweithgarwch corfforol’ neu hyd yn oed 'addysg gorfforol’. (I gael diffiniad manwl o bob un o’r rhain, gweler Atodiad B o adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ysgolion a Gweithgarwch Corfforol (pdf600KB).)

Y ffordd orau i ddeall llythrennedd corfforol yw fel canlyniad dysgu am weithgarwch corfforol neu addysg gorfforol (AG). Yn 2014, diffiniodd y Gymdeithas Llythrennedd Corfforol Rhyngwladol lythrennedd corfforol fel:

‘the motivation, confidence, physical competence, knowledge and understanding to value and take responsibility for engagement in physical activities for life’.

Neu mewn termau symlach:

Sgiliau + Hyder + Cymhelliant + Llawer o Gyfleoedd = Llythrennedd Corfforol.

Mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ar-lein, ynghyd â fideo You Tube byr i’w egluro ymhellach.

Mentrau diweddar

Cafwyd nifer o fentrau gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diwethaf i roi mwy o bwyslais ar weithgarwch corfforol. Yn 2010, lansiodd gynllun gweithredu Creu Cymru Egnïol, a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu amgylcheddau ffisegol sy’n ei gwneud hi’n haws i bobl fod yn fwy egnïol yn gorfforol; cefnogi plant a phobl ifanc ac annog oedolion i fyw bywydau egnïol; ac ehangu cyfranogiad ymhlith pob sector yn y gymdeithas.

Chwaraeon Cymru yw’r corff cyhoeddus sy’n cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, ac yn 2011 cyhoeddodd ei Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Mae hon yn weledigaeth gyffredinol ar gyfer sut y gall yr agenda chwaraeon a gweithgarwch corfforol gael ei ddarparu’n well.

Mae Chwaraeon Cymru yn darparu’r Rhaglen Llythrennedd Corfforol ar gyfer Ysgolion, sy’n cael £1.6 miliwn eleni gan Lywodraeth Cymru. Ynghyd ag awdurdodau lleol, mae Chwaraeon Cymru hefyd yn helpu i gyflwyno cynlluniau fel nofio am ddim, Aml Sgiliau, Campau’r Ddraig a Chwarae i Ddysgu.

Lefel y cyfranogiad ar hyn o bryd

Bob dwy flynedd, mae Chwaraeon Cymru yn cynnal Arolwg ar Chwaraeon Ysgol. Yn 2013, roedd yr arolwg yn holi 110,000 o blant ysgol rhwng 7 ac 16 mlwydd oed mewn bron i 1,000 o ysgolion. Roedd y canlyniadau yn galonogol ac yn dangos cynnydd yn y gyfran sydd ‘Wedi Gwirioni ar Chwaraeon’ (yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol o leiaf dair gwaith yr wythnos) o 27% yn 2011 i 40% yn 2013. Mae’r bwlch rhwng bechgyn a merched yn parhau fodd bynnag, oherwydd y gyfran ar gyfer bechgyn yw 44% a 36% ar gyfer merched sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon.

[caption id="attachment_2815" align="alignnone" width="682"]Mae’r ffeithlun hwn yn dangos newidiadau mewn cyfraddau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yng Nghymru Ffeithlun gan Chwaraeon Cymru[/caption]

Fodd bynnag, er gwaetha’r cynnydd a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf, gellir dadlau nad yw’r cyfraddau cyfranogi yn ddigon uchel o hyd, oherwydd mae 8.5% o blant nad ydynt yn cymryd rhan mewn dim chwaraeon y tu allan i gwricwlwm yr ysgol. Ystyriwch hefyd fod gan Gymru gyfradd gordewdra uwch ymhlith plant na Lloegr gan fod dros un o bob pedwar plentyn dros bwysau neu’n ordew (26%).

Grŵp Gorchwyl a Gorffen

Sefydlodd Llywodraeth Cymru y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ysgolion a Gweithgarwch Corfforol i roi ei ymrwymiad i roi’r un pwyslais ar lythrennedd corfforol â darllen ac ysgrifennu ar waith. Cyflwynodd y Grŵp, a gaiff ei gadeirio gan y Farwnes Tanni Grey-Thompson, y cyn-Baralympiad, ei adroddiad ym mis Mehefin 2013. Gwnaeth un argymhelliad, sef y dylai Addysg Gorfforol ddod yn bwnc craidd yn y cwricwlwm cenedlaethol, ochr yn ochr â Saesneg, Cymraeg (iaith gyntaf), mathemateg a gwyddoniaeth. Mae’r Grŵp hefyd yn gofyn am Fframwaith Llythrennedd Corfforol Cenedlaethol, tebyg i’r fframwaith sydd ar waith ar gyfer llythrennedd a rhifedd.

Adolygiad Donaldson

Ar ôl cyhoeddi Adolygiad annibynnol Donaldson ar y cwricwlwm ac asesu, dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau y byddai argymhelliad y Grŵp Ysgolion a Gweithgarwch Corfforol, ynghyd ag argymhellion gan nifer o Grwpiau Gorchwyl a Gorffen eraill, yn rhan o gylch gwaith yr Athro Donaldson. Mae’r ffaith bod Adolygiad Donaldson yn argymell y dylid newid o ddysgu pwnc traddodiadol, cul, i chwe ‘Maes Dysgu a Phrofiad’ ehangach yn golygu nad yw’r Adolygiad yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r cwestiwn a ddylai Addysg Gorfforol fod yn bwnc craidd mewn ysgolion.

Fel rhan o gynigion yr Athro Donaldson, byddai gweithgarwch corfforol a’r hyn a elwir yn Addysg Gorfforol ar hyn o bryd, yn cael eu cynnwys yn y Maes Iechyd a Lles ac yn cyfrannu at y pedwerydd pwrpas cwricwlwm arfaethedig, sef galluogi plant a phobl ifanc i fod yn ‘unigolion iach, hyderus’. Fodd bynnag, nid yw adroddiad Donaldson yn trafod yn fanwl y flaenoriaeth y dylid ei rhoi i addysg gorfforol, yn arbennig y cysyniad o ‘lythrennedd corfforol’, na’i statws o fewn y cwricwlwm.

Trawsgwricwlaidd?

Mae manteision lluosog i lythrennedd corfforol, ac nid o ran y maes amlwg, sef iechyd a lles, yn unig. Dengys ymchwil, heb ddatblygu llythrennedd corfforol, mae llawer o blant a phobl ifanc yn cilio oddi wrth chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac ni allant wneud dewisiadau cadarnhaol am eu hiechyd, a byddant yn troi at ddewisiadau mwy anweithgar ac afiach yn eu hamser hamdden.

Felly, mae sefydliadau fel Chwaraeon Cymru yn credu bod angen darparu llythrennedd corfforol ar sail traws-gwricwlaidd, gan ei fod yn berthnasol ar draws ystod eang o feysydd dysgu. Tra bod yr Athro Donaldson yn argymell y dylai cymhwysedd digidol gael yr un flaenoriaeth â llythrennedd a rhifedd, gan felly greu trydydd cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, nid yw hyn wedi cael ei argymell ar gyfer llythrennedd corfforol. Gellir dadlau y gallai hon fod wedi bod yn un ffordd o gyflawni ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg