Cyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Cyhoeddwyd 08/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

8 Mehefin 2015 Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru Heddiw (8 Mehefin 2015), bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Mae'r Bil yn nodi cyfres o gynigion penodol mewn meysydd blaenoriaeth yng nghyd-destun polisi iechyd cyhoeddus. Y bwriad yw creu amodau cymdeithasol sy'n hyrwyddo iechyd da, gan geisio atal mathau o niwed y gellir eu hosgoi. Yn ôl y Memorandwm Esboniadol, mae dull ataliol y Bil yn adlewyrchu egwyddorion gofal iechyd darbodus
drwy geisio ymyrryd ar adegau sydd â photensial sylweddol o sicrhau buddion hirdymor, i iechyd unigolion ac o ran osgoi’r beichiau hirdymor a achosir gan afiechyd y gellid ei osgoi.
Beth mae'r Bil yn ei wneud? Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer yr eitemau a ganlyn: Tybaco a chynhyrchion nicotin
  • Cyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin fel sigaréts electronig mewn mannau cyhoeddus a mannau gwaith caeedig a sylweddol gaeedig, gan sicrhau bod y defnydd o'r dyfeisiau hyn yn cyd-fynd â'r darpariaethau presennol ar gyfer ysmygu.
  • Creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin.
  • Ychwanegu troseddau at y drefn Gorchymyn Mangreoedd o dan Gyfyngiad. (Mae'r Gorchymyn Mangre o dan Gyfyngiad yn gwahardd gwerthu cynhyrchion tybaco mewn mangre).
  • Gwahardd rhoi tybaco neu gynhyrchion nicotin i bobl dan 18 oed.
Triniaethau arbennig
  • Creu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer ymarferwyr a busnesau sy'n darparu 'triniaethau arbennig', sef aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatwio.
  • Cyflwyno gwaharddiad ar dyllu rhannau personol o'r corff i bobl o dan 16 oed.
Gwasanaethau fferyllol
  • Newid y modd y mae byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau am wasanaethau fferyllol drwy sicrhau bod y penderfyniadau hyn yn seiliedig ar asesiadau o angen fferyllol yn eu hardaloedd.
Darpariaeth toiledau
  • Gosod gofyniad ar awdurdodau lleol i baratoi strategaethau lleol ar gyfer darparu toiledau at ddefnydd y cyhoedd, a mynediad atynt, yn seiliedig ar anghenion eu cymunedau.
Dyma'r hyn nad yw'r Bil yn ei gynnwys Nid yw'r cam o gyflwyno isafswm pris uned ar gyfer alcohol wedi'i gynnwys ym Mil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Roedd y cam hwnnw'n un o gynigion mwyaf dadleuol yr Ymgynghoriad Papur Gwyn a gynhaliwyd eisoes. Ar 28 Ebrill 2015, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cynulliad:
Er ein bod yn credu bod isafswm pris uned alcohol yn fesur iechyd cyhoeddus allweddol, ar ôl ystyried yn ofalus, ni fyddwn yn cynnwys darpariaeth yn y Bil iechyd cyhoeddus tra bod rhywfaint o ansicrwydd ynghylch amseru’r dyfarniad Ewropeaidd ar Ddeddf Alcohol (Isafswm Prisio) (yr Alban) 2012 yr Alban, ond rydym yn bwriadu cyhoeddi Bil drafft yn ymwneud ag isafswm pris alcohol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus maes o law.
Dywedodd rhai o'r rhanddeiliaid a ymatebodd i'r Papur Gwyn fod y diffyg camau gweithredu ar gyfer mynd i'r afael â gordewdra yn fater o bryder. Roedd y cynigion yn y maes hwn wedi'u cyfyngu i osod safonau maeth mewn lleoliadau penodedig, sef lleoliadau cyn ysgol a chartrefi gofal. Dywedodd Coleg Brenhinol y Ffisigwyr:
...we are very disappointed to see that this is the extent of the Welsh Government commitment in this White Paper on measures to tackle obesity and physical inactivity in Wales.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw y bydd y cynnig i gyflwyno safonau maeth yn datblygu'r gwaith a wnaed eisoes mewn ysgolion ac ysbytai. Y bwriad yw y bydd yn cael ei gyflawni drwy ddeddfwriaeth eilaidd a/neu ganllawiau. Felly, nid oes sôn ym Mil Iechyd y Cyhoedd ei hun am fynd i'r afael â gordewdra ac anweithgarwch corfforol. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn parhau i ystyried ystod o gamau gweithredu ar gyfer mynd i'r afael â gordewdra yng Nghymru, ac wedi datgan na fydd angen deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer y rhan fwyaf ohonynt, neu y byddai'n bosibl eu hystyried gan ddefnyddio pwerau deddfwriaethol cyfredol. Ymgynghori Cyflwynwyd Bil Iechyd y Cyhoedd yn dilyn cyfnod helaeth o ymgynghori. Yn 2012/13, cyhoeddwyd  Papur Gwyrdd a oedd yn gofyn am sylwadau ynghylch a oedd angen Bil iechyd cyhoeddus yng Nghymru, ac ynghylch y rôl y gallai deddfwriaeth ei chwarae o ran sbarduno'r broses o wella iechyd pobl. Cafwyd cefnogaeth frwd i'r awgrym y dylai materion iechyd gael eu hystyried wrth ddatblygu pob polisi. Wrth gyhoeddi Papur Gwyn at ddibenion ymgynghori (yn nhymor y gwanwyn 2014), dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r dull hwn o gynnwys iechyd ym mhob polisi yn cael ei weithredu drwy Fil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), ac y byddai Bil Iechyd y Cyhoedd yn canolbwyntio ar gyfres o gamau gweithredu ymarferol mewn meysydd gwahanol o bolisi iechyd y cyhoedd. Wrth ymateb i'r Papur Gwyn hwn, mynegodd rhai rhanddeiliaid siom ynghylch pa mor gyfyngedig yr oedd y cynigion ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd. Dywedwyd fod yna ddiffyg dyhead a bod y papur yn gam sylweddol yn ôl o'r cynigion arloesol, lefel uchel a gafodd eu cynnwys yn y Papur Gwyrdd blaenorol. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i bwysleisio y bydd Bil Iechyd y Cyhoedd yn canolbwyntio ar feysydd penodol lle mae deddfwriaeth yn briodol, ac y bydd y Bil hwn yn cyd-fynd â'r dull gweithredu cyffredinol sy'n cael ei ddatblygu yn neddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r cwestiwn ynghylch a fydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ateb pryderon rhanddeiliaid yn un agored. Mae'r sector iechyd wedi beirniadu'r ffaith nad yw'r ddeddfwriaeth hon yn hanner digon eglur o ran hyrwyddo'r agenda iechyd. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru:
The [Future Generations] Bill has been drafted in a manner which fails to include health in the common aim and health in all policies is merely implicit. This means that there is every chance that despite two potentially impactful pieces of legislation that could set public health in Wales on a trajectory to be envied on the international stage, Wales could be left with no notable levers to make the strategic, large scale changes that are needed to address public health challenges.
Disgwylir i'r Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) gael ei gyfeirio at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn iddo ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1. Bydd erthyglau pellach ar bob un o gynigion Bil Iechyd y Cyhoedd yn cael eu cyhoeddi mewn cyfres drwy gydol yr wythnos.