Cyhoeddi Papur Briffio Newydd ar y Farchnad Lafur gan y Gwasanaeth Ymchwil

Cyhoeddwyd 13/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

13 Mai 2015 Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae'r Gwasanaeth Ymchwil wedi adnewyddu (ac ailenwi) ein papur briffio misol ynghylch diweithdra fel ei fod bellach yn cwmpasu'r farchnad lafur yn ehangach. Yn ogystal ag edrych ar y prif ffigurau ar gyfer diweithdra, mae'n ein galluogi i ddadansoddi ystod ehangach o ddata nag o'r blaen. Mae'r papur briffio ar y farchnad lafur yn cynnwys y data diweddaraf ynghylch pobl mewn cyflogaeth, a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat, a phobl nad ydynt yn gweithio nac yn chwilio am waith (economaidd anweithgar). Bellach mae’n cynnwys mwy o wybodaeth ar lefel etholaethol hefyd - a gallwch ddefnyddio ein mapiau rhyngweithiol ar ein tudalen Cymorth Etholaeth eu newydd wedd i weld sut y mae diweithdra wedi newid dros amser mewn etholaeth. Dyma flas ar y cynnwys newydd i chi:
  • O holl wledydd y Deyrnas Unedig, oedd Cymru â'r gyfradd uchaf o ddiweithdra yn ôl yr ILO rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2015, sef 6.7%;
  • Roedd gan 69.4% of bobl 16-64 oed yng Nghymru waith rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2015. Fodd bynnag, mae’r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl o oedran gweithio yng Nghymru wedi gostwng dros y llynedd diwethaf;
  • Roedd gan 78.3% o bobl 16-64 oed yn Brycheiniog a Sir Faesyfed waith rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2014, y gyfradd uchaf o’r etholaethau yng Nghymru. Rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2014, roedd Sir Drefaldwyn y gyfradd diweithdra ILO isaf, sef 2.4%.
Rydym hefyd wedi lansio graffeg gwybodaeth sy'n dangos prif bwyntiau'r papur briffio, a chaiff hwn ei gyhoeddi bob mis cyn y papur briffio llawn.Ffeithlun sy'n dangos y prif ffigurau ar gyfer diweithdra yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2015