Y Gronfa Natur – y wybodaeth ddiweddaraf

Cyhoeddwyd 05/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

5 Mehefin 2015 Erthygl gan Harriet Howe, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru Llun o dirwedd Penrhyn Llŷn. Yn 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gronfa Natur gwerth £6 miliwn i gefnogi prosiectau a fyddai'n hyrwyddo iechyd a gwydnwch natur yng Nghymru. Gwnaed y cyhoeddiad ar ôl cyhoeddi'r adroddiad Sefyllfa Byd Natur yn 2013 a oedd yn tynnu sylw at y fioamrywiaeth sy'n dirywio yng Nghymru ac yn y DU. Ar hyn o bryd, mae'r Gronfa Natur yn cefnogi 20 o brosiectau ledled Cymru mewn 7 'Ardal Gweithredu Natur', gan gynnwys Bannau Brycheiniog ac Arfordir Sir Benfro (darllenwch fwy ym mlog-bost y Gwasanaeth Ymchwil: Gwella ‘Sefyllfa Byd Natur’ Cymru: y Gronfa Natur). Ni fwriadwyd yn wreiddiol i'r Gronfa Natur ariannu prosiectau yn yr hirdymor. Ym mis Hydref 2014, pan holwyd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, a fyddai'n parhau o un flwyddyn i'r llall, dywedodd:

… no, it will not. The nature fund was an opportunity; it was a catalyst for changing the way in which the system operates. It is not, and never was, intended to be a long-term project.

Disgwyliwyd i brosiectau gwblhau'r rhan fwyaf o'r gwaith sylfaenol yn ystod 2014-15, gyda rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer gwario yn chwarter cyntaf 2015-16. Disgwyliwyd i'r gwaith ddechrau yn ystod haf 2014, yn syth ar ôl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo bob prosiect. Roedd oedi yn y broses gwneud cais yn golygu bod y dyddiad cau ar gyfer cynigion prosiectau wedi'i symud i fis Hydref, gyda'r prosiectau llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2014. Roedd rhagor o oedi gyda'r gwaith sylfaenol ac roedd yn anodd neu'n amhriodol cyflawni rhai o'r camau gweithredu a gynlluniwyd dros y gaeaf. Roedd y cyfuniad o ffactorau tymhorol a chyhoeddi'r arian yn hwyr yn cyfyngu ar yr amser a oedd ar gael i brosiectau gynllunio a dechrau gwaith cyn diwedd blwyddyn ariannol 2014-15. Er bod y Gronfa Natur wedi bwriadu dyrannu £6 miliwn yn wreiddiol, arweiniodd adolygiad o bwysau ariannol ym mhob rhan o'r Adran Cyfoeth Naturiol at leihau'r gronfa i £5 miliwn. Roedd tystiolaeth a ddarparwyd i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan y Gweinidog yn datgelu o'r cyfanswm o £5 miliwn a ddyfarnwyd, dim ond £280,550 oedd wedi'i dalu i brosiectau erbyn diwedd mis Ionawr 2015. Rhagwelwyd y byddai £3.9 miliwn yn cael ei dalu erbyn diwedd mis Mawrth, (yn cynrychioli 77 y cant o gyfanswm y Gronfa Natur) a rhagwelwyd y byddai £869,753 yn cael ei wario yng ngweddill 2015 (a fydd yn rhan o gyllideb 2015-16). Ym mis Mawrth, pan holwyd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, a oedd yn hyderus y gellid gwario £3.9 miliwn o'r arian mewn cyn lleied o amser, dywedodd wrth y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd fod Llywodraeth Cymru yn 'agos' a'i fod yn hyderus, yn nhymor hwy y rhaglen, y byddai'r arian yn cael ei wario. Mae'r Gweinidog wedi cytuno i roi diweddariad i'r Pwyllgor ynghylch cynnydd y gwariant o'r Gronfa Natur. Mae rhai sefydliadau ac Aelodau wedi mynegi pryder ynghylch pa mor llwyddiannus a chost effeithiol fydd y prosiectau a ariennir yn sicrhau gwelliannau i fioamrywiaeth heb fod wedi sicrhau cyllid yn y tymor hwy. Er i Lywodraeth Cymru nodi'n wreiddiol y byddai'r arian ond ar gael ar gyfer 2014-15, mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi dweud wrth y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi hynny ei fod yn ystyried arian posibl yn y dyfodol ar gyfer rhai o'r prosiectau cyfredol drwy gynlluniau fel y Cynllun Datblygu Gwledig:

...we need to be in it for the long haul here, to change the environment and the ecological structures of communities: land-based change. I just wasn’t comfortable with the nature fund as it was.

*Llun o Flickr gan Kris Williams, trwydded gan Creative Commons. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg