Beth mwy gellir ei wneud i wella canlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel?

Cyhoeddwyd 15/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

15 Mai 2015 Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_2218" align="alignnone" width="300"]This is a picture of an apple on top of a pile of books Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Ddydd Mercher 20 Mai, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i ganlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel. Mae'r mater hwn wedi denu llawer o ddiddordeb a gwaith craffu, yn y Cynulliad hwn a chyn hynny. Gwyddom hefyd fod mynd i'r afael ag effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Yn ein blog diweddar ar gyflawniad academaidd a'r hawl i brydau ysgol am ddim nodwyd yr ystadegau diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015, a ddangosodd fod y bwlch wedi cau yn y Cyfnod Sylfaen rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt. Mewn cyferbyniad, roedd yr ystadegau'n dangos bod y bwlch yng nghyfnod allweddol 4 wedi lledu am y tro cyntaf ers 2010. Nododd y blog hefyd, er bod perfformiad disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim wedi gwella 4.4 y cant ers pennu'r targed yn 2011/12, bod angen i'w perfformiad gynyddu 9.2 y cant eto dros y tair blynedd nesaf i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru.

Mae adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gwneud 12 argymhelliad ynghylch beth mwy dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud i wella pa mor dda y mae disgyblion sydd â'r hawl i gael prydau ysgol am ddim yn gwneud yn yr ysgol. Ymhlith yr argymhellion mae:

  • Dylai'r Gweinidog adolygu rôl y Cyfnod Sylfaen, a nodi'r rôl honno'n glir, er mwyn sicrhau y gall y Cyfnod Sylfaen gyfrannu at ganlyniadau gwell i blant o deuluoedd incwm isel; [bydd dadl ar y Cyfnod Sylfaen ei hun yn y Cynulliad ddydd Mawrth 19 Mai, gweler ein blog]
  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn sicrhau'r canlyniadau a fwriadwyd ar gyfer disgyblion ac yn sicrhau gwerth am arian;
  • Dylai'r Gweinidog atgyfnerthu'r canllawiau i ysgolion ar godi tâl am weithgareddau sy'n ymwneud ag addysg, a'u gwneud yn gliriach.
Bydd gan Aelodau'r Cynulliad ddiddordeb i glywed ymateb y Gweinidog i'r holl argymhellion. Gwyddom eisoes bod mynd i'r afael ag effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Y cwestiwn yw: a fydd eu polisïau yn darparu'r cynnydd y maent eisiau ar gyfer y grŵp hwn o ddisgyblion. Nododd ein blog diweddar ar raglen Her Ysgolion Cymru Llywodraeth Cymru un o'r dulliau y mae wedi dewis i gyflawni hyn: anelu at wella perfformiad 40 o ysgolion uwchradd Cymru sy'n tanberfformio. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg