Y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Cyhoeddwyd 22/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

22 Ebrill 2015 Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru Mae’n bosibl nad yw geiriau fel rheoleiddio, cofrestru ar arolygu’n dal eich sylw ar unwaith...Serch hynny, mae’r modd y byddwn yn rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael effaith fawr ar fywydau’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. [caption id="attachment_2811" align="alignleft" width="240"]Llun o flickr gan Borya. Trwyddedwyd o dan Creative Commons Llun o flickr gan Borya. Trwyddedwyd o dan Creative Commons[/caption] Mae’r rhan fwyaf ohonom yn adnabod rhywun sy’n cael  gofal cymdeithasol, naill yn eu cartrefi eu hunain, yn y gymuned neu mewn cartref gofal. Rydym i gyd am deimlo’n hyderus eu bod yn cael y gwasanaeth gorau bosibl sy’n caniatáu iddynt  gael yr ansawdd bywyd gorau bosibl. Nod Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yw gwella gwasanaethau gofal ymhellach a gosod safonau ansawdd ar eu cyfer. Mae Llywodraeth Cymru am i’r Bil sicrhau bod systemau cadarn ar waith ar gyfer monitro ac arolygu gwasanaethau i benderfynu a ydynt yn ddigon da, ac i gymryd camau ar fyrder os nad ydynt yn cyrraedd y nod. Gallwch ddarllen crynodeb o’r Bil yn ein blog blaenorol ac yn ein crynodeb newydd o’r Bil. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynhyrchu datganiad o fwriad polisi ar gyfer y rheoliadau a wneir o dan y Bil hwn. Mae Cyfnod 1 o’r broses graffu wedi dechrau, a chynhelir ail sesiwn dystiolaeth lafar y Pwyllgor Gofal Cymdeithasol ddydd Iau 23 Ebrill 2015 (gwyliwch ar Senedd TV). Rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol dystiolaeth lafar i’r Pwyllgor Gofal Cymdeithasol ar 25 Mawrth 2015. Gallwch ddarllen y trawsgrifiad yma neu wylio’r sesiwn ar Senedd TV. Dyma rai o’r materion a godwyd yn y sesiwn gyda’r Gweinidog: Gwasanaethau a reoleiddir Y gwasanaethau gofal cymdeithasol sy’n cael eu rheoleiddio ar hyn o bryd (hy cânt eu cofrestru a’u monitro’n ffurfiol) yw’r gwasanaethau preswyl a llety; y gwasanaethau mabwysiadu a maethu; y gwasanaethau lleoli oedolion a’r gwasanaethau gofal cartref. Mae’r Bil  yn adleisio hyn ac nid yw’n ymestyn y rhestr o wasanaethau a gaiff eu rheoleiddio, ond mae’n rhoi’r pŵer i ychwanegu gwasanaethau neu i beidio â’u cynnwys ar y rhestr drwy reoliadau. Yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad ynghylch papur gwyn Llywodraeth Cymru, nodwyd y dylid cynnwys gwasanaethau eirioli a gofal dydd i oedolion (ymhlith eraill) fel gwasanaethau y dylid eu rheoleiddio. Er enghraifft, dywedodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
The provision of ‘group’ day care services, e.g. dementia day centres, which can and do include intimate personal care, such as toileting and bathing, is widespread. These services are being provided by unregistered, unregulated providers and since these providers are coming into direct contact with and serving vulnerable people, the current lack of regulation presents a risk to those individuals and therefore, they should be regulated.
Pan holwyd y Gweinidog am hyn yng nghyfarfod y Pwyllgor, dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnwys gwasanaethau eirioli yn y drefn newydd o dan y set gyntaf o reoliadau yn 2016. Dywedodd hefyd fod dau arall ar y rhestr fer i’w hystyried nesaf - gofal ychwanegol, ac yna gwasanaethau gofal dydd sydd, meddai, yn y ‘trydydd safle’. Staff cofrestredig Y staff gofal cymdeithasol sy’n gorfod cofrestru â’r rheoleiddiwr ar hyn o bryd yw gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr gwasanaethau a reoleiddir (fel cartrefi gofal); gweithwyr cymdeithasol dan hyfforddiant a gweithwyr gofal plant preswyl.  Unwaith eto, nid yw’r Bil yn ymestyn y rhestr bresennol ond mae’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau at y diben hwnnw. Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu newid y sefyllfa bresennol ar hyn o bryd. Esboniodd y Gweinidog hyn wrth y Pwyllgor:
The Bill then provides a regulation-making power that will allow a future Minister to add other groups into that process. I don’t intend to do that at this point, because I want Social Care Wales to be able to concentrate on the things that it’s already being asked to do through the Bill, but, just as there are services, extra care, day services and advocacy, which we know are towards the top of the list, then I’m very well aware of the case that has been made, for example, for domiciliary care workers to be registered, for care-home workers in adult settings to be registered, for inspectors to be registered.
Pan holwyd y Gweinidog ymhellach am staff gofal preswyl mewn cartrefi gofal i oedolion (nad oes angen iddynt gofrestru), a’r gwahaniaeth rhwng gweithwyr gofal plant preswyl (sy’n gorfod cofrestru); dywedodd y byddai hyn ar y rhestr fer o flaenoriaethu posibl). Fodd bynnag, dywedodd nad dyma fyddai ei brif flaenoriaeth ef yn bersonol gan fod pobl eraill yn gwylio gweithwyr gofal cymdeithasol wrth eu gwaith mewn lleoliadau gofal preswyl. Nododd y Gweinidog mai’r grŵp y byddai ef yn rhoi blaenoriaeth iddo’n bersonol fyddai gweithwyr gofal cartref, gan eu bod yn gweithio heb unrhyw fath o oruchwyliaeth yng nghartrefi pobl. Aeth rhagddo i esbonio pam roedd yn credu bod gwahaniaeth rhwng cofrestru gweithwyr gofal mewn cartrefi preswyl i oedolion a chartrefi preswyl i blant.
There is, I think, a different distinction to be drawn between children’s homes and adult social care homes, […] the sad history tells us that children’s homes tend to attract people to work there whose conduct in the discharge of their duties isn’t what we would like it to be. So, you know, there’s a vulnerable group of people, and it can attract people who trade on that vulnerability. There’s no real evidence that the adult care home sector attracts people who have abuse as part of their purpose in being there. It may attract people who are not good enough at the job and who are careless in the way that they go about things, but it isn’t abuse in the sense that we’ve come to recognise it in children’s homes.
Bydd y trafodaethau a’r dadleuon yn parhau mewn perthynas â’r Bil. Mae ymgynghoriad y Pwyllgor yn dal ar agor; y dyddiad cau ar gyfer tystiolaeth ysgrifenedig yw 24 Ebrill 2015. Bydd y dystiolaeth lafar yn parhau dros y misoedd nesaf. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan y Bil.