Cyfnod yn unig ynteu yma i aros?

Cyhoeddwyd 19/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

19 Mai 2015 Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn heddiw ar adroddiad gwerthuso terfynol y Cyfnod Sylfaen. [caption id="attachment_3009" align="alignright" width="300"]Llun: o Flickr gan Abbey Hambright. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Flickr gan Abbey Hambright. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Beth ydy’r Cyfnod Sylfaen? Cyflwynwyd y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant rhwng 3 a 7 oed yng Nghymru am y tro cyntaf yn 2004/05, cyn ei gyflwyno ledled Cymru yn 2009/10. Roedd adroddiad gwerthuso’r Cyfnod Sylfaen ym mis Ionawr 2015 yn ei ddisgrifio yn ‘bolisi blaenllaw gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar (i blant 3 i 7 oed) yng Nghymru. Gan ddilyn trywydd tra gwahanol i’r dull mwy ffurfiol, seiliedig ar allu oedd yn gysylltiedig â Chwricwlwm Cenedlaethol blaenorol Cyfnod Allweddol 1, mae’n hyrwyddo dull dysgu ac addysgu datblygol, arbrofol, sy’n seiliedig ar chwarae. Sut mae’r Cyfnod Sylfaen wedi cael ei werthuso? Comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ac iddo bedwar prif nod:
  • gwerthuso pa mor dda y caiff y Cyfnod Sylfaen ei roi ar waith, ac amlygu ffyrdd y gellir gwella;
  • gwerthuso beth fu effaith y Cyfnod Sylfaen hyd yn hyn;
  • asesu gwerth am arian y Cyfnod Sylfaen;
  • rhoi fframwaith gwerthuso ar waith ar gyfer olrhain allbynnau a chanlyniadau’r Cyfnod Sylfaen yn y dyfodol.
Mae cyfanswm o 19 adroddiad wedi cael eu cyhoeddi fel rhan o’r holl broses werthuso, ac mae modd eu gweld ar y dudalen hon ar wefan Llywodraeth Cymru. Beth oedd casgliadau’r adroddiad gwerthuso terfynol? Mae rhai o brif gasgliadau crynodeb gweithredol yr adroddiad fel a ganlyn:
  • Mae disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen yn fwy tebygol o gyflawni Lefel 4 neu uwch yn Saesneg Cyfnod Allweddol 2, wedi’i seilio ar y tair carfan gyntaf o fwy na 1,500 o ddisgyblion mewn ysgolion Peilot sydd wedi cyrraedd diwedd Cyfnod Allweddol 2 bellach;
  • Mae’r Cyfnod Sylfaen yn gysylltiedig â gwelliannau mewn presenoldeb ysgol cyffredinol;
  • Mae’r rhan fwyaf o’r ymarferwyr a’r rhanddeiliaid allweddol a gyfwelwyd ac a holwyd trwy arolygon yn credu bod y Cyfnod Sylfaen yn cael effaith gadarnhaol ar blant a dysgu o ran ymddygiad, lles ac agweddau at ddysgu;
  • Mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn credu bod y Cyfnod Sylfaen wedi arwain at welliannau mewn llythrennedd (Cymraeg a Saesneg) a rhifedd.
A ydy’r Cyfnod Sylfaen wedi lleihau anghydraddoldeb mewn cyrhaeddiad addysgol? Gwyddom fod mynd i’r afael ag effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae ein blog diweddar yn dangos sut y mae canlyniadau addysgol disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi bod yn destun llawer o ddiddordeb a gwaith craffu, yn y Cynulliad hwn a chyn hynny. Dywed crynodeb gweithredol yr adroddiad ar y Cyfnod Sylfaen fod cysylltiad rhyngddo â chyrhaeddiad gwell ymhlith disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ond nid yw’r gwerthusiad wedi canfod tystiolaeth sy’n awgrymu ei fod yn cael effaith sylweddol ar leihau anghydraddoldeb mewn cyrhaeddiad addysgol ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2. Fodd bynnag, mae’r adroddiad ei hun yn dangos mai cymysg yw barn ymarferwyr a phenaethiaid ynghylch sut y mae’r Cyfnod Sylfaen wedi cael effaith ar gyrhaeddiad disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim. Dywed paragraff 6.17 o’r adroddiad:
Hyd yn hyn, nid yw’r Cyfnod Sylfaen yn gysylltiedig ag unrhyw newidiadau arwyddocaol yn y gwahaniaethau mewn canlyniadau addysgol rhwng disgyblion ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 ar sail eu rhyw, eu hethnigrwydd neu eu cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim. Yn wir, mae’r gwerthusiad yn darganfod tystiolaeth sy’n awgrymu bod rhai o’r anghydraddoldebau strwythurol hyn mewn cyrhaeddiad yn gwaethygu, nid yn gwella, o ganlyniad i’r Cyfnod Sylfaen.
Beth nesaf i’r Cyfnod Sylfaen? Mae’r gwerthusiad yn nodi bod cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen wedi ‘wedi arwain at welliannau cyffredinol yng nghyfranogiad, lles a chyflawniad addysgol plant. Yn ogystal, gallai’r gwelliannau hyn arwain at hyd yn oed mwy o lwyddiant addysgol wrth i’r plant dyfu.’ Mae’r adroddiad yn mynd yn ei flaen i ‘annog Llywodraeth Cymru i barhau i ddatblygu a gwella’r Cyfnod Sylfaen’ ac i ‘annog pob ysgol a lleoliad nas cynhelir a ariennir i wneud mwy i weithredu addysgeg a chwricwlwm y Cyfnod Sylfaen’. Mae’r adroddiad yn gwneud 29 o argymhellion sy’n berthnasol i nifer o randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Estyn, y consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, penaethiaid, rheolwyr lleoliadau nas cynhelir, llywodraethwyr ac ymarferwyr. Yn y dyfodol, mae’n bosibl y bydd y sylw’n troi at sut i gyfuno addysgeg newydd y Cyfnod Sylfaen gyda Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd statudol Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad gwerthuso yn argymell bod ‘angen rhoi cyngor ymarferol i ymarferwyr ar sut i weithredu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd o fewn y Cyfnod Sylfaen’. Dywed hefyd, yn arbennig, bod ‘angen rhoi mwy o bwyslais ar sut y gellir addysgu llythrennedd a rhifedd mewn ystafelloedd dosbarth gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau addysgeg a sut y gall y gwahanol ddulliau hyn ategu ei gilydd’. Roedd Adolygiad Donaldson, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2015, yn cynnwys sawl cyfeiriad at y Cyfnod Sylfaen. Yn yr adroddiad hwnnw, dywed yr Athro Graham Donaldson fod y dystiolaeth o drafodaethau gyda rhanddeiliaid yn dangos bod y rheini’n dal i gefnogi’r Cyfnod Sylfaen a’i fod ymhlith y pethau a grybwyllwyd amlaf gan bobl wrth drafod elfennau gorau addysg yng Nghymru. Dywed Donaldson hefyd fod gan y trefniadau presennol ar gyfer y cwricwlwm yng Nghymru gryfderau amlwg y gellid adeiladu arnynt – a bod yr addysgeg sy’n sail i’r Cyfnod Sylfaen yn un o’r rhain. Tra bo Donaldson yn cefnogi dull y Cyfnod Sylfaen, ac yn benodol y ffocws ar feysydd dysgu yn hytrach na phynciau, mae’n argymell hefyd ‘gontinwwm dysgu’ a thaith glir, ddi-dor, rhwng 3 a 16 oed a fyddai’n diweddu’r arfer o rannu’r cwricwlwm yn Gyfnodau Allweddol. Mae’n bosibl, felly, na fydd y Cyfnod Sylfaen yn cael ei ystyried yn gyfnod ‘ar wahân’ yn y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mlog ‘Pigion’ y Gwasanaeth Ymchwil: Adolygiad Donaldson: ‘Dibenion’ a chynnwys Cwricwlwm Cymru. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg