Cynigion drafft ar fwyd a phorthiant a addaswyd yn enetig: gwella dewis democrataidd yn y broses awdurdodi?

Cyhoeddwyd 27/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

27 Ebrill 2015 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_2885" align="alignright" width="682"]Delwedd o Flickr gan Amio Cajander. Trwyddedwyd o dan Creative Commons. Delwedd o adeilad Berlaymont, ym Mrwsel Delwedd o Flickr gan Amio Cajander. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.
Delwedd o adeilad Berlaymont, ym Mrwsel[/caption] Y cynnig draft Ar 22 Ebrill, cyflwynodd y Comisiwn Ewropeaidd gynigion i ddiwygio'r broses awdurdodi ar gyfer bwyd a phorthiant addaswyd yn enetig (GM), sy'n diwygio rheoliad 1829/2003. Dywedodd Jean Claude Juncker, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, mai dyma un o'r meysydd blaenoriaeth ar gyfer ei fandad, ac mae'r cynnig, felly, wedi bod yn un y bu cryn ddisgwyl amdano.  Mae'r cynigion drafft yn rhoi hyblygrwydd i ganiatáu i aelod wladwriaethau unigol gyfyngu neu wahardd bwyd a phorthiant GM (fel ffa soy ac India-corn) yn eu tiriogaethau eu hunain. Byddai hyn yn gymwys ar sail ar wahân i iechyd a'r amgylchedd, sef elfennau a gaiff eu hasesu gan EFSA (sef corff gwarchod diogelwch bwyd yr UE) tra'n sicrhau bod y mesurau yn unol â'r rheolau ar y farchnad fewnol a fframwaith sefydliadol yr UE. Mae'r diwygiadau yn rhedeg yn gyfochrog â'r diwygiad diweddar o'r broses awdurdod GMO ar gyfer trin tir sydd wedi rhoi hawliau cyfreithiol cryfach i aelod-wladwriaethau i wahardd tyfu GMOs ar eu tiriogaethau, hyd yn oed os cânt eu cymeradwyo ar lefel yr UE. O dan y system bresennol, caiff bwyd a phorthiant a addaswyd yn enetig eu cymeradwyo ar lefel yr UE. Mae'n bosibl i'r cynhyrchion hyn gael eu cymeradwyo hyd yn oed os nad yw mwyafrif trwm o gynrychiolwyr aelod-wladwriaeth o blaid awdurdodiad yn y Cyngor, gan y gall y Comisiwn awdurdodi'r cynnyrch pan nad oes mwyafrif. Safbwynt y Comisiwn yw bod angen diwygio'r fframwaith cyfreithiol presennol ar gyfer gwneud penderfyniadau ar fwyd a phorthiant GM gan nad yw'n caniatáu ar gyfer ystyried pryderon unigol aelod-wladwriaethau. Mae'r Comisiwn yn nodi bod y diwygiad, fel y'i cynigir, er budd 'dewis democrataidd'. O dan y cynigion drafft, byddai pob aelod-wladwriaeth sydd am wahardd cynnyrch o'r fath yn gorfod cyfiawnhau hynny fesul achos gan 'gymryd i ystyriaeth y GMO [organeb a addaswyd yn enetig] o dan sylw, y math o fesur a ragwelir ac amgylchiadau penodol ar lefel genedlaethol neu ranbarthol a allai gyfiawnhau'r fath gam. Mae'n rhaid i unrhyw fesurau a fabwysiedir gan aelod-wladwriaethau fod wedi eu rhesymu, ar sail gymhellol, ac maen rhaid iddynt barchu egwyddorion cymesuredd a gwrth-wahaniaethu. Mae'n bwysig pwysleisio bod yr UE yn dibynnu ar fewnforion am 75% o'i borthiant anifeiliaid gyda 90% o'i bwydydd cyfansawdd yn cynnwys deunyddiau a addaswyd yn enetig (Agrafacts-Rhif.28-15). Felly gall y cynnig newydd effeithio ar fasnachu bwyd a phorthiant yn ryngwladol. Ymatebion Mae partneriaid Cadwyn Fwyd a Phorthiant yr UE, sy'n cynnwys Copa-Cogeca, sef corff amaeth yr UE, a chyrff sy'n cynrychioli gwneuthyrwyr, melinwyr a diwydiant biotechnoleg bwyd a phoriant yr UE, wedi gofyn i'r Comisiwn ailystyried ei gynlluniau drafft i ailwladoli'r broses awdurdodi GM. Maent yn nodi y byddai'r cynigion yn gwyrdroi cyflawniadau economaidd yr Undeb Tollau Ewropeaidd a'r farchnad sengl. Dadleua'r glymblaid mai gweithredu'r ddeddfwriaeth bresennol yn iawn ddylai fod yn brif flaenoriaeth i'r Comisiwn cyn dechrau ystyried ymhellach newid y weithdrefn bresennol ar gyfer awdurdodi'r farchnad.' Wrth siarad ar ran Partneriaid Cadwyn Fwyd a Phorthiant yr UE, rhybuddiodd Pekka Pesonen, Ysgrifennydd Cyffredinol Copa-Cogeca:
[the proposals] will severely jeopardize the Internal Market for food and feed products, leading to significant job losses and lower investment in the agri-food chain in “opt-out” countries. This would cause severe distortions of competition for all EU agri-food chain partners.
