A yw deddfwriaeth diogelu natur yr UE yn 'addas i'r diben'?

Cyhoeddwyd 22/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

22 Mai 2015 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru Ffotograff o farcud coch mewn glaswelltir Y Gyfarwyddeb Adar (2009/147 /EC)  a'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd (92/43/EC)  yw sail polisi cadwraeth natur yr UE. Mae'r Cyfarwyddebau'n sefydlu cyfundrefnau diogelu llym ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd o bwysigrwydd cadwraethol ledled yr UE. Maent hefyd yn gofyn am ddynodi safleoedd cadwraeth natur ar gyfer y rhywogaethau a'r cynefinoedd a restrir yn eu Hatodiadau. Yn benodol, mae'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn mynnu dynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac mae'r Gyfarwyddeb Adar yn gofyn am ddynodi Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA). Gyda'i gilydd, mae Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn ffurfio Natura 2000, y rhwydwaith ecolegol o safleoedd gwarchodedig. Ar hyn o bryd mae dros 27,000 o safleoedd o fewn y rhwydwaith ledled yr UE.

Gwiriad Ffitrwydd

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn mynd i gynnal 'Gwiriad Ffitrwydd' o'r ddeddfwriaeth hon gan yr UE i ddiogelu natur. Mae hyn yn cynnwys gwerthusiad polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth i asesu a yw'r fframwaith rheoleiddio yn 'addas i'r diben' o ran cyflawni ei amcanion. Mae'r Gwiriad Ffitrwydd yn rhan o Raglen Ffitrwydd a Pherfformiad Rheoleiddiol ehangach y Comisiwn (REFIT). Mae gwiriadau ffitrwydd eisoes wedi'u cynnal ar gyfer deddfwriaeth yr UE yn ymwneud â dŵr croyw a gwastraff. Bydd y Gwiriad Ffitrwydd o gymorth i'r Comisiwn wrth lunio casgliadau polisi ar ddyfodol deddfwriaeth diogelu natur yr UE. Fodd bynnag, mae'n dal i fod yn anhysbys a fydd y Gwiriad Ffitrwydd yn arwain at gynnig deddfwriaethol i adolygu'r ddeddfwriaeth diogelu natur gyfredol. Mae'r mandad ar gyfer y Gwiriad Ffitrwydd, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2014, yn diffinio cwmpas cyffredinol a nod yr ymarfer. Yn y cyd-destun hwn, bydd yn ymchwilio i:
  • Effeithiolrwydd - A gafodd yr amcanion eu cyflawni?
  • Effeithlonrwydd - A ellid cyfiawnhau'r costau a oedd yn gysylltiedig gan y newidiadau a gyflawnwyd?
  • Cydlyniant - A yw'r camau gweithredu'n cyd-fynd â chamau gweithredu eraill neu'n mynd yn groes iddynt?
  • Perthnasedd - A oes angen i'r UE weithredu o hyd?
  • Gwerth ychwanegol yr UE - A wnaeth camau gweithredu'r UE wahaniaeth? Casglu tystiolaeth ac ymgynghori â'r cyhoedd.
Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein i gasglu barn ar y Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd ei lansio gan y Comisiwn ar 30 Ebrill 2015 a bydd yn rhedeg tan 24 Gorffennaf, 2015. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu cynnwys yng Ngwiriad Ffitrwydd y Comisiwn. Mae'r holiadur mewn dwy ran, gyda chyfres gychwynnol o gwestiynau a chwestiynau manylach i ddilyn yn ymchwilio i wahanol agweddau ar y Gwiriad Ffitrwydd. Mae'r ymgynghoriad hwn yn dilyn ymarfer casglu tystiolaeth a ddechreuodd ar ddechrau'r flwyddyn hon lle'r ymgynghorwyd â'r holl Aelod-wladwriaethau a grwpiau o randdeiliaid allweddol dethol. Rhwng mis Ebrill a diwedd mis Mehefin eleni, mae cyfarfodydd hefyd yn cael eu cynnal mewn deg Aelod-wladwriaeth i gasglu tystiolaeth ac ymchwilio'n fanylach iddi, yn benodol, tystiolaeth sy'n ymwneud â chostau a'r beichiau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r Cyfarwyddebau natur. Mae adroddiad y Comisiwn ar Gyflwr Natur yn yr UE, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, hefyd yn darparu tystiolaeth ar gyfer y Gwiriad Ffitrwydd. Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar asesiadau statws cadwraeth Aelod-wladwriaethau o'r mathau o rywogaethau a chynefinoedd sy'n cael eu diogelu gan y Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd. Bydd y farn canol tymor ar y strategaeth Bioamrywiaeth, a ddisgwylir yn ddiweddarach eleni, yn darparu mewnbwn pellach.

Y camau nesaf

  • 24 Gorffennaf 2015- Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein yn dod i ben.
  • Hydref 2015- cynhelir cynhadledd i randdeiliaid ym Mrwsel lle bydd canlyniadau rhagarweiniol yr asesiad deddfwriaeth natur yn cael eu trafod.
  • Diwedd 2015- Mae'r astudiaeth sy'n casglu ac yn asesu tystiolaeth ar gyfer y Gwiriad Ffitrwydd yn mynd rhagddo a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.
  • Yn gynnar yn 2016 - Disgwylir i'r Comisiwn ddrafftio a chyflwyno ei ddogfen Gwirio Ffitrwydd sy'n debygol o fod ar ffurf Dogfen Weithio Staff y Comisiwn.

Ymatebion rhanddeiliaid

Mae nifer o sefydliadau amgylcheddol wedi mynegi pryderon ynglŷn â Gwiriad Ffitrwydd y Comisiwn ac adolygiad posibl o'r ddeddfwriaeth natur bresennol. Mae Coed Cadw wedi codi pryderon y bydd penderfyniad y Comisiwn yn un gwleidyddol. Mae'n ofni y gallai adolygiad ddeddfwriaethol wanhau gwarchodaeth rhywogaethau a chynefinoedd ac yn sgil hynny, colli 'gwasanaethau ecosystem'. Byddai hefyd yn bygwth y fframwaith rheoleidd-dra ar gyfer datblygu cynaliadwy gan arwain at ansicrwydd busnes. Yn gynharach ym mis Mai, ymunodd bron i 100 o grwpiau amgylcheddol a chymdeithasau sifil yr UE, gan gynnwys WWF, Birdlife a Chyfeillion y Ddaear i gofrestru eu gwrthwynebiad i gynlluniau posibl y Comisiwn i ddiwygio'r Cyfarwyddebau natur, gan lansio ymgyrch ar-lein . Lansiodd yr RSPB hefyd ymgyrch 'Defend Nature' yn wyneb asesiad y Comisiwn. Mae'r RSPB yn nodi:

European leaders are considering rolling back decades of progress by revising the Directives in the mistaken belief that weaker protection for wildlife is good for business. In reality, this would be bad for business, and a disaster for wildlife.

* Llun o Flickr gan Tony Hisgett. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.

View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg