Cynllunio’r gweithlu gofal sylfaenol yng Nghymru

29 Ebrill 2015

Erthygl gan Shane Doheny, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r ystod o broffesiynau a gwasanaethau a ddarperir ym maes gofal sylfaenol yn newid. O blith y proffesiynau hyn, rôl y meddyg teulu a gaiff y sylw mwyaf. Er bod y meddyg teulu yn chwarae rhan sylweddol mewn gofal sylfaenol, mae cynllunio’r gweithlu hwn yn golygu meddwl am fwy na’r proffesiwn hwn yn unig. Os mai’r bwriad yw darparu mwy o ofal iechyd yn y gymuned, yna mae’n rhaid rhoi sylw i gynllunio gweithlu eang yn y gymuned.

Yn dilyn cyhoeddi Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol adolygiad o weithlu’r GIG, a gwaith i ddatblygu Cynllun Gweithlu Gofal Sylfaenol. Nod y Cynllun:

[This] will tackle a number of the immediate issues faced by the primary care workforce, including what can be done to support GP recruitment and retention and the role of advanced practitioners.

Llun o Flickr gan Connor Tarter. Trwydded Creative Commons

Llun o Flickr gan Connor Tarter. Trwydded Creative Commons

Yn gynnar yn 2015, cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Ymchwiliad i’r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru, gan wneud argymhellion o ran hyfforddiant, recriwtio a chadw meddygon teulu, a derbyniodd y Gweinidog bob un ohonynt.

Roedd yr Adolygiad o Fuddsoddi mewn Addysg i Weithwyr Iechyd Proffesiynol yn galw am weledigaeth strategol ar ei newydd wedd ar gyfer GIG Cymru ac yn galw am greu un corff i gwmpasu cyllid, comisiynu a thegwch y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant. Mae’r adolygiad hwn yn cydnabod y cymhlethdodau sy’n ein hwynebu wrth gynllunio gweithlu’r dyfodol. Wrth groesawu’r adroddiad, agorodd y Gweinidog ei ganfyddiadau i adolygiad ehangach.

Beth wyddom, felly, am anghenion gweithlu darparwyr gofal sylfaenol y dyfodol?

Beth yw cynllunio gweithlu?

Cynllunio gweithlu yw ceisio rhagweld ffurf a strwythur y GIG yn y dyfodol. Mae’n ymwneud â nodi’r pwysau a ddaw ar wasanaethau’r GIG, a chynllunio sut y gall y gweithlu ymateb i’r newidiadau hyn.

Mae’r Centre for Workforce Intelligence (CfWI) yn Lloegr wedi datblygu Fframwaith Cadarn ar gyfer Cynllunio Gweithlu. Mae’r fframwaith hwn yn golygu canfod y newidiadau sy’n debygol o lywio gwasanaethau yn y dyfodol, a meddwl sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y sefydliad drwy ystyried gwahanol sefyllfaoedd. Yna, mae’r Ganolfan yn argymell modelu’r galw ar y gweithlu a’r nifer sydd ar gael ar draws y gwahanol sefyllfaoedd, gan ddadansoddi’r effaith y gall penderfyniadau polisi ei chael ar y sefyllfaoedd hyn.

Mae cynllunio gweithlu yn rhan greiddiol o strategaeth GIG Llywodraeth Cymru, ac mae GIG Cymru wedi datblygu gwahanol offer ac adnoddau, sy’n gwneud defnydd o wahanol sefydliadau gan gynnwys y Ganolfan.

Dyfodol Ymarfer Meddygol Cyffredinol

Yn ôl Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, bydd angen mwy o weithwyr medrus ar y GIG yn 2022, sydd wedi cael hyfforddiant gyffredinol, ynghyd â mwy o amrywiaeth, i allu gofalu am gleifion yn eu cartrefi a’u cymunedau, o fewn oriau arferol a’r tu allan. Cred y Coleg Brenhinol y bydd Meddygon Teulu yn y GIG yn 2022:

  • yn parhau’n ganolog, ond o fewn cyd-destun anghenion newidiol y boblogaeth. yn chwarae mwy o ran wrth atal clefydau, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, a datblygu gwydnwch cymunedol.
  • angen ‘sgiliau cyffredinol arbenigol’ i reoli cleifion sydd â chyflyrau cronig. mewn gwell sefyllfa ‘i strwythuro cynlluniau gofal sy’n ystyried amodau unigolion ac amlafiachusrwydd’.
  • yn treulio mwy o amser cydgysylltu gofal cymhleth drwy arwain timau amlddisgyblaeth.
  • datblygu gwell dealltwriaeth o boblogaeth eu practis er mwyn gallu cynllunio eu gweithlu a gwella ansawdd eu gwasanaeth.
  • datblygu sgiliau ychwanegol ar gyfer rolau estynedig mewn meysydd gwaith sy’n galw am arddull cyffredinol, a byddant yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill sydd â ‘gwell hyfforddiant cyffredinol’.

Mae hyn i gyd yn golygu y bydd y meddyg teulu yn gweithio mewn system gofal sylfaenol sy’n ymgysylltu mwy â’r gymuned ac yn trin poblogaeth estynedig o bobl hŷn sy’n dioddef o gyflyrau cronig.

Cyhoeddodd Ymddiriedolaeth Nuffield adroddiad yn archwilio sut mae practisau gofal sylfaenol yn newid i ymdrin â’r pwysau ar y GIG. Roedd yr adroddiad yn cadarnhau pa mor bwysig yw ymestyn cwmpas a graddfa gofal sylfaenol, ond ni chanfu unrhyw reswm dros gefnogi unrhyw un model o sut i wneud hyn.

Cynlluniau ar gyfer gweithlu gofal sylfaenol y dyfodol

Yn ôl adroddiad Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ym mis Ionawr 2015, mae GIG Cymru yn wynebu anhawster recriwtio staff meddygol a deintyddol.

Fodd bynnag, mae angen i gynlluniau ar gyfer gweithlu gofal sylfaenol gynnwys llawer o broffesiynau eraill.

Ochr yn ochr â meddygon teulu, mae staff practisau cyffredinol cynnwys nyrsys practis, gofalwyr cleifion uniongyrchol, fferyllwyr a staff clerigol a gweinyddol. Mae rhai practisau yn cynnwys cyswllt meddyg neu therapydd galwedigaethol.

Disgwylir i feddygon teulu, hefyd, weithio gyda staff a gyflogir gan ysbytai. Mae’r rhain yn cynnwys nyrsys cymunedol ac ardal, bydwragedd, ymwelwyr iechyd, timau iechyd meddwl, timau hybu iechyd, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a phodiatryddion.

Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn chwarae rhan weithredol ym maes gofal sylfaenol fel y mae’r gwaith cludiant, gofal a chymorth a ddarperir gan y trydydd sector.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i ddatblygu’r gweithlu gofal sylfaenol presennol i adeiladu gweithlu newydd ac integredig y dyfodol. I adeiladu’r gweithlu hwn, mae angen gwybodaeth am y gweithlu presennol, a sefyllfaoedd yn dangos y gwasanaeth a’r anghenion proffesiynol y bydd gofal sylfaenol y dyfodol yn ymateb iddynt. Fel y nodir yn adroddiad Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn ddiweddar:

Ychydig o wybodaeth ganolog sydd ar gael am y gweithlu gofal sylfaenol. […]Mae rhywfaint o waith wedi cael ei wneud i edrych ar y sylfaen dystiolaeth sy’n sail i fodelau amgen ar gyfer y gweithlu ym maes gofal sylfaenol […].Fodd bynnag gan nad yw’r ymchwil hwn wedi’i gynnal ar raddfa helaeth, rhaid bod yn ochelgar wrth drin unrhyw gasgliadau.

Mae’n amlwg fod angen inni wybod mwy am sut y gall yr ystod lawn o weithwyr gofal sylfaenol proffesiynol fynd i’r afael â phwysau newidiol, os ydym am ddatblygu cynlluniau cadarn ar gyfer gweithlu gofal sylfaenol y dyfodol.