Dywedodd y glymblaid nad yw'r polisi'n dilyn yn rhesymegol o'r sefyllf'an ymwneud â thrin GM oherwydd, er mai ychydig iawn o gnydau GM a gaiff eu tyfu yn yr UE ar hyn o bryd, mae marchnad flynyddol fawr eisoes mewn mewnforion GM. Hyd yma, mae 58 o gynhyrchion bwyd a phorthiant wedi'u hawdurdodi yn yr UE, yn bennaf ar gyfer porthiant anifeiliaid. Mae'r UE yn mewnforio dros 33 miliwn tunnell o ffa soya a addaswyd yn enetig, sy'n werth mwy na €12 biliwn (£8.6 biliwn) bob blwyddyn. Mae ymgyrchwyr gwrth-GM wedi mynegi pryder hefyd o ran bwriad y Comisiwn. Maent yn ofni y byddai gwaharddiad ar fewnforio cnydau GM yn agored i heriau cyfreithiol – boed hynny yn Llys Cyfiawnder Ewrop neu Sefydliad Masnach y Byd – a gallai hynny fwrw amheuaeth ar y cyfaddawd ar dyfu cnydau GM o fewn yr UE. Mae Mute Schimpf, ymgyrchydd ar ran Cyfeillion y Ddaear, wedi cyhuddo Jean Claude Juncker, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, o dorri ymrwymiad i wneud y broses o wneud penderfyniadau yn fwy democrataidd, gan ddweud bod ei gyfraith ddrafft newydd yn llen fwg sy'n methu ag ymdrin â'r diffyg democrataidd sydd wrth wraidd y ddadl ar fwydydd GM. Mae'r Agrafacts (Rhif.28-15) yn nodi bod llysgenhadon pedwar o bartneriaid masnachu allweddol yr UE, sef yr Unol Daleithiau, Canada, yr Ariannin a Brasil, wedi mynegi 'pryderon difrifol' am gynlluniau'r Comisiwn i ddiwygio'r broses o gymeradwyo mewnforion GM ag ofnau y byddai'n cael effaith uniongyrchol ar fasnach ryngwladol o ran porthiant a bwyd, gan achosi problemau masnachu. Mae swyddogion Cyfarwyddiaeth Gyffredinol SANTE wedi dweud y byddai plismona unrhyw gyfyngiadau yn her, gan nodi mai'r gwledydd a fyddai'n ysgogi gwaharddiad fyddai'n gyfrifol am ei orfodi (Agrafacts Rhif.31-15). Dywedodd Dr Helen Ferrier, Prif gynghorydd gwyddoniaeth a materion rheoliadol yr NFU:
‘Pig and poultry sectors are especially vulnerable, where feed is 55-65% of cost of production. Byddai unrhyw gynnydd mewn pris porthiant rhoi straen sylweddol ar gynhyrchwyr bwyd a byddai'n peryglu gwneud yr UE yn anghystadleuol. '
Y camau nesaf Caiff y cynnig ei anfon at Senedd Ewrop a'r Cyngor yn ogystal ag at y Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol a Phwyllgor y Rhanbarthau, a fydd yn ei ystyried drwy gyfrwng y weithdrefn ddeddfwriaethol arferol. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg