Etholiad Cyffredinol 2015: y frwydr yng Nghymru

Cyhoeddwyd 24/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

24 Ebrill 2015 Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cynhelir Etholiad Cyffredinol y DU ddydd Iau 7 Mai 2015. Mae’r graffeg gwybodaeth isod yn rhoi rhai ffeithiau a ffigurau allweddol. [caption id="attachment_2878" align="alignnone" width="682"]Ffeithlun sy’n dangos rhai ffeithiau a ffigurau allweddol am yr Etholiad Cyffredinol yng Nghymru ac a ddisgrifir yn y testun. Ffeithlun gan David Millett, Y Gwasanaeth Ymchwil[/caption] Mae wyth Aelod Seneddol sydd wedi bod yn aelodau ers cryn amser yn rhoi’r gorau iddi felly, hyd yn oed os na fydd unrhyw seddi yn newid dwylo rhwng y pleidiau, bydd wynebau newydd yn cynrychioli seddi Cymru yn San Steffan. Mae tri Aelod Cynulliad yn ceisio am seddi seneddol. Os cânt eu hethol i San Steffan, gallent aros yn Aelodau Cynulliad tan etholiad nesaf y Cynulliad ym mis Mai 2016. Fodd bynnag, ni fyddent yn gallu parhau ar ôl y dyddiad hwnnw gan fod cael dau fandad wedi cael ei wahardd o dan Ddeddf Cymru 2014. Pwrpas y cyfnod 12 mis o oedi yw er mwyn atal gorfod cael isetholiad mor agos at etholiad y Cynulliad. Cafodd y tri Aelod dan sylw eu hethol drwy’r rhestr ranbarthol felly mae’n bosibl, os cânt eu hethol, y byddant yn ymddiswyddo’n syth fel Aelod Cynulliad ac yn cael eu disodli gan y person nesaf ar restr y blaid. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg