Beth yw'r camau nesaf ar gyfer Deddf arfaethedig ar lefelau staff nyrsio?

Cyhoeddwyd 02/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

2 Mehefin 2015 Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3076" align="alignnone" width="225"]Darlun o fraich claf gyda drip ynghlwm Llun: o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Ddydd Mercher 3 Mehefin, bydd y Cynulliad yn trafod y camau nesaf ar gyfer cynigion Kirsty Williams AC i gyflwyno Deddf newydd ynghylch lefelau diogel staff nyrsio.

Beth y mae'r Bil yn ceisio ei gyflawni a pham?

Mae'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) yn ceisio sicrhau bod lefelau digonol o staff nyrsio yn y GIG yng Nghymru er mwyn darparu gofal nyrsio diogel ac effeithiol o safon i gleifion ar bob adeg. Bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod ac yna'n penderfynu a ydynt yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth arfaethedig hon.

Wrth gyflwyno'r Bil yn wreiddiol, dywedodd Kirsty Williams:

Mae cynsail y Bil hwn yn syml: gall nyrsys â llai o gleifion i ofalu amdanynt dreulio rhagor o amser gyda phob claf, ac o ganlyniad i hynny, gallant ddarparu gwell gofal.

Mae'n dweud hefyd fod 'rôl ganolog staff nyrsio a’r pwysigrwydd o sicrhau lefelau priodol o staff nyrsio wedi ei amlygu mewn nifer o adroddiadau proffil uchel a chanfyddiadau ymchwil' mewn perthynas â'r GIG yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae'r rhain yn cynnwys 'Adroddiad Francis' yn 2013 ar Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG canol Swydd Stafford ac adroddiad 'Ymddiried mewn Gofal' ('Adroddiad Andrews') yn 2014 ar yr adolygiad o Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

Cymarebau rhwng nyrsys a chleifion

Mae'r Bil yn rhoi dyletswydd ar gyrff yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i roi sylw i ba mor bwysig yw sicrhau lefel briodol o staff nyrsio pa le bynnag y darperir gofal nyrsio gan y GIG.

Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, byddai'r Bil yn cyflwyno cymarebau gofynnol o ran niferoedd staff nyrsio ac yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol gymryd 'pob cam rhesymol' i'w cynnal. I ddechrau, byddai'r ddyletswydd yn berthnasol i 'wardiau oedolion sy'n gleifion mewnol mewn ysbytai' ac mae Kirsty Williams wedi cadarnhau mai ei bwriad hi fyddai diffinio'r rhain fel wardiau meddygol a llawfeddygol sy'n darparu gofal dros nos i gleifion sy'n oedolion mewn ysbytai acíwt. Mae'r Bil yn caniatáu i gymarebau staffio gael eu hymestyn i leoliadau eraill y GIG yng Nghymru.

Ers 2012, mae canllawiau anstatudol gan y Prif Swyddog Nyrsio wedi argymell cymhareb o 1:7 rhwng nyrsys a chleifion yn ystod y dydd. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud nad yw hynny'n ofyniad gorfodol ynddo'i hun ac mai dim ond canllaw yw'r ffigur er mwyn helpu gyda thrafodaethau ynghylch lefelau staff nyrsio yn lleol. Mae'r Prif Swyddog Nyrsio wedi dweud bod tueddiad cryf iawn o gydymffurfio â'r canllawiau presennol. Fodd bynnag, mae Kirsty Williams yn dadlau bod angen deddfwriaeth am nad yw byrddau iechyd lleol wedi cydymffurfio'n llwyr â'r canllawiau yn ystod y tair blynedd ddiwethaf ers eu cyhoeddi'n gyntaf.

Tystiolaeth ac adroddiadau

Mae'r Bil eisoes yn destun cryn ddiddordeb a gwaith craffu.  Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad wedi bod yn ystyried tystiolaeth sy'n ymwneud â'r ddeddfwriaeth arfaethedig ers mis Ionawr 2015. Er bod ei adroddiad yn argymell y dylai'r Cynulliad gytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil, daeth i'r casgliad bod angen gwneud nifer o newidiadau hefyd. Yn benodol, roedd y Pwyllgor yn pryderu am y posibilrwydd o rai canlyniadau anfwriadol arwyddocaol, a gwnaed 19 o argymhellion ar gyfer newid. Mae David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn rhoi rhagor o fanylion am waith craffu'r Pwyllgor yn ei gofnod blog diweddar.

Ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor ar 8 Mai, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad ei hun ar Ymchwil i lefelau staff nyrsio yng Nghymru ar 29 Mai.

Os bydd Aelodau'r Cynulliad yn cytuno â'r egwyddorion cyffredinol, bydd y Bil yn symud ymlaen i'r cyfnod deddfwriaethol nesaf pan fydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn trafod unrhyw welliannau arfaethedig. Gallwch wylio'r drafodaeth yn y Cyfarfod Llawn yn fyw ar Senedd TV tua 3pm ddydd Mercher 3 Mehefin.

View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg