Na i 'gyffuriau penfeddwol cyfreithlon'! Mynd i'r afael â sylweddau seicoweithredol newydd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 12/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

12 Mai 2015 Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cafodd sylweddau seicoweithredol newydd (NPS) eu cydnabod fel bygythiad sy'n dod i'r amlwg yn dilyn cynnydd cyflym yn y defnydd o'r cyffur meffedron (meow meow, m-cat) yn 2009. Gan eu bod ar gael yn eang drwy'r rhyngrwyd ac ar y stryd fawr, credir mai'r prif ffactorau yn y defnydd cynyddol o'r sylweddau hyn yw'r ffaith eu bod ar gael mor rhwydd, ac am bris isel a phurdeb uchel o bosibl, o gymharu â chyffuriau anghyfreithlon. [caption id="attachment_1446" align="alignright" width="300"]Llun: o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons Llun: o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Mae sylweddau seicoweithredol newydd, y cyfeirir atynt yn gyffredin fel 'cyffuriau penfeddwol cyfreithlon', yn gyffuriau sydd wedi cael eu syntheseiddio i gynhyrchu'r un effeithiau â chyffuriau anghyfreithlon, neu effeithiau tebyg. Nid yw sylweddau seicoweithredol newydd yn cael eu rheoli'n awtomatig o dan ddeddfwriaeth cyffuriau (yn y DU, Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971) gan eu bod newydd eu creu a gall eu cyfansoddiad cemegol fod ychydig yn wahanol i sylweddau sydd wedi eu gwahardd. Mae pryder sylweddol bod camsyniad eu bod yn ddiogel gan eu bod yn cael eu hystyried yn 'gyfreithlon'. Nid yw defnyddwyr yn aml yn ymwybodol o gynnwys gwirioneddol y cyffur y maent yn ei gymryd, y cryfder a'r sgil-effeithiau sydd yn anodd eu rhagweld. Ymchwil gyfyngedig a fu i'r effeithiau, yn enwedig yr effeithiau hirdymor o gymryd y cyffuriau hyn. Yn ogystal, canfuwyd fod rhai sylweddau seicoweithredol newydd yn cynnwys sylweddau sydd eu hunain yn anghyfreithlon. Roedd tystiolaeth a gafodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad ar gyfer ei ymchwiliad diweddar i sylweddau seicoweithredol newydd  yn rhoi ar ddeall bod 'cyffuriau penfeddwol cyfreithlon' yn gamenw peryglus, a bod angen gwneud rhagor o waith i godi ymwybyddiaeth o'r niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd. Mae nifer o argymhellion y Pwyllgor yn canolbwyntio ar gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol o sylweddau seicoweithredol newydd, gan gynnwys sicrhau agwedd fwy cyson tuag at addysg cyffuriau mewn ysgolion, a darparu gwybodaeth wedi'i theilwra i rieni. Gall y defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd fod yn isel yn gyffredinol ac yn gysylltiedig â llai o niwed o gymharu â chyffuriau anghyfreithlon. Fodd bynnag, nid yw maint y broblem gyda sylweddau seicoweithredol newydd yn cael ei ddeall yn llawn gan fod diffyg data swyddogol ar gael i ddarparu darlun cywir. Mae'n bosibl nad oes digon o adroddiadau am y niwed a achosir gan gyffuriau penfeddwol cyfreithlon - o ystyried yr anghysondeb o ran cynhwysion er enghraifft, efallai nad yw defnyddwyr na gweithwyr iechyd proffesiynol yn gwybod pa sylwedd a achosodd adwaith andwyol. Mae nifer o 'systemau rhybuddio cynnar' ar waith i gasglu, profi ac amlinellu sylweddau newydd sydd o gwmpas. Yng Nghymru, er enghraifft, sefydlwyd y prosiect WEDINOS  ym mis Hydref 2013. Heb ddealltwriaeth well o gyffredinolrwydd a phatrymau defnydd fodd bynnag, mae cynllunio gwasanaethau priodol ar gyfer defnyddwyr sylweddau seicoweithredol newydd yn parhau i fod yn her. Mae adroddiad diweddar gan yr elusen DrugScope yn nodi mai cymharol ychydig o bobl sy'n dod i wasanaethau trin gan nodi sylweddau seicoweithredol newydd fel eu prif broblem cyffuriau - 'Fodd bynnag, gall hyn fod yn adlewyrchiad o'r ffordd y mae'r gwasanaethau wedi eu sefydlu.' Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn argymell bod gwaith brys yn cael ei wneud i sefydlu dulliau effeithiol o fesur y defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd ymysg y boblogaeth. Mae  strategaeth camddefnyddio sylweddau Cymru  Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio ar faterion sy'n croesi ffiniau meysydd cyfrifoldeb sydd wedi'u datganoli a heb eu datganoli - fel deddfwriaeth camddefnyddio cyffuriau a gweithgareddau gorfodi, er mwyn mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn effeithiol. Er mwyn mynd i'r afael â chyflenwi a masnachu sylweddau seicoweithredol newydd, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ym mis Hydref 2014 y byddai'n ymchwilio i ddichonoldeb gwaharddiad ledled y DU ar werthu sylweddau seicoweithredol newydd, gan dargedu siopau arbennig ar y stryd fawr (head shops) a gwefannau sy'n seiliedig yn y DU. Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn croesawu hyn, ond mae'n pwysleisio na fydd dulliau deddfwriaethol yn unig yn ddigon. Mae'n amlwg nad oes unrhyw 'fwled arian'. Bydd dull partneriaeth, gydlynol sy'n cynnwys yr holl asiantaethau a gwasanaethau perthnasol, yn allweddol er mwyn mynd i'r afael â'r hyn a all fod yn broblem sy'n tyfu - ond sy'n dal i fod yn gudd i ryw raddau - yng Nghymru a ledled y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r Swyddfa Gartref hefyd wedi ysgrifennu at y Pwyllgor, gan groesawu ei waith ac yn cefnogi pob un o'r 14 argymhelliad. Bydd adroddiad y Pwyllgor yn cael ei drafod yn y Cynulliad ar  13 Mai 2015. Lincs: