Addysg heblaw yn yr ysgol

Cyhoeddwyd 12/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

15 Mai 2015 Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_2963" align="alignnone" width="300"]Llun yw hwn o rywun yn cerdded allan o ystafell. Llun: o Flickr gan woodleywonderworks. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Yn y Cyfarfod Llawn yfory, mae gan Suzy Davies AC ddadl fer ar ddisgyblion sy'n cael Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS). Mae'r term hwn yn cwmpasu amrywiaeth o amgylchiadau pan fo disgyblion y cael addysg y tu allan i leoliad ysgol, fel unedau cyfeirio disgyblion, llwybrau unigol a darpariaeth 14-19, darpariaeth y sector annibynnol a gwirfoddol ac addysg yn y cartref. Mae EOTAS yn cyfeirio at addysg a ddarperir gan yr awdurdod lleol, ac ar y cyfan, derbynnir nad yw'r term yn cynnwys addysg ddewisol yn y cartref a ddarperir gan rieni.

Gwnaed gwaith craffu ar bolisïau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Bresenoldeb ac Ymddygiad, ac yn yr adroddiad dilynol a gyhoeddwyd ym mis Awst 2013. Roedd y dystiolaeth a gasglwyd gan y Pwyllgor yn awgrymu bod prinder difrifol o ddarpariaeth EOTAS yng Nghymru, a bod angen gwella'r ddarpariaeth sydd ar gael yn sylweddol. Cyfeiriodd y Comisiynydd ar y pryd at ddarllun llwm o ran yr addysg a ddarperir i blant a phobl ifanc heblaw yn yr ysgol. Un o argymhellion y Pwyllgor oedd y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda chonsortia rhanbarthol a rhanddeiliaid allweddol eraill i ystyried dichonoldeb datblygu a chomisiynu darpariaeth EOTAS yn rhanbarthol, ac o bosibl ar sail Cymru gyfan.

Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cynllun gweithredu yn 2011 i wella darpariaeth EOTAS. Roedd wedi comisiynu gwaith ymchwil gan Brifysgol Caeredin hefyd i edrych ar y broses o wahardd disgyblion o'r ysgol yng Nghymru a'r gwaith o weithredu, cynllunio a chomisiynu darpariaeth addysg i blant a phobl ifanc sy'n cael addysg y tu allan i leoliad yr ysgol. Cafodd yr adroddiad dilynol: Evaluation of education provision for children and young people educated outside the school setting, ei gyhoeddi ym mis Hydref 2013. Roedd yn nodi:

  • bod gan bron 90 y cant o ddisgyblion a oedd yn cael darpariaeth EOTAS anghenion arbennig;
  • bod bron 70 y cant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim;
  • bod 75 y cant yn fechgyn; a
  • bod 40 y cant, sef y grŵp mwyaf, yn cael eu haddysgu mewn unedau cyfeirio disgyblion.
Un o ganfyddiadau'r adroddiad oedd bod y ddarpariaeth EOTAS yn amrywio'n fawr o un awdurdod i'r nesaf a bod nifer y lleoedd sydd ar gael, a natur a diben y ddarpariaeth, yn amrywio rhwng awdurdodau. Er enghraifft, roedd darpariaeth addysg yn amrywio o un awdurdod lleol i'r nesaf o ddwy awr y dydd i'r ddarpariaeth lawn o 25 awr yr wythnos, ond roedd y rhan fwyaf o'r awdurdodau'n symud at gynnig 25 awr yr wythnos ar gyfer gwaharddiadau cyfnod penodol mwy hirdymor, gwaharddiadau parhaol ac addysg EOTAS yn gyffredinol.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i ganfyddiadau'r adolygiad gan ddweud iddi 'nodi lle y mae modd gwella'r system' a bod yr adroddiad yn 'darparu meincnod pwysig ar gyfer y ddarpariaeth EOTAS'. Roedd yr adroddiad yn cynnwys 22 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, a derbyniodd y Gweinidog 18 ohonynt, naill ai'n llawn neu'n rhannol. Mewn diweddariad pellach ym mis Hydref 2014, cyhoeddodd y Gweinidog y byddai Estyn, fel rhan o'i gylch gwaith ar gyfer 2015-16, yn cynnal adolygiad i fapio'r ddarpariaeth EOTAS ledled Cymru ac adolygu pa mor effeithiol y mae awdurdodau lleol yn rheoli'r ddarpariaeth.

Mae darpariaeth EOTAS yn parhau i fod yn destun diddordeb a gwaith craffu, ac ym mis Mai 2014, cyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru adroddiad am y cymorth a ddarperir i blant a phobl ifanc mewn unedau cyfeirio disgyblion.

View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg